“An ugly, lovely town…crawling, sprawling…by the side of a long and splendid curving shore. This sea-side town was my world.” Geiriau enwog Dylan Thomas.

Mewn cornel o dde-orllewin Cymru mae dinas arfordirol Abertawe. Mae ganddi hanes cyfoethog a diwylliant amrywiol, cosmopolitan. Gyda chysylltiadau rheilffordd hawdd â Chanolbarth, Gorllewin a De Cymru, yn ogystal â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’n hawdd cyrraedd yma ar drên.

 

Amgueddfa’r Glannau

Os mai hanes sy'n mynd â’ch bryd, bydd yr amgueddfa hon yn eich cyfareddu. Mae’n cymryd oddeutu 10 munud ar droed o orsaf drenau Abertawe. Gydag arddangosfeydd yn cwmpasu’r canrifoedd, mae Amgueddfa’r Glannau yn adrodd stori Abertawe, o’i gorffennol hynafol i’w hanes diwydiannol.

Cewch gyfle i weld darganfyddiadau archaeolegol, fel esgyrn a dannedd mamoth, arteffactau aur a gloddiwyd o bridd Cymru a chelf sy’n dyddio o’r 16eg ganrif. Mae llinell amser yr amgueddfa hefyd yn mynd â chi at y Chwyldro Diwydiannol a’r syniadau arloesol a’r adnoddau naturiol a helpodd i wneud Abertawe yn bwerdy economaidd.

 

LC Abertawe

LC Abertawe yw prif barc dŵr a chanolfan hamdden Cymru. Gallwch nofio, chwarae, syrffio, dringo neu fynd i’r sba. Bydd y man chwarae rhyngweithiol pedwar llawr ar thema’r dŵr yn diddanu plant am oriau.

 

Gerddi Clun

Gan gynnwys llawer o rywogaethau planhigion o’r Casgliad Cenedlaethol, mae Gerddi Clun yn cynnig llonyddwch heddychlon ac mae’n lle perffaith i fynd i ffwrdd am beth amser. Wedi eu lleoli mewn parciau gogoneddus, roedd y gerddi’n eiddo i’r miliwnydd lleol William Graham Vivian yn 1860. Cawsant eu trosglwyddo i’w nai a fu’n gofalu amdanynt tan ei farwolaeth ddechrau’r 1950au.

Gyda choedydd clychau’r gog hyfryd a dolydd yn llawn blodau gwyllt, pontydd dros ddyfrffyrdd troellog a chapel hyfryd, mae croeso i chi fynd i mewn i’r gerddi unrhyw bryd.

Clyne Gardens

 

Sw Trofannol Plantasia

Wedi ei leoli ym mharc manwerthu Parc Tawe, mae Sw Trofannol Plantasia yn cynnig antur y gallwch chi ymgolli’n llwyr ynddi, gan alluogi ymwelwyr i fod yn agos a phersonol gydag amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion.

Mae tua 5000 o blanhigion yn tyfu mewn amodau sy’n hybu’r iechyd gorau posibl, ac mae’n cynnwys dau barth lle rheolir yr hinsawdd - coedwig law drofannol a thir sych. Mae’r rhain yn cynnwys coed palmwydd, bromeliad, tegeirianau a bambŵ enfawr, sy’n rhoi modd i ymwelwyr ddychmygu eu bod mewn coedwig law go iawn. O fewn y parthau o dyfiant toreithiog mae nodweddion dŵr sy’n cynnwys piranha torgoch, a koi lliwgar, ac o amgylch y pyllau fe welwch ambell grocodeil, caimans a pheithonau. Mae’r coed yn llawn adar macaw bywiog, a gellir gweld mirgathod, marmosetau a chathod llewpard gosgeiddig drwy’r deiliach.

Mae gan y sw nifer o weithgareddau i ymwelwyr gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys helpu yn ystod amser bwydo crocodeilod, edrych ar y tarantwlaod, neu oruchwylio’r mirgathod adeg prydau bwyd. Gellir mabwysiadu llawer o’r anifeiliaid.

 

Marchnad Dan Do Abertawe

Sefydlwyd Abertawe fel tref farchnad yn y 1100au. Lledaenodd ei masnachwyr dros y canrifoedd, gan ymsefydlu yn y strydoedd â’r enwau hynod Frog Street a Goat Street a llenwi Sgwâr y Castell a Wind Street yn y pen draw. Yn yr 17eg ganrif, adeiladwyd neuadd bwrpasol a dyma lle gellir dod o hyd i’r farchnad fwyaf yng Nghymru o hyd.

Stondinau sy’n gwerthu bwydydd gwych, cigoedd wedi eu magu’n lleol a chawsiau wedi eu gwneud â llaw, bara a chacennau artisan gyda chrefftau lliwgar a gwaith dylunwyr gemwaith. Cewch weld crochenwaith stiwdio ar stondin wrth ymyl gwaith lledr a dillad boho. Mae’r cyfan yma.

Dim ond pum munud mae’n ei gymryd i chi gerdded i’r farchnad o orsaf Abertawe. Pan fyddwch chi yno, crwydrwch o gwmpas y stondinau gymaint ag y dymunwch chi.

 

Penrhyn Gŵyr

Gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, mae Penrhyn Gŵyr yn ymestyn dros 70 milltir sgwâr. Mae’n cynnig cyfle prin i brofi natur heb ei difetha ac ar ei phrydferthaf.

Mae llawer yn dod ar gyfer y traethau godidog, fel Llangynydd, Bae Oxwich a Rhosili, sy’n boblogaidd gyda syrffwyr a theuluoedd. Yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae tirwedd Penrhyn Gŵyr yn amrywiol iawn ac yn amrywio o fawnogydd a morfa heli i glogwyni calchfaen a glaswelltir byr.

Wyddoch chi bod chwe chastell o gwmpas y penrhyn. Mae nifer o garneddau a meini hirion hefyd, gyda rhai’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Palaeolithig Uchaf o leiaf.

Mae’r bywyd gwyllt hefyd yn drawiadol, gyda mamaliaid morol, gan gynnwys morloi, dolffiniaid a llamidyddion, i’w gweld yn aml o gwmpas yr arfordir. Gallwch hefyd weld gwylanod coesddu pluog, llursod a nythod mulfrain ar wynebau’r clogwyni garw. Mae rhywbeth i’ch rhyfeddu a’ch ysbrydoli ym mha le bynnag y byddwch chi ar Benrhyn Gŵyr.

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
  • Mwynhewch yr awyr agored
  • Perffaith ar gyfer gwylio’r bywyd gwyllt morol lleol
  • Penrhyn Gŵyr

The Gower Peninsula

 

Pier y Mwmbwls

Mae’r Mwmbwls yn llawn cymeriad a swyn. Mae siopau bwtîc, bwytai a bariau annibynnol ar hyd y strydoedd lle byddwch hefyd yn siŵr o weld parlwr hufen iâ byd-enwog Joe’s - sydd yr un mor boblogaidd gyda’r bobl leol â’r twristiaid.

Gan ymestyn allan dros y tonnau am 835 troedfedd (255 m), mae Pier y Mwmbwls yn strwythur sydd wedi ei restru Gradd II, ac fe’i hagorwyd ym 1898. Mae wedi darparu golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe ers hynny.

Yn gartref i’r atyniadau traddodiadol y byddech chi’n eu disgwyl, mae gan y pier arcêd difyrion ffyniannus. Mae ‘Gamez Room’ yma hefyd, sy’n cynnig bowlio, pwll, jiwcbocs am ddim a llawer mwy. Ym mhen draw’r pier mae gorsaf newydd Bad Achub yr RNLI.

Gyda bwytai a chaffis yn gweini byrbrydau blasus, mae ymlacio ar Bier y Mwmbwls wrth i’r haul fachlud yn ffordd wych o ddod â’r diwrnod i ben.

The Mumbles Pier

 

Cerddwch lwybr yr arfordir

Dilynwch y llwybr hyfryd o Abertawe i Benrhyn Gŵyr i weld traethau euraidd, clogwyni dramatig a llu o wahanol fathau o fywyd gwyllt. Mae rhai rhannau o’r llwybr yn hygyrch i feiciau, pramiau a chadeiriau olwyn felly cynlluniwch eich llwybr cyn teithio. Mae gan Visit Swansea Bay yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch - ewch i’r wefan isod.

 

Castell Abertawe

Yng nghanol dinas Abertawe, gallwch ddod o hyd i olion y castell mawreddog a fu’n gwarchod Abertawe ers y 1100au. Sefydlwyd y castell gan Henry de Beaumont, Iarll cyntaf Warwick ac Arglwydd Penrhyn Gŵyr, gan ymestyn dros 4.6 acer. Mae wedi gweld llawer o frwydrau a defnyddiau gwahanol iawn dros y canrifoedd.

Roedd yn ffatri boteli yn ôl yn 1670 ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel swyddfa bost, wyrcws a safle ymarfer milwrol. Roedd hyd yn oed yn gartref i’r South Wales Daily Post, un o gyflogwyr cynnar y bardd enwog o Gymru, Dylan Thomas. 

Swansea Castle

 

Arena Abertawe

Yr olaf ond nid lleiaf ar ein rhestr o’r deg atyniad gorau yn Abertawe yw Arena Abertawe. Fel gofod adloniant a digwyddiadau amlbwrpas diweddaraf De Cymru, mae ganddo gapasiti o 3,500 ac mae’n croesawu rhai o’r sêr mwyaf, perfformiadau o safon ryngwladol a digwyddiadau mawr yng nghanol parc arfordirol y Bae Copr. Ni allai fod yn haws cyrraedd yno gan mai dim ond 10 munud mae’n ei gymryd i gerdded o orsaf drenau Abertawe.

 

Atyniadau eraill na ddylid eu colli

Stadiwm Liberty - Mae Abertawe yn ddinas bwysig o ran chwaraeon. Mae Stadiwm Liberty yn gartref i’r tîm rygbi mwyaf yn lleol; y Gweilch, ac i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Beth am fynd i weld gêm neu ar daith tu ôl i’r llenni.

Marchnad Abertawe - Beth am fwynhau profiad siopa hynod gofiadwy a blasu peth o gynnyrch gwych yr ardal ym Marchnad Abertawe - y farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Os nad yw hyn yn ddigon, mae gan ganol y ddinas dros 200 o siopau ar gyfer y rhai sydd wrth eu bodd yn cael rhywfaint o therapi siopa.

Penrhyn Gŵyr - ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ (AHNE) gyda llawer o draethau hardd fel Langland, Bae’r Tri Chlogwyn, Porth Einon, Rhosili a Bae Oxwich.

Man geni Dylan Thomas - Camwch yn ôl mewn amser i’r cartref lle y ganwyd y diweddar fardd Dylan Thomas, lle y bu’n byw gyda’i deulu, a lle yr ysgrifennodd bron i ddwy ran o dair o’i waith cyhoeddedig.

 

Nid yw treulio diwrnod - neu’r penwythnos - yn Abertawe erioed wedi bod yn haws diolch i’n gwasanaethau rheilffyrdd. Prynwch eich tocynnau trên heddiw ar-lein neu ar yr ap heb orfod talu ffioedd archebu.