Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

P’un ai ar gyfer busnes neu bleser, mae mynd ar y trên yn eich galluogi i gyrraedd eich cyrchfan yn ddi-straen ac yn barod ar gyfer y diwrnod.
 
Mae ein trenau’n cynnig Wifi am ddim, sy’n golygu y gallwch chi gysylltu â’ch ffrindiau, parhau â’ch gwaith yn effeithlon neu fwynhau eich hoff ganeuon wrth edrych ar brydferthwch cefn gwlad drwy’r ffenestr. Gyda dewis eang o docynnau ar gael, mae digon o gyfleoedd i arbed arian. Gallwch hefyd lwytho ein ap ffôn symudol am ddim fydd yn rhoi gwybod i chi am y cynigion arbennig diweddaraf, newidiadau i amserlenni, a hyd yn oed yn caniatáu i chi archebu tocynnau ar-lein.
 
Mae sicrhau bod ein teithwyr yn gyfforddus yn flaenoriaeth i ni bob amser, felly mae ein trenau a’n gorsafoedd yn cael eu glanhau’n drwyadl yn rheolaidd. Rydym hefyd yn blaenoriaethu diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff, ac o ganlyniad rydym yn archwilio pob trên yn drylwyr. 
 
Archebwch eich tocyn trên heddiw o Henffordd i Lundain a mwynhewch daith bleserus gyda Trafnidiaeth Cymru.