Trosolwg

Mae’r adroddiad hwn yn nodi ansawdd gwasanaethau Llinellau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26.

 

Gwybodaeth a thocynnau

DangosyddAnsawdd gwasanaethau
Darparu gwybodaeth am deithio yn ystod y daith

Mae gwybodaeth ar gael wyneb yn wyneb o unrhyw un o'n 52 o orsafoedd sydd â swyddfa docynnau gyda staff. Mae gwybodaeth ysgrifenedig ar gael ym mhob gorsaf. Mae gwybodaeth yn cael ei harddangos ar sgriniau ar bob platfform ac mewn casys posteri sefydlog. Mewn 11 o'n gorsafoedd gellir dod o hyd i wybodaeth drwy dotemau digidol.  Mae system annerch y cyhoedd yn cyhoeddi gwybodaeth mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Mae gan ein sianeli digidol, megis X, Messenger a  WhatsApp, staff ar gael i ateb ymholiadau gan gwsmeriaid rhwng:

  • Dydd Llun i Ddydd Gwener, 0700 - 2000
  • Dydd Sadwrn, 0800 - 2000 
  • Dydd Sul, 0800 - 2000


Mae gwasanaeth ffôn ar gael rhwng:

  • Dydd Llun i Ddydd Gwener, 0700 - 2000
  • Dydd Sadwrn a  Dydd Sul, 0800 - 2000


Gall cwsmeriaid cael ateb i’w hymholiadau ar ein gwefan.

Sut ymdrinnir â cheisiadau am wybodaeth yn yr orsaf

Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth wyneb yn wyneb yn ein gorsafoedd (lle mae staff).

 

Gellir gwneud ceisiadau dros y ffôn, gwefan neu gyfryngau cymdeithasol. Mae pwyntiau cymorth mewn 119 o orsafoedd fel y gall cwsmeriaid gysylltu â staff yr ystafell reoli. Ein nod yw bod gan bob gorsaf bwynt cymorth erbyn 2030. Caiff pob cais ei drin cyn gynted â phosibl. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn ar unwaith.

Sut darperir gwybodaeth am amserlenni trenau, prisiau a phlatfformau

Gyda newidiadau wedi'u cynllunio (gan gynnwys y rhai ar gyfer gwaith peirianneg, newidiadau i'r amserlen a thocynnau) rydym yn defnyddio dull aml-sianel i hysbysu cwsmeriaid. Mae'r dull hwn yn cynnwys:

  • gwybodaeth ar y wefan
  • posteri gorsaf
  • cyfryngau cymdeithasol
  • cyhoeddiadau rheolwr trên
  • cyhoeddiadau awtomataidd ar y trên a'r orsaf
  • sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid


Yn ogystal â sianeli sy'n wynebu cwsmeriaid, rydym yn sicrhau bod ein staff yn cael gwybod. Drwy gael mynediad at ddyfeisiau clyfar, gall ein cydweithwyr yn yr orsaf ac ar y trên ddarparu gwybodaeth fel amseroedd trên, gwybodaeth am brisiau a newidiadau i'r platfform.

Mae amserlenni printiedig ar gael ar gyfer llwybrau lleol gyda gwasanaethau anaml. Gall swyddfeydd archebu argraffu llyfrynnau ar gais a gall cwsmeriaid ofyn am gopïau printiedig trwy wasanaethau cwsmeriaid.

Rydym yn darparu amserlenni ar gyfer cwsmeriaid cyn y newidiadau sylweddol i'r amserlen ac mae'r rhain fel arfer yn digwydd ym mis Mai a mis Rhagfyr bob blwyddyn. Fe'u cyhoeddir ar ein gwefannau bedair wythnos cyn dyddiad newid yr amserlen. Gellir dod o hyd i amserlenni yma.

Cyfleusterau prynu tocynnau

Mae sawl ffordd y gall ein cwsmeriaid dalu i deithio. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Prynu tocynnau o swyddfeydd archebu mewn 41 o orsafoedd.
  • Prynu tocynnau gan chwe asiant manwerthu, pump mewn gorsafoedd ac un ganolfan Groeso i Dwristiaid.
  • Prynu'n uniongyrchol neu gasglu tocynnau a brynwyd ar-lein o un o'n 214 o beiriannau gwerthu tocynnau.
  • Defnyddio talu wrth fynd trwy dapio ar giât tocynnau neu ddilysydd platfform gyda cherdyn credyd neu ddyfais yn unrhyw un o'r 95 gorsaf yn ardal Metro De-ddwyrain Cymru. Ym mis Mai, lansiwyd talu wrth fynd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a’r gororau. Bydd mwy o orsafoedd yn cael eu hychwanegu yn 2026 wrth i seilwaith cael ei osod a’i brofi.
  • Prynu tocynnau neu reoli cyfrif talu wrth fynd cwsmeriaid o wefan neu ap ffôn symudol TrC.
  • Prynu tocynnau gan ddefnyddio carden neu arian parod yn siopau sy’n derbyn taliadau Payzone.


Gennym beiriannau gwerthu tocynnau mewn 125 o'n 248 o orsafoedd.

Mae argaeledd peiriannau tocynnau, giatiau tocynnau a dilyswyr platfform yn cael eu monitro'n rhagweithiol gan y tîm Systemau Manwerthu. Gallant gael mynediad o bell i bob system i flaenoriaethu unrhyw broblemau ac i'w hailgychwyn os bydd gwall. 

Mae'r Tîm Gorsafoedd yn ailgyflenwi stoc tocynnau ac yn gwagio arian parod mewn gorsafoedd â staff. Lle bo modd, maen nhw'n datrys namau mecanyddol yn uniongyrchol ac yn adrodd am y namau hynny na allant eu datrys i'r peiriannau tocynnau, gatiau tocynnau neu gyflenwr dilysydd platfform sy'n atgyweirio'r peiriannau fel rhan o'r contract cynnal a chadw. Mae'r cyflenwr yn ailgyflenwi stoc tocynnau ac yn cynnal a chadw'r peiriannau mewn lleoliadau heb staff.

Argaeledd staff yn yr orsaf am wybodaeth a gwerthu tocynnau

Mewn y 52 o'n gorsafoedd sydd â swyddfeydd archebu, mae cydweithwyr wrth law i helpu. Mae cydweithwyr yn y swyddfa archebu, sy'n gweithio ar y gatiau neu'n cefnogi cwsmeriaid gyda chymorth i deithwyr ar gael i gefnogi cwsmeriaid gyda thocynnau, teithio ac unrhyw ymholiadau eraill.

Yn ein pum gorsaf brysuraf sydd wedi’u staffio (Caerdydd Canolog, Casnewydd, Caer, Amwythig ac Abertawe), gennym gydweithwyr i gynorthwyo teithwyr a darparu cymorth.

Mewn lleoliadau heb staff, bydd rheolwr y trên ar y trên yn darparu cymorth.

Mae gan bob swyddfa archebu ddolenni anwythol ar gyfer pobl sy'n gwisgo cymhorthion clyw. Mae gan lawer o leiaf un cownter isel neu un y gellir addasu ei uchder. Os yn bosibl, bydd amserlenni, posteri a thaflenni gwybodaeth wedi'u lleoli fel y gall defnyddwyr cadeiriau olwyn a theithwyr sy'n sefyll eu defnyddio.

Mae amserlenni a phosteri gwybodaeth ddefnyddiol yn cael eu harddangos wrth neu ger mynedfa pob gorsaf.

Mae gwybodaeth am wasanaethau trên ar gael o orsafoedd sydd â Phwyntiau Cymorth, sef standiau gyda botwm y gall cwsmeriaid ei wasgu i siarad â gweithredwr.  Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y diwrnod ar Linellau Craidd y Cymoedd a rhwng 0600 a 2200 ar weddill y rhwydwaith. Gall cwsmeriaid hefyd gysylltu â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid drwy:

  • Ffôn (Cymraeg): 0345 60 40 500 (ar agor 0700 i 20:00 7 diwrnod yr wythnos)
  • Ffôn (Saesneg): 03333 211 202
  • Gwasanaeth Next Generation: 18001 03333 211 202
  • E-bost: customer.relations@tfwrail.wales
  • Oriau agor: 24 awr bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)


Mae Ymholiadau Rheilffordd Genedlaethol yn rhoi gwybodaeth am amseroedd trên, prisiau a mathau o docynnau, cyngor cyffredinol a chymorth wrth gynllunio teithiau trên.

