TaithCymru conceptual design
Dyluniad cysyniadol TaithCymru

Ffordd symlach o deithio rhwng Bangor a Chaerfyrddin

Mae TaithCymru yn wasanaeth bws newydd sydd wedi'i gynllunio i wneud teithiau ledled Cymru yn haws. P'un a ydych chi'n cynllunio gwyliau byr, yn mynd adref o'r brifysgol, yn ymweld â ffrindiau a theulu neu'n archwilio lleoedd fel Bangor, Aberystwyth, Aberaeron neu Gaerfyrddin, mae'n cynnig ffordd fwy uniongyrchol a chyfforddus o deithio.

 

I ble mae TaithCymru yn mynd?

Gan redeg rhwng trefi allweddol, gorsafoedd rheilffordd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n cysylltu â theithiau pellach, mae TaithCymru wedi'i gynllunio i wneud teithiau hirach ledled Cymru yn haws i'w cynllunio, yn fwy cyfforddus ac yn fwy cyfleus, gyda disgwyl i amseroedd teithio fod hyd at awr yn gyflymach nag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus eraill.

 

Lansiad a gynlluniwyd:

Hydref 2026

 

Llwybr:

Gorsaf reilffordd Bangor

Caernarfon

Porthmadog

Dolgellau

Machynlleth

Prifysgol Aberystwyth

Gorsaf fysiau Aberystwyth

Aberaeron

Gorsaf reilffordd Caerfyrddin

 

I ble allwch chi deithio gyda TaithCymru?

O strydoedd hanesyddol Caernarfon a mynyddoedd Eryri i drefi glan môr Aberaeron ac Aberystwyth, mae TaithCymru yn ei gwneud hi'n haws archwilio rhai o gyrchfannau mwyaf poblogaidd Cymru heb orfod teithio mewn car.

 

Pam dewis TaithCymru?

  • Hyd at awr yn gyflymach nag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus eraill
  • Cysylltiadau uniongyrchol rhwng gogledd a de-orllewin Cymru
  • Cysylltiadau gyda gwasanaethau rheilffordd, bysiau lleol, gwasanaethau TrawsCymru
  • Seddi cyfforddus sy’n gogwyddo
  • Wi-Fi am ddim
  • Aerdymheru
  • Cyfleusterau toiled*
  • Lle bagiau pwrpasol

*Er bod ein coetsys yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, dyw'r toiledau ddim yn hygyrch, yn anffodus. Os bydd angen defnyddio'r toiled yn ystod eich taith, gofynnwch i'r gyrrwr stopio yn y lleoliad nesaf pan fydd yn gyfleus.

 

Cwestiynau cyffredin

Pryd y caiff TaithCymru ei lansio?

Bwriedir lansio TaithCymru ddiwedd mis Hydref 2026. Caiff rhagor o wybodaeth ei rhannu wrth i’r lansiad agosáu.

Ble fydd TaithCymru yn rhedeg?

Bydd y llwybr yn rhedeg rhwng gorsaf reilffordd Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Prifysgol Aberystwyth, gorsaf fysiau Aberystwyth, Aberaeron a gorsaf drenau Caerfyrddin.

Pam mae'r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno?

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus pellter hir rhwng gogledd a de-orllewin Cymru. Gall teithiau trafnidiaeth gyhoeddus presennol ar hyd y coridor hwn fod yn hir ac yn gymhleth, felly mae TaithCymru wedi cael ei ddatblygu i ddarparu opsiwn mwy uniongyrchol ac ymarferol.

A fydd TaithCymru yn cysylltu â gwasanaethau rheilffordd a bysiau lleol?

Bydd. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach, gyda chynlluniau ar gyfer cysylltiadau â gwasanaethau rheilffordd, bysiau lleol, gwasanaethau TrawsCymru.

Faint fydd y tocynnau'n ei gostio?

Nid yw prisiau tocynnau wedi'u cadarnhau eto. Caiff gwybodaeth am docynnau ei rhannu cyn y lansiad.

A fydd gwybodaeth am deithio hygyrch ar gael?

Bydd. Darperir gwybodaeth am hygyrchedd cyn y lansiad fel y gall cwsmeriaid gynllunio eu taith yn hyderus.

Ydych chi eisiau derbyn diweddariadau ar ddyddiadau lansio, amserlenni a gwybodaeth am docynnau? Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau TaithCymru yma.