Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn gyrchfan wych ar gyfer gwyliau penwythnos, ac mae'n hawdd cyrraedd yno ar y trên o Glasgow.

 

Pa mor hir yw'r trên o Glasgow i Gaerdydd?

Mae'n cymryd tua chwe awr, felly efallai yr hoffech chi fanteisio'n llawn ar ein Wi-Fi am ddim ar y trên. Mae Caerdydd yn gyrchfan i dwristiaid sy'n boblogaidd yn rhyngwladol, gydag atyniadau niferus mewn dinas sy'n fywiog, yn ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol. P'un a ydych am fynd yno i siopa, i wylio drama theatr, archwilio'r castell godidog neu i gael pryd o fwyd, mae gan Gaerdydd y cyfan.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Glasgow i Gaerdydd ar y trên?

Mae Caerdydd Canolog wedi'i leoli yng nghanol prysur y ddinas ac mae cysylltiadau rheilffordd ymlaen yn aml o'r fan hon i bob rhan o'r ddinas. Lawrlwythwch ein ap hawdd ei ddefnyddio i gael yr  wybodaeth ddiweddaraf am ein cynigion tocynnau diweddaraf gan gynnwys ein tocynnau hyblyg Unrhyw brydgostyngiadau i bobl dros 50 oed a chynigion i grwpiau. Drwy wneud hyn, bydd gennych fwy yn eich waled ar gyfer eich taith i Gaerdydd.