  • Ffôn (Saesneg): 03457 48 49 50 (ar agor 24 awr bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig.)
  • Ffôn testun: 0345 60 50 600 (ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 0900 i 1700, gan gynnwys gwyliau banc.)
  • Gwefan: nationalrail.co.uk
Sut darperir gwybodaeth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig

Mae fformatau amgen (megis print bras, Braille neu fersiynau sain) o'n holl ddogfennau ar gael yn rhad ac am ddim gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Rydym yn darparu dogfennau print bras o fewn saith diwrnod i'r cais ac unrhyw fformatau eraill cyn gynted â phosibl. Cysylltwch â:

 

Prydlondeb gwasanaethau ac egwyddorion cyffredinol ar gyfer ymdopi â tharfu ar wasanaethau yn ystod flwyddyn ariannol 2025/26

a) Oedi

DangosyddLlinellau Craidd y CymoeddCymru a’r Gororau
% y gwasanaethau a gyrhaeddodd ar amser neu roedd oedi o lai na thri munud92.3%76.2%
% y gwasanaethau a gafodd eu hoedi rhwng tri a 59 munud7.7%23.7%
% y gwasanaethau a gafodd eu hoedi rhwng 60 a 119 munud0.0%0.1%
% y gwasanaethau a gafodd eu gohirio am 120 munud neu fwy0.0%0.0%
% y cysylltiadau a gollwyd â gwasanaethau trên eraillDd/G gan nad yw'n bosibl mesur y ffigwr ar hyn o bryd.Dd/G gan nad yw'n bosibl mesur y ffigwr ar hyn o bryd.

 

b) Tarfiadau

DangosyddAnsawdd gwasanaethau
Bodolaeth a disgrifiad byr o gynlluniau wrth gefn, cynlluniau rheoli argyfyngauMae'r Cynllun Cyflenwi Gwasanaeth Gweithrediadau yn amlinellu cynlluniau wrth gefn rhag ofn y bydd prinder cerbydau, gwasanaethau blaenoriaeth, gwasanaeth manwl fesul llwybr a strategaethau ffurfio byr.

Mae cynlluniau cyflenwi tymhorol yn lliniaru'r heriau posibl o ddigwyddiadau tywydd. Mae cynlluniau wrth gefn llwybrau yn cwmpasu pob llwybr Network Rail yr ydym yn ei weithredu. Maent yn manylu ar gamau gweithredu i'w cymryd gan bob cwmni gweithredu trên sy'n darparu gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn rhag ofn y bydd llinellau'n cau ac unrhyw darfu arall.

 

c) Canslo gwasanaethau

DangosyddAnsawdd gwasanaethau
Canslo gwasanaethau fel rhan o bob gwasanaeth yn y % fesul categori o wasanaeth (rhyngwladol, domestig, pellter hir, rhanbarthol a threfol/maestrefol)Cafodd 4.2% o wasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd eu canslo.

Cafodd 3.4% o wasanaethau Cymru a’r Gororau eu canslo.

 

Glendid cerbydau a chyfleusterau gorsafoedd (ansawdd yr aer mewn cerbydau, hylendid cyfleusterau glanweithiol, ac ati)

DangosyddAnsawdd gwasanaethau
Cyfnodau Glanhau

Cyfnodau glanhau - Gorsafoedd

Yn ein gorsafoedd mwy, mae cyfleusterau cwsmeriaid fel toiledau ac ystafelloedd aros yn cael eu harchwilio a'u glanhau bob dwy awr. Yn ein gorsafoedd llai, heb staff, rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd, ac mae'r biniau'n cael eu gwagio'n rheolaidd.

Cyfnodau glanhau - Trenau

Ar hyn o bryd rydym yn darparu’r gweithgareddau canlynol:

  • Glanhau dyddiol o bob trên ar ddiwedd y gwasanaeth.
  • Glanhau trenau'n drylwyr a chyfnodol bob 30 diwrnod. Mae hyn ar ben y glanhau dyddiol.
  • Glanhau wrth droi a wneir yn ystod y gwasanaeth lle mae digon o amser segur cyn dechrau'r gwasanaeth nesaf. Mae hyn yn bodloni safonau'r diwydiant lle mae glanhau'n cael ei wneud yn nhrefn blaenoriaeth yn seiliedig ar yr amser sydd ar gael.
  • Glanhau wrth deithio ar lawer o wasanaethau pellter hir i fynd i'r afael â phroblemau gyda sbwriel, biniau a thoiledau.
Mesuriad technegol ar gyfer ansawdd aer (e.e. lefel CO2 mewn rhannau fesul miliwn)Mae'r broses o roi monitorau ansawdd aer ar waith wedi dechrau gyda gosod teclynnau i fesur hyn yn Abertawe, fodd bynnag, nid oes ffigur i'w adrodd ar hyn o bryd. Rydym yn cymryd rhan yn y prosiect monitro ansawdd aer trenau'r pwyllgor Diogelwch a Safonau Rheilffordd.
Argaeledd toiledauMae ein canllaw Gwasanaethau Rheilffyrdd Hygyrch: Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael yn ein gorsafoedd.

Bydd fflyd newydd o drenau’n cael ei chyflwyno. Rydym yn diweddaru ein gwefan hygyrchedd - mae’r dudalen yn cynnwys manylion am y toiledau sydd ar gael ar bob math o fflyd a pha mor hygyrch ydyn nhw. Rydym yn cyflwyno trên tram newydd ar Fetro De Cymru, ac fel systemau Metro eraill ledled y DU, nid oes gan ein tram-drenau doiledau ar fwrdd. Rydym yn gosod naw toiled newydd ac yn uwchraddio pump o'n toiledau presennol mewn gorsafoedd allweddol ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Mae'r holl doiledau newydd hyn yn gwbl hygyrch, ac mae gan bob un cyfleusterau newid babanod wedi'u cynnwys. Gellir dod o hyd i ddiweddariadau ar y cynnydd, a ble y bydd y rhain yn cael eu lleoli yma.

 

Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid

Dangosydd Ansawdd y GwasanaethAnsawdd y gwasanaeth
Bodlonrwydd cwsmeriaid*87.7% (cyfartaledd ar gyfer 25/26) 

*Symudom o ddefnyddio Wavelength i Arolwg Profiad Cwsmeriaid Rheilffordd yn ystod Nghyfnod 9
Adroddiad gwelliant parhausMae adroddiad gwelliant parhaus ymdrin â chwynion 2025-26 ar gael ar ein gwefan yma.

 

Ymdrin â chwynion, ad-daliadau ac iawndal am beidio â chydymffurfio â safonau ansawdd gwasanaeth

DangosyddAnsawdd gwasanaethau
Gweithdrefn ar waithMae gennym broses glir a chryno ar waith ar gyfer trin cwynion. Gellir dod o hyd i fanylion yma. Adolygir y weithdrefn hon gyda'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd. Caiff ei hadolygu'n flynyddol.
Nifer y cwynion a'r canlyniadDerbyniwyd 34,301 o gwynion gennym. Cyfeiriwyd 192 o achosion i'r Ombwdsmon.
Categorïau’r cwynion

Y pum cwyn mwyaf cyffredin oedd:

  • Prydlondeb a dibynadwyedd ein trenau
  • Diryw “talu wrth fynd”
  • Y broses hawlio iawndal
  • Cyfleusterau ar ein trenau.
  • Adborth negyddol am staff
Cwynion a dderbyniwyd34,301
Cwynion a broseswydFe wnaethon ni brosesu 100% o’r cwynion a dderbyniwyd. Fe wnaethon ni ddatrys 99.5% o’r cwynion a chyfeirio 0.5% at yr Ombwdsmon.
Amseroedd ymateb cyfartalogFe wnaethon ni ymateb i 96.88% o gwynion o fewn 20 diwrnod gwaith ac ymateb i 67.27% o fewn 10 diwrnod gwaith.
Camau gwella posibl a gymerwyd

Rydym yn cryfhau ein gallu mewnwelediad trwy:

  • recriwtio Pennaeth Mewnwelediadau Cwsmer
  • adolygu ein darparwyr ymchwil a mewnwelediad
  • ddatblygu Strategaeth Mewnwelediad Cwsmer clir i ddarparu mewnwelediad ymarferol.
  • wella data a chynllunio adroddiadau a data cwsmer.


Bob cyfnod, adolygwn ein tri chategori sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o gwynion ac yn gweithredu i ddatrys gwreiddiau’r problemau yna. Ymgymerwn adolygiadau perfformiad cyswllt cwsmer wythnosol i leihau’r nifer o gwynion. Parhawn i fonitro adborth cwsmeriaid yn ystod pob cyfnod.

Gellir dod o hyd i'n proses trin cwynion ac adroddiad gwelliant parhaus yma.

 

Cymorth a ddarperir i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig

DangosyddAnsawdd gwasanaethau
Hygyrchedd gorsafoedd a threnauMae ein canllaw Gwasanaethau Rheilffyrdd Hygyrch: Helpu Teithwyr Hŷn yn rhestru ein holl orsafoedd ac yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael ynddynt, gan gynnwys yr oriau staffio, toiledau a sgriniau gwybodaeth.

Mae ein tudalen we sy’n rhoi sylw i hygyrchedd gorsafoedd yn rhoi gwybodaeth am ein trefniadau presennol i helpu teithwyr anabl a hŷn i deithio ar ein trenau. Mae’n cynnwys manylion am ein cyfleusterau yn y gorsafoedd. Mae’n darparu manylion cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol a all fod eu hangen i gynllunio teithiau. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â hygyrchedd pob gorsaf sydd ar ein rhwydwaith ar hyn o bryd. Mae categorïau hygyrchedd gorsafoedd wedi cael eu pennu gan y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd ac mae’n egluro pa lefel hygyrchedd sydd i’w chael ym mhob gorsaf.

Rhannwn wybodaeth hygyrchedd trenau, yn ogystal â’u llwybrau teithio.
Darparu cymorth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedigYn ôl eu trwyddedau gweithredu, mae’n rhaid i gwmnïau trenau a gorsafoedd sefydlu a chydymffurfio â Chynllun Teithio Hygyrch, a rhaid i hwnnw gael ei gymeradwyo gan y Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd.

Mae’r Cynllun yn nodi, ymysg pethau eraill, y trefniadau a'r cymorth gan weithredwr i ddiogelu buddiannau pobl anabl sy'n defnyddio’r gwasanaeth ac i hwyluso defnydd o'r fath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Gall ein Tîm Cymorth wrth Deithio roi cyngor, archebu cymorth a threfnu tocynnau ar gyfer eich taith, dim ots pwy yw'r cwmni trên. Gallwch gysylltu â'r tîm drwy ffonio 03330 050 501 rhwng 0800 ac 2000 bob dydd, ar wahân i ddydd Nadolig. Dyma yw rhif gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf ar gyfer pobl sydd ag anawsterau clywed a siarad - 18001 03330 050 501.
Gweithdrefn gymorth ar waithMae'n ofynnol i weithredwyr trenau a gorsafoedd, yn ôl eu trwyddedau gweithredu, sefydlu a chydymffurfio â Chynllun Teithio Hygyrch y mae'n rhaid i'r ORR ei gymeradwyo.

Mae Cynllun Teithio Hygyrch yn nodi'r trefniadau a'r cymorth y bydd gweithredwr yn eu darparu i amddiffyn buddiannau pobl anabl sy'n defnyddio eu gwasanaeth ac i hwyluso'r defnydd hwnnw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Nifer yr achosion o gymorth fesul categori gwasanaeth (pellter hir rhyngwladol/domestig, rhanbarthol a threfol/maestrefol)Cwblhawyd 46,374 o adroddiadau cymorth i deithwyr. Ar hyn o bryd ni allwn fesur y ffigur hwn yn ôl categori gwasanaeth.