Datganiad i'r Wasg Blaen Bran

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn ar genhadaeth amgylcheddol gyda choetir cymunedol lleol.

Bydd can acer o goetir yn Nhorfaen yn cael ei wella ar gyfer y gymuned drwy bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Choetir Cymunedol Blaen Bran.

Mae’n rhan o brosiect newydd Coed Cymunedol TrC.

Mae Coetir Cymunedol Blaen Bran wedi ymrwymo i wella’r coetiroedd er budd y gymuned gyfan, gwella llwybrau troed, arwyddion a gatiau mynediad, a chynnal teithiau cerdded a sgyrsiau, a diwrnodau digwyddiadau arbennig i ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned. Mae lleoliad y coetir, wrth gefn tir comin Mynydd Maen, yn caniatáu iddo fod yn rhan o lwybrau cerdded sy’n cysylltu Mynydd Twmbarlum, Lôn goed Cwmcarn ac ar draws i Bont-y-moel.

Bydd TrC yn gweithio gyda Choetir Cymunedol Blaen Bran i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ac adfer llwybrau, rheoli dŵr ffo a gosod llwybrau newydd i hybu iechyd a hirhoedledd y coetir

Dywedodd Robert Nancarrow, Cadeirydd Pwyllgor Coetir Cymunedol Blaen Bran: “Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i weithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn TrC i ddatblygu’r amgylchedd coetir yma ym Mlaen Bran. Bydd tri llwybr y prosiect yn helpu i wella mynediad ac yn annog y gymuned i ddefnyddio’r coetiroedd”.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Bydd y prosiect Coed  Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch a gwydn, gan gefnogi iechyd a llesiant cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer rhagor o gysylltiadau a bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn TrC, mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu mwy na gwell opsiynau trafnidiaeth. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae ar Gymru ei angen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol . Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru.

Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol.  Gyda’n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru.

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach TrC, Coed Cymunedol, sy’n cael ei hariannu gan y cynllun Coed Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru