Ar ôl gweithredu'n genedlaethol, data - Chwefror 2024
Newidiadau rhagarweiniol i’r cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya) ar y prif ffyrdd trwodd, yn dilyn y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig
Data rhagarweiniol yw’r data hyn. Mae rhagor o ddata ar ôl gweithredu yn cael eu casglu yn ystod 2024, felly mae’n bosibl y bydd cyflymder ar ôl gweithredu yn newid. Am y rheswm hwn, argymhellir eich bod yn ofalus wrth ddehongli. Mae'r data'n gynrychioliadol o'r ardaloedd sy'n cael eu monitro ond efallai na fyddan nhw’n gynrychioliadol o Gymru gyfan.
Casglwyd y data ar brif ffyrdd trwodd mewn 43 safle mewn naw ardal. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya o 17 Medi 2023 ymlaen. Roedd pob ffordd yn rhydd i raddau helaeth o gyfyngiadau ffisegol a oedd yn lleihau cyflymder traffig adeg y monitro.
- Newidiadau cyflymder 20mya cenedlaethol rhagarweiniol
(Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig o'r newidiadau cyflymder cymedrig pwysol rhagarweiniol (mya) ar 1 Mai 2024, yn dilyn cywiriad yn y cyfrifiadau ar gyfer Tabl 1.) - Mapiau safleoedd monitro
Cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol
Manylion cyswllt ar gyfer yr adroddiad hwn