Teithiwch o Wellington i Stryd Newydd Birmingham a mwynhewch daith gyflym, ddibynadwy a chyfforddus. Gyda gwasanaethau aml a thaith sy’n cymryd llai nag awr, mae eich taith i'r ddinas yn gyflym, yn hawdd ac yn ddidrafferth.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Wellington i Birmingham?

Mae'n cymryd rhwng 47 a 68 munud ar y gwasanaethau cyflymaf, gan roi amser i chi weithio, pori drwy gyfryngau cymdeithasol, darllen neu eistedd yn ôl ac ymlacio.

 

Pa mor aml mae trenau'n rhedeg o Wellington i Birmingham?

Mae trenau'n rhedeg yn aml trwy gydol y dydd. P'un a ydych chi'n cymudo, yn cynllunio taith siopa neu'n ymweld dros benwythnos, fe welwch wasanaeth sy'n cyd-fynd â'ch amserlen.

 

A oes trenau uniongyrchol o Wellington i Birmingham?

Oes, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'n uniongyrchol a gallwch ddefnyddio ein cynllunydd teithiau i ddod o hyd i'r rhain.

 

Pam teithio o Wellington i Birmingham ar y trên?

Mae Birmingham yn ddinas brysur sy'n llawn hanes, diwylliant, siopa ac adloniant. Cyrhaeddwch yn hamddenol ac yn barod i archwilio:

  • Teithiau cerdded tywys - Darganfyddwch hanes y tu ôl i gangiau ‘slogio’ enwog y ddinas - y Peaky Blinders go iawn - neu mwynhewch y bensaernïaeth syfrdanol sydd i’w gweld ar hyd strydoedd y ddinas. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau coffi o un o gaffis lleol Birmingham cyn i chi gychwyn.

  • Stadiwms, lleoliadau cerddoriaeth a digwyddiadau yn Birmingham - Gall cefnogwyr chwaraeon ymweld â'r Villa Park enwog, cartref Aston Villa FC neu’r Coventry Building Society Arena, gan eu bod yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon yno. Caiff cefnogwyr cerddoriaeth eu sbwylio gyda’r dewis o leoliadau fel yr O2 Academy Birmingham a'r Barclaycard Arena, gan gynnig popeth o gyngherddau mawr i gigs bach mewn mannau eiconig fel The Hare and Hounds a The Sunflower Lounge.

  • Siopa a bwyta - Mae Birmingham yn baradwys i siopwyr, gyda'r Bullring a'r Grand Central yn cynnig popeth o frandiau stryd fawr i fwytai cain i gyd o dan yr un to. Os ydych chi'n chwilio am rywbeth mwy unigryw, ewch i'r Jewellery Quarter am ddarnau gemwaith unigryw, orielau dros dro a bariau arbennig wedi'u lleoli mewn adeiladau Sioraidd hanesyddol.

Gweler ein canllaw i ymweld â Birmingham am fwy o awgrymiadau.

 

Awgrymiadau gorau ar gyfer prynu eich tocynnau trên Wellington i Birmingham

Arbedwch arian a theithiwch fel y mynnwch gyda'n hopsiynau tocynnau hyblyg:

  • Tocynnau Advance*: Prynwch yn gynnar i sicrhau ein prisiau isaf.

  • Cardiau Rheilffordd: Bachwch hyd at draean oddi ar eich taith gyda cherdyn rheilffordd.

  • Tocynnau Unrhyw Bryd: Teithiwch bryd bynnag sy'n addas i chi gyda'n dewisiadau hyblyg.

Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio sy'n gyfeillgar i'r gyllideb mewn un lle hawdd ei gyrraedd.

*Tocynnau Advance yw ein tocynnau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian a gellir defnyddio gostyngiadau cerdyn rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance gan eu bod yn gyfyngedig o ran niferoedd ac maent ond ar werth hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio. Byddwn yn argymell eich bod yn prynu'n gynnar er mwyn osgoi siom.