Rydym yn cyflwyno toiledau newydd fel rhan o Fetro De Cymru
Cyn bo hir, byddwn yn cyflwyno ein trenau tram newydd ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Mae'r cerbydau arloesol hyn yn allweddol i gyflawni amserlen y Metro, gyda gwasanaethau cyflymach ac amlach, a'r gallu i ehangu ein rhwydwaith yn y dyfodol.
Bydd y trenau newydd hyn yn cynnig sawl budd i'n cwsmeriaid, gan gynnwys mynediad gwell o'r trên i'r platfform a mwy o le ar drenau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a beiciau.
Fel systemau Metro eraill ledled y DU, nid oes gan ein trenau tram doiledau ar y trên.
Er mwyn sicrhau na fydd cwsmeriaid yn brin o gyfleusterau, rydym yn gosod naw toiled newydd ac yn uwchraddio pump o'n toiledau presennol mewn gorsafoedd allweddol ar draws llinellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Mae'r holl doiledau newydd hyn yn gwbl hygyrch ac mae gan bob un ohonynt gyfleusterau newid babanod.
Mae hyn yn golygu na ddylai cwsmeriaid byth fod mwy nag 20 munud i ffwrdd o orsaf sydd â thoiled wrth deithio ar rwydwaith y Metro.
Mae toiledau eisoes ar gael ym Mhontypridd, Trefforest, Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog. Byddwn yn agor ein toiledau newydd cyn gynted ag y byddant yn barod.
Dewch o hyd i'ch toiled agosaf
Bydd y trenau tram cyntaf yn rhedeg rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd. Mae toiledau ar gael yng ngorsafoedd Pontypridd, Trefforest, Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog. Gellir dod o hyd i oriau agor y toiledau hyn isod.
Pontypridd
Mae toiledau dros dro ar waith tra byddwn yn adnewyddu ac uwchraddio ein toiledau presennol.
Mae'r toiledau dros dro wedi'u lleoli ym mlaen yr orsaf.
Trefforest
Mae toiledau dros dro ar waith tra byddwn yn adnewyddu ac uwchraddio ein toiledau presennol.
Mae'r toiledau dros dro wedi'u lleoli ym maes parcio'r orsaf.
Radur
Bydd toiledau dros dro ar waith o ddydd Llun 22 Mehefin tra byddwn yn adnewyddu ac uwchraddio ein toiledau presennol.
Mae'r toiledau dros dro wedi'u lleoli ym maes parcio'r orsaf.
Caerdydd Heol y Frenhines
Wedi'u lleoli ar blatfform 4 a hefyd yn y prif gyntedd i'r chwith o'r swyddfa docynnau.
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 05:15 i 00:15, Dydd Sul 07:00 i 23:00.
Caerdydd Canolog
Wedi'u lleoli ar blatfformau 1 i 8.
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 04:00 i 01:00, dydd Sadwrn 04:00 i 00:30, dydd Sul 07:00 i 00:30.
Noder nad yw ein toiledau ar gael weithiau yn ystod cyfnodau o lanhau a gwaith cynnal a chadw hanfodol. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cynlluniwch eich taith ar ap neu wefan TrC a chadwch lygad ar ein sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid yn ein gorsafoedd.
Rhestr lawn o doiledau newydd ac sydd wedi'u hadnewyddu sy'n cael eu gosod ar draws ein rhwydwaith
Dewiswch eich taith isod i weld pa orsafoedd ar eich llwybr fydd â chyfleusterau toiledau ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
Merthyr i Gaerdydd
- Merthyr Tudful
- Ynysowen
- Abercynon
- Pontypridd
- Trefforest
- Radur
- Cardiff Heol y Ffrenhines
- Caerdydd Canolog
Aberdâr i Gaerdydd
- Aberdâr
- Cwm-bach
- Penrhiw-ceibr
- Abercynon
- Pontypridd
- Trefforest
- Radur
- Caerdydd Canolog
- Cardiff Heol y Ffrenhines
Treherbert i Gaerdydd
- Treherbert
- Treorci
- Llwynypia
- Tonypandy
- Porth (Cyfnewidfa Fysiau)
- Pontypridd
- Trefforest
- Radur
- Cardiff Heol y Ffrenhines
- Caerdydd Canolog
Pontypridd i Fae Caerdydd
- Pontypridd
- Trefforest
- Radur
- Cardiff Heol y Ffrenhines
Bwriwch olwg ar y toiledau newydd sydd yn ein gorsafoedd
Cwestiynau cyffredin
Pam nad oes toiledau ar y trenau tram?
