Cyflwyniad - pwy ydych chi?
Colin Lea (Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad).
Beth yw eich swydd ym maes rheilffyrdd? (ers pryd ydych chi wedi bod yn gwneud y swydd, beth ydyw, ydych chi bob amser wedi gweithio ym maes rheilffyrdd neu mewn sectorau eraill - beth oedd y swyddi hyn?
Rwyf wedi gweithio ym maes trafnidiaeth ers dros 20 mlynedd ac ymunais â Trafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad Cwsmeriaid ym mis Hydref 2018 yn dilyn cyfnod yn arwain tîm KeolisAmey fel Cyfarwyddwr Ymgeisio a Symud. Felly rwyf wedi bod yn gysylltiedig â TrC ers 2015.
Fy swydd gyntaf yn y maes oedd gyda rheilffordd ysgafn yn Nottingham - yn gyntaf, gydag awdurdod yn arwain ymgynghoriad cyhoeddus ar leiniau tramiau a helpu i adeiladu'r lein gyntaf. Yna, treuliais bedair blynedd fel Rheolwr Masnachol gyda Nottingham Tram, gan arwain gwasanaeth cwsmeriaid, y cyfryngau, marchnata, prisiau a thocynnau.
Yn dilyn ychydig o flynyddoedd yn gweithio yn y sector bysiau ar draws gogledd Lloegr ac yn Bournemouth, bûm yn gweithio gyda thimau bidio masnachfreintiau rheilffyrdd - Inter City West Coast, Boston Commuter Rail (UDA), East Coast (dirprwy gyfarwyddwr bidio) ac yna fel Cyfarwyddwr Bidio gyda TransPennine, London Overground a Chymru. Roeddwn yn rhan o'r tim oedd yn bidio am gontractau ar gyfer rheilffyrdd DLR, Manchester Metrolink a’r Luas yn Nulyn hefyd.
Pa ran o'r rheilffordd ydych chi'n gweithio ynddi a pham ei bod yn bwysig? Sut mae'n helpu i gyfrannu at y rheilffordd?
Mae fy nhîm a minnau yn cynllunio amserlenni'r rheilffordd, gan edrych ymlaen sawl blwyddyn at newidiadau sylweddol, a hefyd o wythnos i wythnos pan fydd angen i ni newid y cynllun ar gyfer gwaith peirianneg, prinder fflydoedd, digwyddiadau neu ymateb i amgylchiadau eraill. Hefyd mae fy nhîm yn rheoli priodoli oedi, dadansoddi perfformiad a gwella, deall y rhesymau dros oedi ac yna gweithredu er mwyn gwella canlyniadau. Rydym hefyd yn rheoli'r gwasanaethau bws yn lle trên, cynllunio tymhorol, contractau mynediad a llawer mwy.
Rwy'n aelod o Fwrdd Perfformiad Rhwydwaith cenedlaethol, gan helpu i wella perfformiad y rheilffordd gyfan.
Pa gymwysterau, sgiliau neu hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith a/neu sydd eisoes gennych?
Mae'r radd sydd gennyf mewn economeg yn helpu i roi fframwaith da i penderfyniadau. Mae gen i hefyd gymwysterau proffesiynol mewn marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Rwy'n aelod ymgysylltiedig o Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Rheilffyrdd.
Ydych chi'n gwneud unrhyw beth y tu allan i'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r rheilffordd? (e.e. gwirfoddoli, mentora ac ati)
Y llynedd, roeddwn yn fentor ar Reolwr Prosiect rhagorol sy’n gweithio gyda Network Rail. Roedd yn rhan o gynllun mentora Menywod mewn Rheilffyrdd.
Rwy'n Gyfarwyddwr Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, y rheilffordd dreftadaeth hiraf yn y DU. Rwy’n gwirfoddoli hefyd, gan helpu i adfer cerbydau pren treftadaeth sy'n dyddio o'r 1890au ar gyfer y rheilffordd.
Yn ddiweddar, cefais fy mhenodi'n aelod o'r Bwrdd Cynghori ar Ddynodi Treftadaeth Rheilffyrdd, gan helpu i benderfynu pa asedau rheilffordd y dylid eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rhoddir llawer o'r asedau hyn yn rhodd i amgueddfeydd gan gynnwys i'r Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol.
Allwch chi ddisgrifio diwrnod arferol yn eich bywyd chi?
Mae pob diwrnod yn wahanol. Rwy'n mwynhau'r ffaith bod heriau newydd yn codi pob dydd.
Beth a’ch denodd i weithio yn y diwydiant rheilffyrdd?
Mae'r diwydiant yn helpu i gysylltu pobl â chyfleoedd. Byddai'n llawer gwell gen i weithio mewn amgylchedd lle'r oedd y canlyniad yn gadarnhaol i ddynoliaeth yn gyffredinol, o'i gymharu â lleoedd llawer llai teilwng!
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried gyrfa yn y rheilffordd neu pam y dylen nhw ystyried rôl yn y maes rheilffyrdd?
Mae gwaith caled yn curo talent.
Beth hoffech chi ei weld yn digwydd yn y 200 mlynedd nesaf o'r rheilffyrdd?
Wel mewn 200 mlynedd, yr HS8 i Ddulyn drwy dwnnel o Gymru o bosib? Ond byddwn yn hapus pe byddai yn cyrraedd Crewe o leiaf!