Nicola Kemmery

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mae gan Nicola brofiad helaeth ym maes iechyd a diogelwch ac uwch reoli. Hi yw Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch Dŵr Cymru, lle mae’n gweithio ers 2010.

Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn y diwydiant dŵr, mae Nicola yn gyfrifol am ddatblygu ac arwain strategaeth gwella iechyd, diogelwch a llesiant Dŵr Cymru. Mae hi’n adrodd i’r Prif Weithredwr, gan ddarparu cyfeiriad ac arweiniad fel rhan o’r tîm rheoli gweithredol. Mae hi hefyd yn arwain tîm o weithwyr iechyd a diogelwch proffesiynol gan reoli amrywiaeth o swyddogaethau cynghori a llywodraethu sy’n cynorthwyo dros 3,500 o weithwyr a’u partneriaid contract.

Mae Nicola yn weithiwr proffesiynol siartredig ym maes iechyd a diogelwch, a dechreuodd ei bywyd gwaith yn Swydd Efrog. Bu’n rheolwr iechyd a diogelwch ar gyfer y Kelina Group (Gwasanaethau Dŵr Swydd Efrog) am 14 mlynedd. Dyfeisiodd a gweithredodd systemau rheoli iechyd a diogelwch a chynlluniau gwella’r Grŵp.

Mae Nicola wedi bod yn aelod o’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol ers 29 mlynedd, gan gynnwys 6 blynedd fel Aelod etholedig o’r Cyngor. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod gweithredol o Grŵp Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol Water UK am y 23 mlynedd diwethaf.