Traciau i'r tu hwnt ac adlais o blatfformau blaenorol

O synau ysbrydion, olion traed yn adleisio, newidiadau tymheredd, ffigurau od, a lleisiau’n sibrwd i drenau dirgel, staff ysbrydol a pholtergeistiaid, mae ein gorsafoedd rheilffordd wedi ysbrydoli sawl stori frawychus ers cychwyn y 19eg ganrif.

Cymru yw gwlad y cyfarwydd - sef y traddodiad o adrodd hanesion ar lafar - ac mae straeon goruwchnaturiol yn rhan o draddodiad ehangach o gasglu a chadw storïau o'n diwylliant a'n llên gwerin a rennir gyda’r gororau.

Roedd cynnydd y rheilffyrdd hefyd yn cyd-fynd ag ymchwydd mewn straeon ysbrydion, y gothig ac ysbrydyddiaeth. Gwelwyd trenau, rheilffyrdd a'u hadeiladau yn symbol o foderniaeth yn tarfu ar dirweddau hynafol a chymunedau hirsefydlog a'u hymdeimlad o gynefin. Roeddynt yn cynrychioli trothwy oherwydd eu swyddogaeth o drafnidiaeth; megis gofod rhwng bywyd a marwolaeth, y gorffennol a’r dyfodol, y hysbys a’r anhysbys ac felly yn meithrin storïau - boed nhw’n ffeithiol neu beidio!

Gyda phartneriaid academaidd a chymunedol, rydym yn mapio'r goruwchnaturiol ledled ein rhwydwaith. Mae hyn o bwys oherwydd bod cadw'r traddodiadau diwylliannol yma a deall ein treftadaeth ddiwylliannol a llên gwerin yn datgelu haenau diwylliannol i'n seilwaith diwydiannol a'r dirwedd mewn modd hollol newydd. Felly, mae archwilio'r gorffennol a'r presennol yn adrodd stori ein treftadaeth.

Rydym wedi edrych ar nifer o ffynonellau gwahanol er mwyn creu rhestr Rheilffordd 200 Calan Gaeaf arbennig o orsafoedd rheilffordd ysbryd-oledig Cymru a'r Gororau.

Os oes gan unrhyw un unrhyw straeon maen nhw'n fodlon eu rhannu, cysylltwch â ni isod

Cysylltu â ni

Y 20 gorsaf rheilffordd sy’n cael eu cyrchu gan y goruwchnaturiol yn fwyaf aml yw:

  1. Canol Caerdydd
  2. Cyffordd Llandudno
  3. Bangor
  4. Caerffili
  5. Abermaw
  6. Llanelli
  7. Amwythig
  8. Machynlleth
  9. Y Fenni
  10. Penarth
  11. Caergybi
  12. Conwy
  13. Henffordd
  14. Betws-y-Coed
  15. Aberystwyth
  16. Porthmadog
  17. Y Rhyl
  18. Blaenau Ffestiniog
  19. Caer
  20. Tal-y-llyn