Gwybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth 2023 (y "Rheoliadau")
Cyhoeddir y manylion isod yn unol â Rheoliad 23 o'r Rheoliadau, mewn perthynas â'r Cytundeb Gwasanaethau Rheilffyrdd (y "Cytundeb") a ddyfarnwyd yn uniongyrchol i Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig ar 30 Ionawr 2026.
(a) enw a chyfeiriad yr awdurdod cymwys,
GWEINIDOGION CYMRU, y mae ei brif fan busnes yn Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, y Deyrnas Unedig CF10 3NQ
(b) y math o ddyfarniad,
dyfarniad uniongyrchol contract gwasanaeth cyhoeddus i gwmni sector cyhoeddus fel dyfarniad uniongyrchol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth 2023
(c) y gwasanaethau, a ddisgrifir mor fanwl fel y gall darllenydd yr hysbysiad gymharu'r gwasanaethau â'r gwasanaethau a ddisgrifir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd mewn perthynas â'r contract gwasanaeth cyhoeddus o dan reoliad 22, a'r ardaloedd daearyddol a gwmpesir gan y dyfarniad,
Mae manylion y gwasanaethau ar gael yn Gofyniad Gwasanaeth Trên TSR3. Mae'r llwybrau a wasanaethir fel a ganlyn:
Gwasanaethau Llinellau Cymru a’r Gororau
(i) Crewe i Gaer;
(ii) Caer i Gyffordd Llandudno;
(iii) Cyffordd Llandudno i Fangor;
(iv) Bangor i Gaergybi;
(v) Cyffordd Llandudno i Landudno;
(vi) Cyffordd Llandudno a Llandudno i Flaenau Ffestiniog;
(vii) Crewe a Chaer i Fangor a Chaergybi;
(viii) Wrecsam i Bidston;
(ix) Wilmslow / Maes Awyr Manceinion / Manceinion i Gaer trwy Warrington Bank Quay;
(x) Amwythig i Gaer;
(xi) Amwythig i Aberystwyth;
(xii) Machynlleth i Bwllheli;
(xiii) Birmingham Rhyngwladol a Birmingham New Street i Amwythig;
(xiv) Ynys y Barri i Gaerdydd Canolog;
(xv) Pen-y-bont ar Ogwr i'r Barri drwy Lanilltud Fawr;
(xvi) Tref Glynebwy i Gaerdydd Canolog;
(xvii) Tref Glynebwy i Gasnewydd;
(xviii) Abertawe i Ddoc Penfro;
(xix) Gwasanaeth Lleol Tregŵyr (Abertawe i Lanelli);
(xx) Gwasanaeth Lleol Cydweli a Glanyfferi (Abertawe i Gaerfyrddin);
(xxi) Caerdydd Canolog i Gaerfyrddin drwy Abertawe a thrwy “Linell Bwrdeistref Abertawe";
(xxii) Caerdydd Canolog a Chaerfyrddin i Aberdaugleddau;
(xxiii) Caerfyrddin i Harbwr Abergwaun;
(xxiv) Pen-y-bont ar Ogwr i Abertawe;
(xxv) Caerdydd Canolog i Faesteg;
(xxvi) Amwythig i Lanelli ac Abertawe;
(xxvii) Caerdydd Canolog i Crewe a Manceinion Piccadilly;
(xxviii) Caerdydd Canolog i Henffordd;
(xxix) Henffordd i'r Amwythig;
(xxx) Amwythig i Crewe;
(xxxi) Caerdydd Canolog i Gaergybi
(xxxii) Caerdydd i Gaerloyw;
(xxxiii) Caerdydd i Cheltenham Spa;
(xxxiv) Caerdydd i Benarth;
(xxxv) Caerdydd i Radur drwy'r Tyllgoed;
(xxxvi) Liverpool Lime Street i Gaer trwy Halton Curve;
(xxxvii) Park Junction i Gyffordd Gaer (ar gyfer Gwasanaeth Tref Casnewydd i Lynebwy);
a
(xxxviii) Caerfyrddin i Gaerdydd i Bristol Temple Meads
Gwasanaethau Rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd ('CVL')
(i) Rhymni i Gaerdydd Heol y Frenhines;
(ii) Cangen Coryton;
(iii) Ystrad Mynach i Gwm Bargoed;
(iv) Merthyr Tudful i Gaerdydd Heol y Frenhines;
(v) Aberdâr i Gaerdydd Heol y Frenhines;
(vi) Aberdâr i Hirwaun;
(vii) Treherbert i Gaerdydd Heol y Frenhines;
(viii) Caerdydd Heol y Frenhines i Gaerdydd Canolog;
(ix) Caerdydd Heol y Frenhines i Fae Caerdydd;
a
(x) Bae Caerdydd i’r Flourish
(d) dyddiad dechrau a hyd y contract gwasanaeth cyhoeddus neu'r rheol gyffredinol,
02:00 ar 1 Chwefror 2026 - 01:59 ar 1 Chwefror 2036 neu'r dyddiad cynharach y caiff yr Awdurdod ei hysbysu i Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig;
(e) y dyddiad y gwnaethpwyd i'r contract gwasanaeth cyhoeddus,
30 Ionawr 2026
(f) disgrifiad o baramedrau'r iawndal ariannol,
I dalu costau heb y refeniw a enillwyd, yn ddarostyngedig i gyllidebau y cytunwyd arnynt â Gweinidogion Cymru cyn pob Blwyddyn Wasanaeth
(g) pan wneir y dyfarniad ar sail gweithdrefn dendro gystadleuol-
(i) y meini prawf dyfarnu,
(ii) nifer y tendrau a dderbyniwyd, gan gynnwys y nifer a dderbyniwyd gan fentrau bach neu ganolig,
Amherthnasol
(h) pan wneir y dyfarniad o dan reoliad 18 neu 19, y rhesymau dros y penderfyniad i wneud y dyfarniad, gan gynnwys y rhesymau dros wneud y dyfarniad o dan y rheoliad hwnnw,
(i) enw a chyfeiriad y gweithredwr gwasanaeth cyhoeddus ac a yw'r gweithredwr gwasanaeth cyhoeddus yn fenter fach neu ganolig ei faint ai peidio,
(ii) dyfarnwyd y contract gwasanaeth cyhoeddus i grŵp o weithredwyr economaidd (p'un a ydynt yn gweithredu fel menter ar y cyd, consortiwm neu fath arall o fenter ar y cyd),
Amherthnasol
(j) lle bo'n briodol, datganiad ynghylch a yw'r contract gwasanaeth cyhoeddus wedi'i isgontractio, neu y gellir ei is gontractio,
Ni chaiff Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig is-gontractio na dirprwyo darpariaeth unrhyw un o'r Gwasanaethau Rheilffyrdd sydd i'w darparu o dan y Cytundeb heb ganiatâd ysgrifenedig gan yr Awdurdod ymlaen llaw.
(k) datganiad o'r hawl i gymryd camau gorfodi o dan Ran 5 o'r Rheoliadau hyn,
Mae gan barti â diddordeb hawliau gweithredu penodol o dan Ran 5 o'r Rheoliadau os bydd yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau.
(l) dyddiad a chyfeirnod unrhyw gyhoeddiad blaenorol ar wefan yr awdurdod cymwys sy'n berthnasol i'r contract gwasanaeth cyhoeddus neu'r rheol gyffredinol,
Dim
(m) lle mae'r contract gwasanaeth cyhoeddus neu'r rheol gyffredinol yn cynnwys rhoi cymhorthdal-
(i) sail gyfreithiol ac amcan polisi neu ddiben y cymhorthdal,
Darperir y cymhorthdal fel rhan o gontract gwasanaeth cyhoeddus a ddyfernir yn uniongyrchol o dan Reoliad 17 o Reoliadau Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth 2023, gan alluogi Gweinidogion Cymru i gyflawni eu dyletswydd statudol o dan Ddeddf Rheilffyrdd 1993 i sicrhau gwasanaethau teithwyr rheilffordd.
Amcan y polisi yw sicrhau parhad, fforddiadwyedd a darpariaeth hirdymor gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau lle nad yw refeniw tocynnau teithio yn unig yn ddigonol.
(ii) enw derbynnydd y cymhorthdal,
Derbynnydd y cymhorthdal yw Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig (Rheilffyrdd TrC Cyf), y cwmni trenau sy'n eiddo cyhoeddus y dyfernir y Cytundeb Gwasanaethau Rheilffyrdd iddo'n uniongyrchol.
(iii) dyddiad rhoi'r cymhorthdal, hyd y cymhorthdal ac unrhyw derfynau amser eraill sydd ynghlwm wrth y cymhorthdal,
Mae'r cymhorthdal yn dod i rym o 1 Chwefror 2026, dyddiad cychwyn y Cytundeb Gwasanaethau Rheilffyrdd, ac mae'n berthnasol am hyd y contract (10 mlynedd).
Ni nodir unrhyw derfynau amser penodol ar wahân ar gyfer cymorthdaliadau y tu hwnt i gyfnod y contract.
(iv) swm y cymorthdaliadau neu’r swm a gyllidebwyd ar gyfer y cymorthdaliadau,
Nid yw'r Cytundeb Gwasanaethau Rheilffyrdd yn nodi un swm cymhorthdal sefydlog. Darperir cymorth ariannol drwy fecanweithiau iawndal ariannol y cytunwyd arnynt, gyda chyllid yn cael ei bennu drwy gyllidebau Llywodraeth Cymru a chynllunio busnes blynyddol, yn hytrach na gwerth grant annibynnol.
Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy gyllideb Cymorth Gwasanaethau Rheilffyrdd o fewn y Prif Grŵp Gwariant Trafnidiaeth (MEG). Gellir dod o hyd i fanylion cyllidebau Llywodraeth Cymru yma - https://www.llyw.cymru/cyllidebau-llywodraeth-cymru
(n) dyddiad cyhoeddi'r wybodaeth ar y wefan yn unol â rheoliad 23 (2),
30 Mawrth 2026