Diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol

Mae trafnidiaeth yn cysylltu pobl a chymunedau, yn helpu busnesau i ffynnu, yn cefnogi swyddi ac yn creu ffyniant. Mae'n declyn pwerus a deinamig ar gyfer cydlyniad cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol a thwf economaidd cynhwysol.

Bydd Llwybr Newydd - Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn siapio trafnidiaeth yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae'n blaenoriaethu anghenion teithio pobl a'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyflwyniad

Mae’r Datganiad Llesiant hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r egwyddorion a’r nodau a bennir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy a meddwl hirdymor wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Ei nod yw sicrhau bod anghenion cenedlaethau’r presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Mae ein hamcanion llesiant wedi’u cynllunio i sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint â phosibl at y nodau hyn. Mae’r amcanion hyn hefyd yn glynu wrth y pum ffordd o weithio a ragnodir gan y Ddeddf: atal, integreiddio, cydweithio, cynnwys a meddwl hirdymor.

Fel sefydliad trafnidiaeth a theithio, rydym yn cydnabod ein sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar gysylltedd, datblygu economaidd, iechyd a llesiant, cynaliadwyedd amgylcheddol a thegwch cymdeithasol ledled Cymru. Mae ein hamcanion yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon sy’n gwasanaethu cymunedau yng Nghymru yn well.

Mae’r Datganiad Llesiant hwn yn amlinellu ein hamcanion penodol, y rhesymeg y tu ôl iddynt, a sut maent yn cyd-fynd â’r nodau llesiant cenedlaethol. Mae’n disgrifio ein dull gweithredu ar gyfer gweithredu’r amcanion hyn a sut byddwn yn mesur ac yn adrodd ar ein cynnydd. Drwy integreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ein gweithrediadau craidd a’n prosesau gwneud penderfyniadau, mae gennym rôl allweddol i siapio dyfodol mwy cynaliadwy a chadarn i Gymru.

 

Ein taith tuag at lesiant Cymru 2018-2024

Er nad yw wedi’i rhwymo’n gyfreithiol gan ofynion penodol y Ddeddf tan fis Mehefin 2024, roeddem o’n gwirfodd yn croesawu ei hethos, gan gydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth gynaliadwy o ran cyflawni nodau llesiant Cymru. Mae ein dull rhagweithiol yn adlewyrchu ein rôl i lunio dyfodol mwy cynaliadwy a chadarn i Gymru.

Rydym yn dangos ein hymrwymiad i’r nodau llesiant drwy amrywiol fentrau cynaliadwyedd. Drwy integreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn ein polisi trafnidiaeth, ein cynlluniau a’n gweithrediadau, rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel hygyrch a buddsoddi mewn seilwaith cerdded, beicio ac olwyno.

Mae cydweithio’n parhau i chwarae rhan hollbwysig yn ein dull gweithredu. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i wella cysylltedd ledled Cymru, gan sicrhau bod atebion trafnidiaeth yn diwallu anghenion amrywiol cymunedau. Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn gwella mynediad at wasanaethau hanfodol ac yn meithrin tegwch cymdeithasol.

Fe wnaethom ehangu ein gwaith o ymgysylltu â llywodraethu lleol drwy ddod yn aelodau o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru. Mae hyn wedi caniatáu i ni weithio’n agos ac yn gyson gydag arweinwyr cymunedol a’r trydydd sector i integreiddio’r gwaith o gynllunio trafnidiaeth gydag amcanion llesiant ehangach ar gyfer cymunedau.

 

Sut rydym yn gosod ein hamcanion

Ers cael ein henwi yn y Ddeddf ym mis Mehefin 2024, rydym wedi edrych ar ein systemau mewnol a'n pobl i sicrhau bod gennym y gallu, y sgiliau a’r prosesau i sicrhau manteision i Gymru. Rydym wedi ymchwilio’n helaeth i amcanion cyrff cyhoeddus eraill a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod ein hamcanion yn cael eu hintegreiddio’n drylwyr â rhai sefydliadau eraill. Cafodd Adroddiadau Llesiant Cymru a  Cenedlaethau’r Dyfodol eu defnyddio i siapio ein blaenoriaethau ar gyfer y deng mlynedd nesaf drwy ddadansoddi’r tueddiadau presennol a thueddiadau’r dyfodol.

