Datganiad i'r Wasg Plas Glyn y Weddw

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn ar genhadaeth amgylcheddol gydag ymddiriedolaeth leol.

Bydd cant o goed newydd yn cael eu plannu yng nghoed Plas Glyn-y-Weddw fel rhan o brosiect cymunedol newydd sy’n cael ei gynnal gan Trafnidiaeth Cymru.

Bydd Cwmni Plas Glyn-y-Weddw Cyf a TrC yn plannu tua 100 o goed ifanc brodorol yn y coetir ac yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i reoli’r coetir.  Bydd rhaglen o waith cynnal a chadw a gwella coetiroedd hefyd yn cael ei chynnal i wella bioamrywiaeth coetiroedd a chyfleoedd llesiant i ymwelwyr ac i bobl leol.

Dywedodd Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Plas Glyn y Weddw: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael ein cynnwys fel partner yn y cynllun hwn ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda TrC a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar y prosiect hwn. Y brif fantais i ni yw y bydd yn helpu i sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael mynediad i’n coetir ac yn mwynhau ei amgylchedd naturiol. 

Mae cyflwyno bywyd newydd i’r coetir drwy blannu coed ifanc yn hanfodol ar gyfer ei fioamrywiaeth a mwynhad y cyhoedd o’r llwybrau cerdded sy’n arwain drwy’r safle 14 erw. Bydd y prosiect hefyd yn caniatáu i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a darparu cyfleoedd i’r gymuned fod yn rhan o waith rheoli’r coetir.”

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Bydd y prosiect Coed  Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch a gwydn, gan gefnogi iechyd a llesiant cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer rhagor o gysylltiadau a bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn TrC, mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu mwy na gwell opsiynau trafnidiaeth. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae ar Gymru ei angen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol . Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru.

Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol.  Gyda’n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru. 

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach TrC, Coed Cymunedol, sy’n cael ei hariannu gan y cynllun Coed Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru