Submitted by Content Publisher on

Mae tua 100 miliwn o deithiau’n cael eu gwneud ar fws yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’n sector sy’n tyfu ac yn newid oherwydd yr angen i alluogi pobl i deithio’n fwy cynaliadwy ac yn fwy hyblyg yn y byd ar ôl Covid-19.

Mae llawer yn digwydd i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Mae cerbydau allyriadau isel newydd yn cael eu cyflwyno ac mae arloesi’n digwydd a fydd yn caniatáu i fysiau redeg gan ddefnyddio tanwyddau mwy gwyrdd a thrydan. Mae gwasanaethau mwy hyblyg sy’n ymateb i’r galw yn cael eu cyflwyno er mwyn diwallu anghenion teithio pobl a’u cymunedau.

 

Teithio ar fws yng Nghymru

 

Gwybodaeth am deithio ar fysiau yng Nghymru

  • Beth yw ein cylch gwaith ar gyfer bysiau?
    • Ble bynnag rydych chi yng Nghymru, rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio. Boed hynny wrth deithio i’r gwaith, i’r ysgol, i’ch apwyntiad yn yr ysbyty neu i grwydro ar y penwythnos. Mae bysiau yn rhan hanfodol o’n cynlluniau cyffrous i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull sy’n diwallu anghenion pobl.

      Mae gan ein tîm bysiau arbenigedd a gwybodaeth o bob rhan o’r sector, gan gynnwys cynllunio rhwydweithiau, dadansoddi data, datgarboneiddio, prisiau a thocynnau a rheoli prosiectau.

      Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i weithredu polisi bysiau Llywodraeth Cymru fel rhan o’n cylch gwaith ehangach i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig a hygyrch sy’n gwasanaethu pobl Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

      • Cynghorau lleol
      • Gweithredwyr bysiau
      • Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr
      • Cymdeithas Bysiau Cymru
      • Defnyddwyr Bysiau Cymru

      Rydyn ni’n gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i wella gwasanaethau bysiau a sicrhau eu bod yn ymateb yn well i ofynion teithio pobl a chymunedau sy’n newid. Rydyn ni hefyd yn annog mwy o integreiddio rhwng bysiau a dulliau eraill o drafnidiaeth, megis llwybrau cerdded, ar olwynion a beicio.

 

Tocynnau teithio rhatach