Drwy gydol 2024, fe wnaethom wahodd cydweithwyr i gyfrannu at adnodd Gwirio Cynnydd Dull o Weithio i’n helpu i nodi bylchau a chyfleoedd o ran gwreiddio’r Pum Ffordd o Weithio. Yn ystod tymor yr hydref a gaeaf 2024/25, roeddem wedi cynnwys cydweithwyr ymhellach yn y gwaith o siapio ein hamcanion. Drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol, partneriaid a chydweithwyr, a’u cynnwys, fe wnaethom gynhyrchu ein set derfynol o amcanion.

Drwy gynnwys cymaint o bobl â phosibl yn y broses o'u creu, bydd ein hamcanion llesiant yn gyfannol, yn seiliedig ar wybodaeth ac yn adlewyrchu ein gwerthoedd fel sefydliad yn wirioneddol.

 

Ein hamcanion llesiant

Galluogi pobl a chymunedau

Byddwn yn cynnwys y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn gweithio gyda nhw i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n cyfrannu at Gymru sy’n fwy cyfartal ac iach, gan sicrhau bod pawb yn hyderus i’w defnyddio.

Drwy gynnwys pobl leol mewn prosesau cynllunio, byddwn yn diwallu anghenion amrywiol gwahanol gymunedau. Bydd hyn yn ein galluogi i ddylunio llwybrau a gwasanaethau sy’n adlewyrchu gofynion y byd go iawn. Ar ben hynny, byddwn yn hyrwyddo opsiynau fel cerdded, beicio ac olwyno. Bydd hyn yn gofyn am greu seilwaith sy’n annog symudiad corfforol ac yn lleihau rhwystrau i wasanaethau hanfodol.  Byddwn yn darparu gwybodaeth glir am deithio, yn cynnig hyfforddiant i ddefnyddwyr llai hyderus ac yn sicrhau bod ein systemau trafnidiaeth yn hawdd eu defnyddio.

Ein nodau yw lleihau anghydraddoldebau trafnidiaeth, gwella cysylltedd cymunedol, cefnogi iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â grymuso pobl i deithio’n annibynnol.

Drwy ein dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned, byddwn yn creu system drafnidiaeth sy’n gwasanaethu pawb yng Nghymru a’r gororau.

Bod o Fudd i’r amgylchedd

Byddwn yn datblygu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n cefnogi bioamrywiaeth, yn gwella cadernid ecosystemau, yn gwella ansawdd aer ac yn cynyddu effeithlonrwydd adnoddau.

Drwy gydweithio’n agos â chymunedau lleol, asiantaethau amgylcheddol a rhanddeiliaid, byddwn yn dylunio atebion arloesol ar gyfer trafnidiaeth sy’n lleihau allyriadau niweidiol ac sy’n cyfrannu’n weithredol at ddiogelu treftadaeth naturiol gyfoethog Cymru.

Byddwn yn rhoi strategaethau ar waith sy’n hyrwyddo cerbydau trydan a charbon isel, yn datblygu coridorau trafnidiaeth gwyrdd, ac yn integreiddio egwyddorion dylunio cynaliadwy sy’n cefnogi bywyd gwyllt lleol a systemau ecolegol.

Byddwn yn cynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddull economi gylchol, dewis deunyddiau a dulliau adeiladu sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, a chreu rhwydweithiau trafnidiaeth sy’n cefnogi cadwraeth bioamrywiaeth.

Rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n gatalydd ar gyfer adfywio ecolegol a chadernid wrth wynebu newid hinsawdd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein seilwaith trafnidiaeth yn gwella amgylchedd naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Cefnogi ardaloedd lleol a’r economi

Byddwn yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n cyfrannu at uchelgeisiau economaidd ehangach Cymru ac sy’n helpu cymunedau lleol i ffynnu. Bydd ein dull gweithredu yn sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth yn cyd-fynd â nodau datblygu economaidd. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau lleol, yn cefnogi cyflogaeth, ac yn hybu ffyniant rhanbarthol.

Byddwn yn mabwysiadu’r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan integreiddio atebion fel tocynnau clyfar, cysylltedd digidol a systemau trafnidiaeth deallus i wella effeithlonrwydd a phrofiad defnyddwyr. Bydd mynd i’r afael â fforddiadwyedd trafnidiaeth yn flaenoriaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod ein rhwydwaith yn hygyrch i bob grŵp economaidd-gymdeithasol, gan greu mynediad cyfartal at waith, addysg a gwasanaethau hanfodol.

