Datganiad i'r Wasg Pwllheli

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn ar genhadaeth amgylcheddol gyda chyngor cymuned lleol.

Bydd maes parcio segur yn cael ei drawsnewid yn goetir cymunedol newydd drwy bartneriaeth newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Tref Pwllheli.

Yn y warchodfa natur yng nghanol Pwllheli, mae maes parcio segur sydd tua hanner erw. Bydd y prosiect hwn yn galluogi’r cyngor i gael gwared ar y maes parcio a chreu coetir yn ei le, gan wella’r ardal leol a gwella cyfleoedd bioamrywiaeth a llesiant yn yr ardal. 

Dywedodd Eric Price, Clerc y Dref: “Mae Cyngor Tref Pwllheli yn edrych ymlaen at weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y prosiect hwn. Bydd yn cael effaith amgylcheddol gadarnhaol ar yr ardal ac yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth. Nod y prosiect fydd cynyddu gwirfoddoli a, thrwy hyn, dysgu am natur a’i fanteision i lesiant. Mae natur, yr amgylchedd a dysgu sgiliau newydd yn gallu dod â phobl at ei gilydd. Bydd yn cynyddu hyder a balchder yn y gymuned.”

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Bydd y prosiect Coed  Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch a gwydn, gan gefnogi iechyd a llesiant cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer rhagor o gysylltiadau a bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn TrC, mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu mwy na gwell opsiynau trafnidiaeth. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae ar Gymru ei angen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru.

Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol.  Gyda’n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru. 

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach TrC, Coed Cymunedol, sy’n cael ei hariannu gan y cynllun Coed Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru