Amserlenni trenau Cymru a’r DU

Rydyn ni am eich helpu chi i gynllunio’ch taith gyda hyder, felly gwiriwch ein hamserlenni trên cyn ichi deithio i osgoi unrhyw newidiadau annisgwyl.

Ar adegau, bydd angen inni gyflwyno amserlenni newydd neu dros dro pan fydd gwaith hanfodol wedi’i gynllunio, neu os bydd unrhyw broblemau’n codi ar y rhwydwaith. Gwiriwch am unrhyw newidiadau i amserau a chysylltiadau trên gyda gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill cyn ichi deithio.

Gallwch gadw’n hysbys drwy ddefnyddio’n ap, sy’n darparu’r amserau trên diweddaraf ac sy’n eich cadw chi’n hysbys ynghylch eich taith.

Ein cynllunydd teithiau

Ein ap trenau

 

Trenau newydd yn cyrraedd y Cambrian: newidiadau i wasanaethau Machynlleth i Bwllheli

Byddwn yn dechrau cyflwyno ein trenau Dosbarth 197e newydd ar linell y Arfordir y Cambrian rhwng Pwllheli a Machynlleth o 19 Hydref

Dyma'r tro cyntaf mewn dros 30 mlynedd i drenau newydd weithredu ar y lein hwn.

Ar hyn o bryd, nid yw ein trenau newydd yn gallu cysylltu â, na datgysylltu o’r trenau sydd eisoes ar lein y Cambrian, felly rydym yn eu cyflwyno'n raddol a bydd cwsmeriaid yn parhau i weld cymysgedd o drenau newydd a hen drenau ar Lein y Cambrian.

O Ddydd Llun 19 Hydref tan ddiwedd 2026, bydd trenau ar linell Arfordir y Cambrian rhwng Pwllheli a Machynlleth yn dechrau ac yn gorffen dros dro ym Machynlleth.

Os ydych chi'n teithio rhwng Arfordir y Cambrian a Birmingham drwy'r Amwythig, bydd angen i chi newid trên ym Machynlleth i barhau â'ch taith.

Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn cynghori ein holl gwsmeriaid sy'n teithio rhwng Pwllheli a Machynlleth, Amwythig a Birmingham i wirio cyn i chi deithio gan ddefnyddio ap neu wefan TrC. Bydd hyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am drenau cysylltu, pa blatfform y mae angen i chi newid iddo ac unrhyw newidiadau munud olaf i wasanaethau.

Hwyluso eich taith

Deallwn fod newid trenau yn gallu bod yn straen. Rydym wedi bwriadu gwneud newid ym Machynlleth mor syml â phosibl i bob cwsmer:

  • Bydd staff ychwanegol ar gael ym Machynlleth i ddarparu gwybodaeth am deithio ac i helpu cwsmeriaid i newid trenau.
  • Os oes angen cymorth arnoch, gellir archebu Cymorth i Deithwyr ymlaen llaw trwy ffonio 03330 050 501. Mae'r tîm yno i gefnogi teithwyr sydd ag anableddau neu lai o symudedd.
  • Os oes gennych fagiau trwm gyda chi a'ch bod chi'n poeni am newid trenau, rhowch wybod i reolwr y trên cyn cyrraedd Machynlleth.
  • Mae gan orsaf Machynlleth lifftiau sy'n darparu mynediad di-risiau rhwng platfformau, a bydd gennym staff ychwanegol wrth law i helpu.

Rydym hefyd yn ei gwneud hi'n haws cael mynediad i orsafoedd ar linell y Cambrian. Rydym wedi codi’r platfform i lefel safonol yn chwe gorsaf - Aberdyfi, Dyffryn Ardudwy, Llwyngwril, Talsarnau, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Bydd y gwelliannau hyn yn helpu defnyddwyr cadair olwyn, pobl sy'n teithio gyda phramiau a bygis, ac unrhyw un sydd â symudedd llai.

Ynglŷn â'n trenau Dosbarth 197e newydd

Mae ein trenau Dosbarth 197e newydd wedi'u hadeiladu yng Nghymru ac yn darparu teithiau mwy modern, cyfforddus a dibynadwy i gwsmeriaid sy'n teithio ar draws gogledd a chanolbarth Cymru.

Bydd teithwyr yn elwa o sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg, pwyntiau WiFi a gwefru gwell, aerdymheru modern a thu mewn mwy hygyrch. Mae gan bob trên dau-gerbyd ardaloedd neilltuol i deithwyr â symudiad cyfyngedig yn ogystal â thoiled sydd yn llawn hygyrch.

Gelwir y trenau yn unedau Dosbarth 197e oherwydd eu bod wedi'u gosod â'r system rheoli trenau Ewropeaidd, system signalau digidol arbenigol a ddefnyddir ar lein y Cambrian.

Yn raddol, bydd fflyd newydd Dosbarth 197e yn disodli ein trenau Dosbarth 158, sydd wedi darparu gwasanaeth y Cambrian ers dros dri degawd.

Newid amserlen o ddydd Sadwrn 10 Hydref 2026

Newid dros dro i'r amserlen o ddydd Sadwrn 10 Hydref i ddydd Gwener 4 Rhagfyr

Rydym yn gwneud newidiadau i'n hamserlenni ar draws ein rhwydwaith i wella dibynadwyedd yn ystod tymor yr hydref.

Yn ystod yr hydref, gall dail sydd wedi cwympo gronni ar y rheilffordd ac, o'u cyfuno â lleithder, creu haen llithrig ar y rheilffyrdd tebyg i iâ du ar y ffyrdd. Gall hyn leihau tyniant, gan ei gwneud hi'n anoddach i drenau gyflymu a brecio'n effei.thlon.

Er mwyn helpu i gynnal gwasanaethau prydlon a dibynadwy, bydd rhai teithiau yn cael eu ail amseru ychydig, gan ganiatáu amser ychwanegol i yrwyr trên brecio a chyflymu'n ddiogel yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan gwymp dail.

Gwiriwch cyn i chi deithio, gan y gallai gwasanaethau adael gorsafoedd ychydig funudau'n gynharach nag arfer.

Dyma grynodeb o’r newidiadau mwyaf sylweddol

Wrecsam i Lerpwl (llinell Wrecsam i Bidston)

Bydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau yn dechrau ac yn gorffen yn Wrecsam Cyffredinol. Ni fydd unrhyw wasanaethau bysiau yn lle trenau yn rhedeg rhwng Wrecsam Cyffredinol a Wrecsam Canolog. Bydd teithiau ar hyd y llwybr hwn yn cael eu hail-amseru tua 1-3 munud, gyda chysylltiadau yn cael eu cadw yn Shotton.

Llinell Maesteg

Bydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau o Gaerdydd Canolog i Faesteg yn gadael Caerdydd 1-2 funud ynghynt.

Ni fydd y gwasanaeth 23:16 o Gaerdydd Canolog i Faesteg yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, er mwyn caniatáu i'r Trên Trin Rheilffordd redeg ar linell Maesteg.

Cynghorir cwsmeriaid i deithio ar y gwasanaeth 23:20 o Gaerdydd Canolog i Gaerfyrddin i Ben-y-bont ar Ogwr, lle bydd bws yn rhedeg i Faesteg.

Cyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog (llinell Dyffryn Conwy)

Mân ail-amseru gwasanaethau ar hyd y llwybr, gyda theithiau'n cymryd 2-3 munud yn hirach. Bydd trenau'n gadael Blaenau Ffestiniog ychydig yn gynt.

Amwythig i Gasnewydd (Gororau)

Mân ail-amseru gwasanaethau ar hyd y llwybr.

Amwythig i Birmingham

Mân ail-amseru gwasanaethau rhwng Amwythig a Wolverhampton, gyda rhai gwasanaethau yn gadael Amwythig ychydig yn gynharach.

Amwythig i Gaer a Crewe

Mân ail-amseru ar hyd y llwybr.

 

I gael manylion llawn ac i gynllunio'ch taith, gwiriwch cyn teithio trwy ymweld â trc.cymru a nodwch fanylion y daith o 10 Hydref ymlaen.

 

 

Newidiadau i amserlenni’r Metro

Gall amserlenni newid hefyd oherwydd gwaith o drawsnewid y metro ar draws ein rhwydwaith. Ewch i’n tudalen am y gwaith o drawsnewid y metro i gael rhagor o wybodaeth.

Gwaith trawsnewid y Metro

 

Ad-daliadau yn sgil newidiadau i amserlenni

Os ydych chi eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau, byddwch chi’n gallu defnyddio eich tocynnau ar wasanaethau trên eraill TrC. Fel arall, gallwch chi wneud cais am ad-daliad drwy fynd i’n tudalen ad-daliadau.

Ad-daliadau

 

Rydyn ni’n argymell defnyddio’n cynllunydd teithiau i aros yn gwbl hysbys ynghylch amserau trên, unrhyw newidiadau iddynt a theithiau sydd wedi cael eu canslo.

 

Cwestiynau cyffredin

Sut alla i ddod o hyd i’r amserau trên mwyaf cywir ar gyfer fy nhaith?

Y ffordd orau i wirio amserau trên yw drwy ddefnyddio’n cynllunydd teithio neu ap TrC. Caiff yr offer hwn eu diweddaru’n rheolaidd i ddangos unrhyw newidiadau a gynlluniwyd neu unrhyw amserlenni dros dro ar draws rhwydwaith Cymru a’r DU.

Pam ydy amserlenni trên yn newid?

Rydyn ni’n diweddaru’n amserlenni i wella’n gwasanaethau, galluogi gwaith cynnal a chadw hanfodol, neu pan fod prosiectau pwysig fel ein gwaith trawsnewid Metro ar waith. Rydyn ni bob amser yn ceisio darparu gwybodaeth glir er mwyn ichi gynllunio ymlaen llaw.

Beth ddylwn i wneud os ydy amserau fy nhrên wedi newid ers imi brynu tocyn?

Os oes yna newid amserlen sy’n effeithio ar eich taith, rydyn ni’n hapus ichi ddefnyddio’ch tocyn ar wasanaeth TrC arall. Os nad yw’r amserau newydd yn gweithio ichi, gallwch fynd i’n tudalen ad-daliadau i gael eich arian yn ôl.

Ymhle alla i gael copi o amserlen ar gyfer trên penodol?

Gallwch ddod o hyd i restr o lyfrynnau ag amserlenni cyfredol ar y dudalen hon. Am amserlen wedi’i deilwra i’ch llwybr penodol chi, rydyn ni’n argymell defnyddio’r teclyn a ddarperir gan National Rail Enquiries.

Ydy’r amserau trên yng Nghymru'r un peth ar y penwythnos?

Mae amserau trên yn aml yn wahanol ddydd Sadwrn a Sul er mwyn galluogi gwaith gwella traciau neu er mwyn rhoi gwasanaethau ychwanegol ar waith ar lwybrau sy’n boblogaidd dros y gwyliau. Gwiriwch eich dyddiad teithio penodol bob amser o 17 Mai gan ddefnyddio’n cynllunydd teithio.