Drwy gynllunio ar y cyd ag awdurdodau lleol, busnesau, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid cymunedol, byddwn yn dylunio system drafnidiaeth sy’n cefnogi twf rhanbarthol, yn ysgogi arloesedd, ac yn creu cyfleoedd ystyrlon i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Dyrchafu’r Gymraeg a diwylliant Cymru

Byddwn yn creu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n cefnogi’r Gymraeg, yn galluogi mwy o bobl i gael gafael ar weithgareddau diwylliannol, celfyddydol a chwaraeon, gan warchod a gwella yr amgylchedd hanesyddol.

Byddwn yn parhau i integreiddio arwyddion Cymraeg, cyfathrebu dwyieithog, yn ogystal â sensitifrwydd diwylliannol yn ein seilwaith a’n gwasanaethau. Byddwn yn dylunio rhwydweithiau trafnidiaeth sy’n gwneud lleoliadau celfyddydol, chwaraeon a diwylliannol yn fwy hygyrch drwy opsiynau trafnidiaeth carbon isel a fforddiadwy.

Drwy gydweithio â sefydliadau diwylliannol lleol, arbenigwyr treftadaeth a grwpiau cymunedol, byddwn yn creu rhwydwaith sy’n cysylltu pobl â chyrchfannau diwylliannol, tirweddau hanesyddol a safleoedd treftadaeth. Byddwn yn lleihau effaith ein prosiectau ar amgylcheddau hanesyddol drwy ddefnyddio technegau dylunio sensitif.

Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau i ddeall y cysylltiad rhwng trafnidiaeth, teithio, hunaniaeth ddiwylliannol a gwarchod yr amgylchedd. Byddwn yn dathlu’r Gymraeg, yn cefnogi bywiogrwydd diwylliannol, ac yn gwarchod ein treftadaeth hanesyddol a naturiol.

Drwy’r dull cyfannol hwn, ein nod yw gosod teithio fel llwyfan i gysylltu pobl, gwarchod diwylliant a gwella cymunedau Cymru.

 

Manteisio i’r eithaf ar ein cyfraniad at y nodau llesiant

Rydym wedi datblygu ein hamcanion i integreiddio a chyd-fynd â’r Saith Nod Llesiant, lle mae pob un o’n hamcanion corfforaethol yn effeithio’n uniongyrchol ar fwy nag un nod ac yn arwain at effeithiau cadarnhaol ar draws pob nod.

Amcan Llesiant TrCNodau llesiant
 Cymru lewyrchusCymru iachachCymru o gymunedau cydlynusCymru gydnerthCymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eangCymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru sy'n fwy cyfartal
Galluogi pobl a chymunedau^**^^^*
Bod o fudd i’r amgylchedd^*^**^^
Cefnogi ardaloedd lleol a’r economi*^*^*^^
Dyrchafu’r Gymraeg a diwylliant Cymru^^*^^**

* effaith uniongyrchol
^ effaith eilaidd

 

Ein ffyrdd o weithio

Hirdymor

Byddwn yn gwreiddio syniadau ar gyfer y dyfodol yn ein gweithrediadau a’n penderfyniadau drwy’r pethau canlynol:

  • Datblygu canllawiau pwrpasol ar fethodolegau meddwl y dyfodol, gan wneud y rhain yn rhan o hyfforddiant gorfodol
  • Cyflwyno rhaglen ar ddefnyddio syniadau’r dyfodol i uwch lunwyr penderfyniadau i sicrhau dull safonol o wreiddio meddwl hirdymor mewn busnes fel arfer
  • Parhau i fod yn aelod rhagweithiol o Hwb Dyfodol, canolfan dyfodol meddwl Cymru
Atal

Byddwn yn blaenoriaethu’r broses o ganfod yr hyn sydd wrth wraidd materion, gan fabwysiadu dull rhagweithiol ac atal materion rhag mynd yn waeth drwy’r pethau canlynol:

  • Datblygu cofrestr o’r hyn sydd wrth wraidd materion ar draws y system a gwreiddio proses i alluogi ac annog ystyriaeth o heriau i’w hatal
  • Cydweithio â’n Labordy Arloesedd i ddatblygu hyfforddiant pwrpasol ar atal a chanfod yr hyn sydd wrth wraidd materion
  • Gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i nodi beth sydd angen ei atal yn yr hirdymor
Integreiddio

Byddwn yn defnyddio dull integredig, gan symleiddio ein prosesau i osgoi dyblygu gwaith a chefnogi amcanion cyrff cyhoeddus eraill drwy,

  • Ehangu ein gwaith o ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd pob rhan o Gymru a’r gororau
  • Datblygu proses glir i gymharu polisïau yn ystod y cam dylunio, i sicrhau bod pob ardal yn symud tuag at weledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol
  • Sicrhau bod ein cynlluniau a’n strategaethau corfforaethol yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel egwyddor drefniadol graidd
Cynnwys

Byddwn yn gwella ein prosesau cynnwys, gan weithio gyda phartneriaid allanol i sicrhau bod yr holl arbenigwyr mewnol ac allanol yn gallu cynghori’n well ar ein gweithgareddau a bod cymunedau’n cael eu grymuso, a bod ganddynt lais cyfartal yn ein holl benderfyniadau drwy'r pethau canlynol:

  • Datblygu canllawiau a hyfforddiant ar gyd-ddylunio, gan sicrhau ei fod yn cael ei wreiddio yn ein gwaith ac yn cael ei ddefnyddio’n gyson
  • Creu system fewnol i gydweithwyr gyfrannu at wneud penderfyniadau
  • Datblygu proses ar gyfer mapio rhanddeiliaid, gan gynnwys adolygu cynrychiolaeth rhanddeiliaid i sicrhau bod amrywiaeth ardal yn cael ei hadlewyrchu
Cydweithio

Byddwn yn symleiddio ein trefniadau cydweithio a phartneriaeth, gan sicrhau ein bod yn gallu cael gwared ar rwystrau rhag gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill, partneriaid yn y diwydiant, y trydydd sector a chymunedau drwy,

  • Datblygu prosesau i alluogi gweithio gyda gwahanol sectorau
  • Datblygu cytundebau cydweithio sy’n cael eu mesur ac sy’n hygyrch
  • Sicrhau bod gwybodaeth a dysgu allanol yn cael ei rannu ar draws y sefydliad

 

Sut byddwn ni’n cyflawni ein hamcanion

Amcan Llesiant TrCY camau nesaf
Galluogi pobl a chymunedauRydym wedi ymrwymo i wella ein harferion cynnwys y gymuned a sicrhau bod gan bawb lais mewn penderfyniadau cynllunio trafnidiaeth. Erbyn mis Ionawr 2027, byddwn yn rhoi rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar waith ar gyfer yr holl uwch arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn TrC. Bydd yr hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a thechnegau cynnwys gyda phwyslais ar ddeall demograffeg y gymuned, meithrin perthnasoedd tymor hir ag aelodau amrywiol o’r gymuned a mynd ati i gynnwys pobl drwy gydol oes ein prosiect.

Byddwn yn gwella hygyrchedd i bawb, beth bynnag fo’u hoed neu eu gallu. Er enghraifft, byddwn yn cyflwyno mynediad heb risiau i bob platfform ar ein rhwydwaith datganoledig erbyn 2028.

Byddwn yn galluogi pobl i wneud dewisiadau teithio iachach. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 39% o deithiau drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2030. Er mwyn helpu i gyflawni hynny, TrC fydd y partner dylunio sy’n cael ei ffafrio ar gyfer awdurdodau lleol drwy ymdrechion cydweithredol i ddylunio mannau a seilwaith sy’n hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio.

Erbyn 2030, byddwn yn cyflwyno rhaglen hyfforddiant ar gyd-ddylunio ar gyfer yr holl lunwyr penderfyniadau allweddol. Dros y 2 flynedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allanol i wella ein prosesau cynnwys.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â grwpiau defnyddwyr i ddeall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio ein rhwydwaith. Byddwn hefyd yn parhau i gynnig datrysiadau i helpu, fel parhau i osod palmentydd cyffyrddadwy yn ein gorsafoedd.
Gweledigaeth hirdymor:
Rydym wedi ymrwymo i wella ein partneriaethau a’n hymdrechion i gydweithio. Byddwn yn ehangu ein perthnasoedd presennol ac yn chwilio am gyfleoedd newydd ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwys dyfnhau ein hymgysylltiad â phartneriaid presennol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i greu mentrau mwy integredig a dylanwadol. Byddwn yn meithrin partneriaethau â sefydliadau’r trydydd sector, gan ddefnyddio eu cysylltiadau ar lawr gwlad a’u harbenigedd lleol i ddeall a mynd i’r afael yn well ag anghenion teithio cymunedol.

Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a chanlyniadau i bob unigolyn, gyda phwyslais penodol ar y rheini sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i ystyried yn weithredol sut gall ein penderfyniadau strategol helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Erbyn 2035, byddwn yn lansio fforwm newydd i sicrhau bod pawb yn gallu dylanwadu ar brosiectau y tu allan i ffenestri’r ymgynghoriad. Byddwn yn gwella ein prosesau cynnwys ac yn datblygu llwyfan ar gyfer dewis partneriaid i sicrhau ein bod yn cynnwys pobl sydd y tu hwnt i’r ‘unigolion arferol’.

Byddwn yn cefnogi'r Ddeddf Pwysau Iach: Cymru Iach drwy hyrwyddo teithio llesol drwy seilwaith gwell i gerdded, beicio ac olwyno, gan wneud gweithgaredd corfforol yn rhan gyfleus o arferion bob dydd. Byddwn hefyd yn meithrin amgylcheddau bwyd iachach drwy sicrhau bod opsiynau maethlon ar gael mewn canolfannau trafnidiaeth ac ar ein gwasanaethau, gan annog newid ymddygiad drwy hysbysebion ac ymgyrchoedd.
Bod o fudd i’r amgylcheddY camau nesaf
Byddwn yn gwella profiad teithwyr a lleihau allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru. Erbyn 2030, byddwn yn cyflwyno 100% o’n fflyd o drenau allyriadau is sy’n newydd i’n rhwydwaith. Bydd y fenter hon yn lleihau ôl troed carbon Cymru ac yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy wneud cerbydau modern ac effeithlon, gyda gwell nodweddion hygyrchedd, yn fwy cyfforddus i deithwyr. Bydd y fflyd newydd yn sicrhau nifer o fanteision, gan gynnwys llai o effaith ar yr amgylchedd, teithiau tawelach a llyfnach, mwy o ddibynadwyedd, a gwell cysylltedd ledled Cymru a’r gororau.

Byddwn yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gael rhwydwaith bysiau dim allyriadau erbyn 2035. Byddwn yn datblygu strategaeth pontio’r fflyd bysiau gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau.

Er mwyn lleihau ein heffaith amgylcheddol, byddwn yn defnyddio dull gweithredu cylchol ar gyfer ein hadnoddau yn ein gorsafoedd a’n prosiectau seilwaith a phrosesau caffael. Bydd y strategaeth hon yn blaenoriaethu ailddefnyddio deunyddiau ac ailgylchu effeithlon drwy gydol ein gweithrediadau. Byddwn yn gosod cyfleusterau ailgylchu ar wahân mewn canolfannau trafnidiaeth, gan ei gwneud yn haws i’n cwsmeriaid ailgylchu.  Erbyn 2035, byddwn yn sicrhau bod ein holl brosiectau’n ailgylchu o leiaf 50% o’u deunyddiau lle bo hynny’n bosibl drwy fabwysiadu dull cylchol, gan sicrhau ein bod yn aros o fewn ein cyfran deg o adnoddau’r blaned ac yn cyfyngu ar ein heffaith fyd-eang.

Byddwn yn cefnogi Cynllun Aer Glân Cymru drwy osod dyfeisiau monitro ansawdd aer ym mhob un o’n gorsafoedd Categori A a’n depos rheilffyrdd neu adeiladau newydd erbyn 2035. Mae’r fenter hon yn cyd-fynd â ffocws y cynllun ar wella monitro ansawdd aer ac ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan ein galluogi i leihau dod i gyswllt â llygredd a diogelu iechyd y cyhoedd.

Erbyn 2030, byddwn yn sicrhau bod gan ein holl swyddfeydd a depos gyfradd ailgylchu o 70%.

Erbyn 2030, byddwn yn annog ac yn galluogi ein holl gwsmeriaid i sicrhau cyfradd ailgylchu o 70% drwy fesurau gwell, mwy o hybiau gwastraff ac arwyddion.
Gweledigaeth hirdymor
Byddwn yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i adfer byd natur drwy ddiogelu meysydd presennol o werth ecolegol a gwella cysylltedd ecolegol, yn ogystal â nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella bioamrywiaeth yn ein rhwydwaith trafnidiaeth ac wrth ei ymyl. Bydd hyn yn golygu cynnal asesiadau ecolegol cynhwysfawr ar hyd ein coridorau trafnidiaeth a chydweithio â rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys grwpiau ac awdurdodau cadwraeth. Drwy roi mesurau gwella bioamrywiaeth wedi’u targedu ar waith, ein nod yw cyfrannu at greu rhwydweithiau ecolegol cydnerth sy’n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n ceisio gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynnig manteision cymdeithasol. Ein gweledigaeth yw defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth i greu coridorau gwyrdd llinol, gan gysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt tameidiog ar draws tirweddau. Mae’r cysylltedd hwn yn hanfodol ar gyfer symudiad rhywogaethau, yn enwedig ar gyfer amrywiaeth eang o anifeiliaid a’r rheini sydd â gofynion cynefin penodol.

Byddwn yn parhau o weithredu ein Cynllun Ymaddasu i’r Hinsawdd a Chydnerthedd i wella cadernid seilwaith, sicrhau parhad gwasanaethau, a sicrhau'r manteision economaidd mwyaf drwy fuddsoddiadau strategol sy’n addasu i’r hinsawdd. Bydd y dull hwn yn creu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cadarn a chynaliadwy. Drwy ymgorffori atebion sy’n seiliedig ar natur, fel rheoli llifogydd yn naturiol gan ddefnyddio cynefinoedd wedi’u hadfer, coridorau gwyrdd, a nodweddion sy’n ystyriol o fywyd gwyllt, gallwn fynd i’r afael â heriau hinsawdd yn gost-effeithiol ar yr un pryd â gwella ansawdd aer, hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, a gwella bioamrywiaeth.
Cefnogi ardaloedd lleol a’r economiY camau nesaf
Byddwn yn galluogi mynediad haws at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, addysg a chyflogaeth drwy ein rhwydwaith trafnidiaeth. Byddwn yn rhannu gwybodaeth glir am deithio drwy ddatblygu adnoddau cynllunio teithiau hawdd eu defnyddio sy’n integreiddio sawl math o drafnidiaeth ac sy’n cynnig diweddariadau amser real ar achosion o darfu ar wasanaethau.

Rydym wedi ymrwymo i wella’r ffrwd waith rhwydwaith bysiau ar y cyd â Thimau Cynllunio Rhanbarthol i gefnogi economïau a chymunedau gwledig yng Nghymru a’r gororau yn well. Erbyn 2035, mewn partneriaeth â masnachfreintiau bysiau, byddwn yn gwella cysylltedd rhwng bysiau, trenau, cerdded, beicio ac olwyno. Trwy ddilyn cynlluniau pontio’r rhwydwaith bysiau, byddwn yn gweithredu polisïau Llywodraeth Cymru, ac yn paratoi i gyflwyno masnachfreinio yn y dyfodol. Drwy greu cynllun prisiau teg a rhoi system talu wrth fynd ar waith, byddwn yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy a chyfleus.

Byddwn yn cynnig rhaglenni hyfforddi i helpu cwsmeriaid drwy fentrau fel rhaglenni ‘Hyder i Deithio’ a ‘Llysgennad Teithio’, sy’n cynnwys fideos a chymorth un-i-un. Bydd integreiddio system cynllunio teithiau gynhwysfawr a system docynnau symlach yn galluogi cwsmeriaid i lywio ar draws gwahanol ddarparwyr gwasanaeth yn ddidrafferth.
Gweledigaeth hirdymor
Byddwn yn adolygu ein prosesau cynnwys i sicrhau bod hygyrchedd yn parhau i fod wrth galon ein penderfyniadau. Erbyn 2035, byddwn yn creu ac yn gwreiddio dull newydd o gynnwys, sy’n cynnwys mewnbwn gorfodol gan ein paneli Hygyrchedd yn ystod prosiectau seilwaith a chreu lleoedd.

Byddwn yn helpu i sbarduno twf rhanbarthol a chefnogi uchelgeisiau economaidd lleol drwy weithio’n agos gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac awdurdodau lleol. Byddwn yn gwella ein trefniadau partneriaeth presennol fel rhan o’n gwaith ar adolygu a symleiddio prosesau cydweithio.

Byddwn yn integreiddio argymhellion asesiadau llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ein prosesau cynllunio trafnidiaeth, gan sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd problemau yn ein cymunedau ac yn galluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau hanfodol yn gynaliadwy.
Dyrchafu’r Gymraeg a diwylliant CymruY camau nesaf
Byddwn yn creu ac yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu treftadaeth erbyn 2030, gan wreiddio ein hymrwymiad i gydweithio â phreswylwyr, sefydliadau academaidd, arbenigwyr, partneriaid ac awdurdodau lleol i ddiogelu a hyrwyddo ein treftadaeth a’n diwylliant. Byddwn yn gwarchod treftadaeth gyfoethog Cymru ac yn ei gwneud yn hygyrch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn edrych ar atebion arloesol sy’n ymwneud â thocynnau, sy’n cyfuno mynediad i ddigwyddiadau â phrisiau trafnidiaeth gyhoeddus, gan ei gwneud yn haws i bobl ddewis dulliau teithio cynaliadwy. Byddwn yn partneru â byrddau twristiaeth i hyrwyddo profiadau hamdden heb geir, gan dynnu sylw at sut gall rhwydwaith trafnidiaeth integredig wella mynediad at dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol Cymru.
Gweledigaeth hirdymor
Rydym wedi ymrwymo i wella partneriaethau i addasu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer chwaraeon, y celfyddydau, cerddoriaeth a thwristiaeth hamdden. Byddwn yn cydweithio â lleoliadau diwylliannol, cyfleusterau chwaraeon a sefydliadau twristiaeth i greu atebion trafnidiaeth integredig sy’n cysylltu ymwelwyr yn ddi-dor â’r atyniadau hyn. Drwy weithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiadau ac awdurdodau lleol, byddwn yn parhau i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth wedi’u teilwra ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr, cyngherddau a gwyliau.

Rydym yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy sicrhau bod yr holl gyfathrebu â theithwyr a gwybodaeth i gwsmeriaid yn cael eu darparu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd ein hymrwymiad yn gwella amlygrwydd a defnydd o’r Gymraeg ac yn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau wrth gael gafael ar wybodaeth am y Gymraeg.

 

Monitro ac adrodd

Rydym yn rhoi Fframwaith Effeithiolrwydd Cymdeithasol cynhwysfawr ar waith i fonitro ac adrodd ar nodau llesiant. Bydd y fframwaith hwn yn gysylltiedig â’r dangosyddion cenedlaethol a osodir gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mesurau monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, a’n Dangosyddion Perfformiad Allweddol ein hunain.

Drwy integreiddio’r nodau hyn yn ein fframwaith, ein nod yw creu system drafnidiaeth sy’n diwallu anghenion presennol Cymru ac sy’n cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy a ffyniannus. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod ein gweithgareddau’n cael eu gwerthuso’n gyson yn erbyn amcanion economaidd-gymdeithasol ehangach.

Fframwaith effeithiolrwydd cymdeithasol TrC
^^^
Amcanion Llesiant TrCDangosyddion cenedlaetholMesurau Llwybr Newydd i Strategaeth Drafnidiaeth CymruDangosyddion Perfformiad Allweddol TrC
Galluogi pobl a chymunedau03. Canran yr oedolion sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw. 
48. Canran y teithiau cerdded, beicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
09 Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yr awr a weithir (o’i gymharu â chyfartaledd y DU.)
18. Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU: wedi’i fesur ar gyfer plant, oedran gweithio ac oedran pensiwn.
19. Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd sydd mewn amddifadedd materol.
23. Canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. 
24. Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gyrraedd/ cael mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
25. Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, yn cerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio
26. Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw.
48. Canran y teithiau cerdded, beicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus
M1 Canran y teithiau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. 
M4 Pellter cyfartalog a deithiwyd y pen. 
S1 Amser teithio cyfartalog i wasanaethau addysg, iechyd a hamdden. 
S2 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau yn eu hardal leol. 
S3 Canran y bobl o fewn pellter cerdded i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
S4 Canran y bobl sy’n cerdded neu sy’n beicio o leiaf unwaith yr wythnos fel ffordd o deithio.
S5 Canran y teithiau i orsaf drenau drwy gerdded, beicio neu ar fws. 
S6 Canran y teithiau i atyniadau i ymwelwyr drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy. 
S11 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu taith. 
S12 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn annibynnol. 
S13 Canran y gorsafoedd trefnau heb risiau. 
S18 Canran y bobl sy’n teimlo nad ydynt yn gallu fforddio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 
S20 Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel a bod croeso iddynt wrth deithio.
Digwyddiadau diogelwch fesul 100,000 o deithiau gan deithwyr