Mae'r Metro wedi'i gynllunio i ddarparu gwasanaethau aml iawn, lle gall teithwyr ‘gyrraedd a mynd’, gyda chysylltiadau gwell rhwng Caerdydd a'r Cymoedd. Fel systemau Metro tebyg eraill ledled y DU, nid oes gan ein trenau tram gyfleusterau toiledau ar y trên.
Dyna pam rydyn ni'n gosod toiledau newydd ar draws ein rhwydwaith i wneud yn siŵr bod un gerllaw bob amser.
Sut ydw i'n cyrraedd y toiledau?
I gael mynediad i'r toiledau, pwyswch y botwm agor wrth ymyl drws y toiled. Mae'r botwm hwn yn cysylltu â'n Canolfan Reoli Ganolog, lle bydd ein tîm yn datgloi'r drws i chi.
Pan nad oes neb y tu mewn i'r toiled, bydd y drysau'n cael eu cloi'n awtomatig. Mae hyn yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn helpu i atal fandaliaeth. Mae system teledu cylch cyfyng newydd gael ei gosod ar du allan y toiledau, sy'n cael ei monitro'n fyw o'n canolfan reoli.
Mae pwyntiau cymorth hefyd wedi'u lleoli ar y tu mewn a’r tu allan i'r toiledau, sydd hefyd yn cysylltu'n fyw â'n tîm yn ein canolfan reoli pan gânt eu pwyso.
Beth yw oriau agor y toiledau?
Gallwch ddod o hyd i’r toiledau presennol yng ngorsafoedd Mhontypridd, Trefforest, Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog, yn ogystal â’u horiau agor wedi'u rhestru uchod ac ar ein tudalennau gorsaf: Gorsafoedd sy’n agos atoch chi
Bydd ein toiledau newydd yn agor cyn gwasanaeth cyntaf y dydd a byddant yn aros ar agor tan i drên olaf y dydd adael yr orsaf. Byddant yn cael eu cloi dros nos.
Pam nad ydych chi'n gosod toiledau newydd ar linellau Rhymni na Coryton?
Byddwn yn parhau i redeg ein trenau gyda thoiledau (Dosbarth 756) ar y llinellau hyn. Mae toiledau ar gael yng ngorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog.
Sut gafodd y lleoliadau ar gyfer toiledau newydd eu dewis?
Mae lleoliadau ein toiledau newydd wedi'u pennu'n rhannol drwy system modelu amserlenni. Unwaith y bydd y Metro wedi'i gwblhau'n llawn, bydd ein gwasanaethau'n rhedeg yn amlach gydag amseroedd teithio wedi'u lleihau. Mae lleoliad y toiledau newydd yn golygu na ddylai cwsmeriaid byth fod mwy nag 20 munud o doiled wrth deithio ar ein rhwydwaith Metro.
Rydym hefyd wedi dewis lleoliadau yn seiliedig ar eu hygyrchedd. Mae ein holl doiledau wedi'u lleoli mewn gorsafoedd sydd naill ai ag un platfform yn unig neu bont droed hygyrch os oes dau blatfform. Mae hyn yn sicrhau y gall teithwyr fynd yn hawdd rhwng pob platfform os oes angen iddynt ddefnyddio ein toiledau.
Pam ydych chi'n rhedeg trenau tram ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert a ddim yn cadw'r rhai sydd gennym ni nawr (trenau Dosbarth 756)?
