Mwynhewch daith ddi-dor rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae ein gwasanaeth dibynadwy yn sicrhau taith esmwyth ac effeithlon, gan sicrhau profiad teithio pleserus o'r dechrau i'r diwedd.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Ben-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd?
Mae'n cymryd tua 20 munud. Mae trenau uniongyrchol yn rhedeg yn aml drwy’r dydd o 04:00 tan 23:00.
Pam teithio o Ben-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd?
Mae Caerdydd yn ddinas gyffrous, amlddiwylliannol a bywiog, gyda digon i'w gynnig i’r rhai sy’n chwilio am ddiwrnod allan neu’r rhai sy'n bwriadu aros ychydig yn hirach. Yng nghanol prifddinas liwgar Cymru saif Castell Caerdydd trawiadol, wedi'i amgylchynu gan Barc Bute poblogaidd. Mae gan yr Amgueddfa Genedlaethol gerllaw gasgliadau o gelf gyfoes, hanes naturiol a mwy. Mae'r casgliad deinosor cystal â’r rhai a geir yn amgueddfeydd Llundain.
Mae gan Fae Caerdydd fwytai a bariau sydd wedi ennill gwobrau ac mae'n gartref i Ganolfan eiconig y Mileniwm, lleoliad o'r radd flaenaf ar gyfer celf, theatr a pherfformiadau byw. Fe welwch hefyd adeilad y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ydych chi'n gefnogwr chwaraeon? Cafodd Caerdydd ei henwi'n Brifddinas Chwaraeon Ewrop 2014. Mae Stadiwm Principality yn cynnal amrywiaeth eang o gemau, gan gynnwys rygbi, pêl-droed, chwaraeon beiciau modur a bocsio. Mae hefyd yn cynnal nifer o gyngherddau cerddoriaeth drwy gydol y flwyddyn. Os yw'n well gennych gymryd rhan mewn chwaraeon, mae Caerdydd yn cynnig cyrsiau mewn llawer o wahanol weithgareddau, megis rafftio dŵr gwyn, neidio rhaeadrau, dringo a syrffio.
Mae llawer o ymwelwyr â Chaerdydd yn cael eu denu gan yr amrywiaeth eang o brofiadau siopa arbennig. Mae’r ddinas yn cynnig canolfannau siopa mawr sy’n cynnwys brandiau enwog ac enwau dylunwyr mawr. Fel arall, gadewch y prysurdeb ar ôl ac archwiliwch drysorfa o siopau boutique unigryw. Fe welwch wneuthurwyr gemwaith, marchnadoedd hen ddillad a chelf a chrefftau wedi'u gwneud â llaw ochr yn ochr â chaffis clyd a siopau siocled crefftus.
Beth bynnag fo'ch rheswm dros ymweld â Chaerdydd ar y trên, mae nifer o opsiynau rhatach ar gael. Wrth brynu eich tocynnau, ein nod yw cynnig ein pris isaf sydd ar gael i chi bob tro. Beth am lawrlwytho ein ap i wneud bywyd yn haws?
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-