Cwynion fesul 100,000 o deithiau rheilffordd

Llinellau Craidd y Cymoedd ar amser (hyd at 3 munud)

Cymru a’r Gororau ar amser (hyd at 3 munud)

Canslo ar y diwrnod

Canslo ymlaen llaw

Cwynion am bob 100,000 o deithiau TrawsCymru

Canslo TrawsCymru
O fudd i’r amgylchedd04 Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer.
15 Faint o wastraff a gynhyrchir nad yw’n cael ei ailgylchu, y pen.
41. Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
44 Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru.
43 Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru.
48. Canran y teithiau cerdded, beicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
M2 Canran y cerbydau allyriadau isel iawn neu dim allyriadau. 
M4 Pellter cyfartalog a deithiwyd y pen. 
M6 Allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sector trafnidiaeth. 
S4 Canran y bobl sy’n cerdded neu sy’n beicio o leiaf unwaith yr wythnos fel ffordd o deithio. 
S5 Canran y teithiau i orsaf drenau drwy gerdded, beicio neu ar fws. 
S7 Canran y rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi’i drydaneiddio. 
S8 Canran y llwythi a gafodd eu cludo ar y tir gan drenau. 
S10 Nifer y mannau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd. 
S22 Canran y seilwaith trafnidiaeth sydd mewn perygl o lifogydd. 
S25 Hectarau o gynefinoedd ar yr ystâd drafnidiaeth sy’n cael eu cynnal neu eu gwella er lles bioamrywiaeth.
S23 Lefel y llygryddion aer o’r sector trafnidiaeth. 
S26 Canran y gwastraff a gynhyrchir gan y sector trafnidiaeth sy’n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu.
Teithiau teithwyr rheilffyrdd

Teithiau gan deithwyr TrawsCymru

Allyriadau Carbon Deuocsid fesul cilomedr teithiwr
Cefnogi ardaloedd lleol a’r economi08 Canran yr oedolion sydd â chymwysterau ar wahanol lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
09 Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yr awr a weithir (o’i gymharu â chyfartaledd y DU.)
18. Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU: wedi’i fesur ar gyfer plant, oedran gweithio ac oedran pensiwn.
19. Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd sydd mewn amddifadedd materol.
M1 Canran y teithiau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. 
M4 Pellter cyfartalog a deithiwyd y pen. 
S1 Amser teithio cyfartalog i wasanaethau addysg, iechyd a hamdden 
S2 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau yn eu hardal leol. 
S5 Canran y teithiau i orsaf drenau drwy gerdded, beicio neu ar fws. 
S6 Canran y teithiau i atyniadau i ymwelwyr drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy. 
S12 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn annibynnol. 
S13 Canran y gorsafoedd trefnau heb risiau. 
S18 Canran y bobl sy’n teimlo nad ydynt yn gallu fforddio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 
Ymgeiswyr sy’n fenywod

Merched sy’n ymgeisio am swyddi gyda TrC

Cadw cydweithwyr

Gwariant gweithredol

Gwariant cyfalaf

Gwerthiant tocynnau
Dyrchafu'r Gymraeg 
a diwylliant Cymru
35 Canran y bobl sy’n cymryd rhan neu’n mynd i weithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf dair gwaith y flwyddyn.ymwelwyr drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy. 
S15 Canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn y sector trafnidiaeth. 
S14 Canran y bysiau a’r trenau sydd â gwybodaeth glyweledol
S27 Canran yr asedau hanesyddol dynodedig ar yr ystâd drafnidiaeth sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella.
Cwynion i Gomisiynydd y Gymraeg am bob 100,000 o deithiau