Cerflun Thomas Brassey

Datgelodd Ei Uchelder Brenhinol Dug Caerloyw gerflun yn swyddogol i gofio un o adeiladwyr rheilffyrdd mwyaf Prydain o flaen gorsaf Caer.

Roedd y cerflun i Thomas Brassey yn nodi dau ddegawd o waith i anrhydeddu dyn a helpodd i adeiladu traean o holl reilffyrdd Prydain ac un ym mhob 20 milltir o reilffyrdd y byd erbyn adeg ei farwolaeth.

Dywedodd Stephen Langtree MBE, Cadeirydd Cymdeithas Thomas Brassey mai'r prif amcan oedd addysgu pobl am lwyddiannau diddorol Brassey.

“Mae ef wedi bod yn un o’n harwyr tawel ac nid yw llawer o bobl wedi clywed amdano,” meddai Mr Langtree. 

“Mae’r syniad am gerflun yn dyddio’n ôl 20 mlynedd ac rydym yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl i ddysgu mwy amdano a’r hyn a gyflawnodd.

“Teimlais lwmp mawr yn fy ngwddf pan welais i’r cerflun yn cael ei godi o’r lori yr wythnos diwethaf, gan ein bod ni wedi bod yn gweithio tuag at y diwrnod hwn ers blynyddoedd.”

O flaen torf o fwy na 300 o westeion gwadd yn ogystal â phobl oedd yn digwydd pasio, datgelwyd y cerflun yn swyddogol wrth fynedfa gorsaf reilffordd Caer gan Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Richard, Dug Caerloyw.

Dywedodd Ei Uchelder Brenhinol ei fod yn “gobeithio y bydd pobl sy’n cerdded heibio yn cymryd yr amser i stopio wrth y cerflun a dysgu mwy”.

Dyluniwyd y cerflun efydd gan yr enwog Andrew Edwards ac mae wedi’i seilio’n agos ar yr ychydig ffotograffau sydd ar ôl o Brassey. Caiff ei bortreadu’n dal mapiau o'r llinell reilffordd o Gaer i Gaergybi, a adeiladodd ym 1845 er mwyn cwblhau'r cysylltiad o'r porthladd i Lundain.

Costiodd y cerflun tua £100,000 a chodwyd arian gan y gymdeithas trwy nifer o ffynonellau gan gynnwys Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y Tair Sir, a gefnogir gan Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast.

Wedi’i eni ym 1805 tua chwe milltir o Gaer, mynychodd Brassey ysgol yn y ddinas cyn gweithio fel syrfëwr tir ochr yn ochr â Thomas Telford a gweithio ar yr hyn a fyddai, yn y pen draw, yn dod yn ffordd yr A5. Aeth ymlaen i arwain prosiectau adeiladu rheilffyrdd ledled Prydain, Ffrainc, y Great Trunk Railway yng Nghanada, y Grand Crimea Central Railway a dwsinau o reilffyrdd eraill.

Adeiladodd ffatrïoedd, gweithfeydd peirianneg, systemau draenio, dociau a charthffosydd hefyd. Yn ogystal â hynny, helpodd i osod y cebl telegraff trawsiwerydd cyntaf ar draws Gogledd yr Iwerydd.

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol TrC: “Mae hwn yn ddiwrnod cyffrous iawn wrth i ni gael cynrychioli’r partneriaethau rheilffyrdd cymunedol sydd wedi chwarae rhan annatod wrth lwyddo i sicrhau rhan olaf y cyllid.”