Bydd y trenau tram newydd yn rhedeg ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert i Gaerdydd, gyda rhai gwasanaethau'n parhau ymlaen i Fae Caerdydd. Mae'r llinellau hyn wedi'u trydaneiddio'n llawn, gyda'r trenau tram yn cael eu pweru gan wifrau trydan uwchben a batri trwy rannau’r llinell nad ydynt wedi’u trydaneiddio. Mae’r sbardun cyflym sydd ganddynt yn golygu eu bod yn allweddol i ddarparu gwasanaeth bob 15 munud rhwng pen uchaf y Cymoedd a Chaerdydd.
Mae'r trenau Dosbarth 756 sy'n rhedeg ar y llinellau hyn ar hyn o bryd yn drenau tri-modd. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw'r gallu unigryw i redeg ar rannau’r rheilffyrdd sydd wedi’u trydaneiddio a’r rhannau nad ydynt wedi’u trydaneiddio. Oherwydd hyn, byddan nhw'n cael eu symud i linell Rhymni, gan deithio i Gaerdydd ac yna ymlaen i Ben-y-bont ar Ogwr ac Ynys y Barri. Gan nad yw'r rhan o Gaerdydd Canolog i Ben-y-bont ar Ogwr ac Ynys y Barri wedi'i thrydaneiddio, bydd y trenau 756 yn defnyddio eu gallu unigryw i newid i bŵer batri a diesel ar y rhan hon o'r rhwydwaith.
Ydy'r toiledau'n hygyrch?
Ydynt, mae ein holl doiledau newydd ac sydd wedi'u hadnewyddu yn gwbl hygyrch ac yn cydymffurfio â gofynion Pobl sydd ag Anawsterau Symud. Mae hyn yn cynnwys lle i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gael mynediad iddo, gyda rheiliau cymorth a phwyntiau cymorth brys. Mae gan bob pod toiled gyfleusterau newid babanod hefyd.
Bydd arwyddion allweddol hefyd yn cynnwys Braille i gefnogi'r rhai sydd â nam ar eu golwg.
A fydd y toiledau'n lân?
Bydd ein toiledau'n cael eu glanhau drwy gydol y dydd gan ein tîm glanhau symudol.
Os oes angen i chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda glendid, gallwch wasgu'r botymau cymorth ar y tu allan neu’r tu mewn i’r toiledau a siarad ag aelod o'n tîm rheoli. Gallwch hefyd anfon neges destun at ein rhif WhatsApp 07790 952 507.
Beth ddylwn i ei wneud nad yw’r toiled sydd agosaf ata i’n gweithio?
Byddwn yn dweud wrthych drwy ein ap neu wefan pan fydd toiled ar gau neu pan fydd ganddo gyfleusterau cyfyngedig. Byddwn hefyd yn ceisio dweud wrthych ble mae’r toiled arall agosaf atoch wedi'i leoli. Gan ein bod wedi gosod toiledau mewn llawer o'n gorsafoedd, ni ddylai eich toiled agosaf fod yn rhy bell i ffwrdd.
Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan Cynllun Toiledau Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod o hyd i doiled gerllaw.
Gellir hefyd dod o hyd i doiledau cyhoeddus ar wefan Llywodraeth Cymru.
A fydd y toiled yn ddiogel i'w ddefnyddio os yw mewn gorsaf heb staff?
Rydym am i'n cwsmeriaid deimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio ein toiledau newydd. Mae ein holl doiledau newydd dan olwg teledu cylch cyfyng byw sydd ar waith y tu allan i’r toiledau. Rydym hefyd wedi gosod goleuadau gwell yn y gorsafoedd hyn. Bydd ein timau diogelwch yn patrolio'r rhwydwaith ac yn gweithio'n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i ymateb os bydd unrhyw ddigwyddiadau'n cael eu riportio.
Os oes angen help arnoch neu os ydych chi'n teimlo'n anniogel, defnyddiwch y pwyntiau cymorth byw ar y tu mewn a'r tu allan i'r toiledau. Os ydych chi'n poeni am eich diogelwch eich hun, cysylltwch â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy anfon neges destun at 61016.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng.
A fydd y trên tram yn aros i mi os bydd angen i mi ddod oddi ar y trên i ddefnyddio'r toiled?
Na. Er mwyn cadw ein rhwydwaith a'n cwsmeriaid i symud, os oes angen i chi ddefnyddio'r toiled, bydd angen i chi ddod oddi ar y trên mewn gorsaf sydd â thoiled ac yna aros am y gwasanaeth nesaf.
Pan fydd amserlen y Metro ar waith, bydd trenau’n rhedeg bob 15 munud ar y rhan fwyaf o’r rhwydwaith.
Pryd mae'r toiledau'n cau a beth sy'n digwydd ar y trên olaf adref?
Bydd ein toiledau newydd yn aros ar agor nes bod y trên olaf wedi gadael yr orsaf. Cynghorir cwsmeriaid i ddefnyddio cyfleusterau toiled cyn mynd ar y trên.
Tan ddiwedd 2026, byddwn yn parhau i ddefnyddio ein trenau Dosbarth 756 ar ein gwasanaethau olaf y dydd. Mae toiledau ar y trenau hyn.
Ar ôl hyn, byddwn yn disodli ein trenau Dosbarth 756 gyda'n trenau tram, gan ychwanegu arosfannau toiled pwrpasol at ein hamserlen ar wasanaethau hwyr y nos. Bydd hyn yn caniatáu i gwsmeriaid ddod oddi ar y trên a defnyddio'r toiled, cyn mynd yn ôl ymlaen a pharhau â'u taith.
Sut ydw i'n rhoi gwybod am broblem gyda'r toiledau?
Gallwch roi gwybod am unrhyw broblemau gyda'r toiledau
- Trwy ein pwyntiau cymorth sydd wedi'u lleoli ar y tu allan a’r tu mewn i'r toiledau.
- Anfonwch neges destun at ein rhif WhatsApp 07790 952 507
- Ffoniwch ni ar 03333 211 202
- Cysylltwch ag aelod o’n criw trên neu staff yr orsaf.
Beth ddylwn i ei wneud os nad yw drws y toiled yn agor?
Mewn argyfwng, defnyddiwch y botwm galw ar y tu mewn i’r toiled fel y gallwn eich cynorthwyo. Os bydd methiant pŵer, bydd y drws yn datgloi'n awtomatig, tynnwch ef i'r chwith i’w agor.
Os na allwch agor y drws, tynnwch y llinyn brys a bydd un o'n cydweithwyr yn dod i'ch helpu. Fel arall, ffoniwch ni ar 03333 211 202.
Ymgysylltu â Grwpiau Hygyrchedd a Grwpiau Cymunedol
Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn newid sylweddol i'n cwsmeriaid, ac mae'n bwysig bod ein cynlluniau'n adlewyrchu anghenion pawb sy'n defnyddio ein rhwydwaith, yn enwedig y rhai ag anableddau neu anghenion hygyrchedd sy'n dibynnu ar fynediad i doiledau wrth deithio.
Yn hydref 2025, cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws gyda grwpiau hygyrchedd a grwpiau cymunedol allweddol ar draws y Cymoedd. Helpodd y sesiynau hyn ni i lunio ein cynlluniau a deall y ffordd orau o roi gwybod i gwsmeriaid am y newidiadau hyn.
Roedd y themâu allweddol o'r grwpiau ffocws yn cynnwys:
- Ymwybyddiaeth gyffredinol nad oes gan drenau tram doiledau ar y trên, er bod llai o bobl yn ymwybodol o'r rhesymau dros hyn.
- Cefnogaeth gref i osod mwy o doiledau mewn gorsafoedd.
- Ffafriaeth glir i doiledau y gellir eu cyrchu drwy fotwm gwthio i agor gyda chysylltiad byw â'n canolfan reoli, er mwyn cefnogi diogelwch a glendid.
- Adborth cadarnhaol ynghylch y ffaith bod bob toiled newydd yn gwbl hygyrch.
Os hoffech wneud sylwadau ar ein cynlluniau neu rannu eich adborth, cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 neu anfonwch neges atom ar 07790 952 507.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am ein trenau tram ar yma.
Mae rhagor o wybodaeth am ba orsafoedd sydd â mynediad heb risiau, cyfleusterau toiledau a mwy, ar gael ar dudalen Ymholiadau National Rail.