Terfyn Cyflymder 20mya Diofyn ar Ffyrdd  Cyfyngedig Cam 1

Atodiad A

 

Datganiad diwygio ar gyfer adroddiad monitro interim cam 1 a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Mawrth 2023

Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig o adroddiad monitro interim cam 1 ar 15 Chwefror 2024. Mae’n disodli’r datganiad blaenorol ar 16 Mawrth 2023.

Mae canrannau’r cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya (DPA 1.1) a’r dosraniadau cyflymder cerbydau wedi cael eu diweddaru yn dilyn cywiriad yn y dulliau cyfrifo.

Mae cyflymderau cymedrig wedi’u pwysoli (DPA 1.3) a chyflymderau 85 canradd (DPA 1.2) wedi cael eu hailgyfrifo yn dilyn mân newidiadau i fethodoleg.

Mae mân gywiriadau i bum o amseroedd teithio yn nhabl 7.

Mae tablau 3, 4, 7 ac 14 a ffigurau 3, 4, 5, 6 a 7 wedi cael eu diwygio ac mae mân newidiadau i’r testun disgrifiadol sy’n gysylltiedig â’r ffigurau hyn.

Nid yw’r diwygiadau a’r cywiriadau hyn yn cael unrhyw effaith ar yr asesiad cyffredinol o newid a nodir yn nhabl 14.

Manylion cyswllt ar gyfer yr adroddiad hwn

Uned Dadansoddi Trafnidiaeth Geo-ofodol a Strategol

monitro20mya@trc.cymru