Mae’n werth ymweld â’r Bermo, p’un a ydych chi’n byw yng Nghymru neu’r tu hwnt. Rhagor o wybodaeth am ble mae’r Bermo, ei hanes, a phethau i’w gwneud tra byddwch chi yno. Prynwch eich tocyn trên i’r Bermo yn awr, er mwyn i chi gael mwynhau’r dref lan môr hyfryd hon.
Ble mae’r Bermo?
Mae’n dref lan môr boblogaidd ar arfordir gogledd-orllewin Cymru. Cafodd y dref ei datblygu o amgylch y diwydiannau adeiladu llongau a llechi, ac mae cefn gwlad harddaf Cymru yn amgylchynu’r dref hon.
Y Bermo yw tref lan môr fwyaf poblogaidd de Eryri, gyda golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a’i harbwr. Mae Afon Mawddach yn llifo drwy’r dref ac allan i’r môr, ac mae llawer o dwristiaid yn cyrraedd y Bermo i grwydro Parc Cenedlaethol Eryri ac i gerdded o amgylch cromlin Bae Ceredigion i dref Porthmadog.
Mae llawer o bethau i blant gael eu mwynhau hefyd. Mae trên yn rhedeg ar hyd y promenâd, a byddwch hefyd yn dod o hyd i deithiau traddodiadol ar ful, cychod siglo ac arcedau difyrru.
Treulio’r diwrnod ar draeth y Bermo
Mae llawer ohonom wrth ein bodd â’r awyrgylch glan môr, ac nid yw’r Bermo yn eithriad. Mae’n draeth sy’n addas i deuluoedd, gyda thywod euraidd sy’n ymestyn am filltiroedd o amgylch y bae. Mae hyn yn golygu nad oes gormod o bobl yn y cerbydau. Mae’r dyfroedd wedi ennill Baner Las ar gyfer glendid a diogelwch, ac maent yn berffaith ar gyfer nofio a syrffio.
Mae promenâd gerllaw, sy’n filltir o hyd. Mae’n llawn stondinau sy’n gwerthu hufen iâ a chandi-fflos, ac mae digon o gaffis ar gael hefyd os yw’r holl fwrlwm yn gwneud i chi fod eisiau tamaid i’w fwyta. Mae’r trên yn rhedeg ar hyd y promenâd, ac mae’n ffordd hamddenol o fwynhau glan y môr.
Os nad yw’r gwaith o adeiladu cestyll tywod yn ddigon i’r plant yn ystod yr haf, gallan nhw gael hwyl ar drampolîn, ar gestyll neidio neu ar long môr ladron.
Mwynhewch rywfaint o hanes ar Reilffordd Stêm Fairbourne
Mae Rheilffordd Stêm Fairbourne yn rhedeg o bentref Fairbourne i’r Bermo ar hyd Aber Mawddach, ac mae wedi bod ar waith ers dros 100 mlynedd. Cafodd y rheilffordd ei dylunio’n wreiddiol fel tramffordd gul dwy droedfedd gyda thramiau yn cael eu tynnu gan geffylau, a chafodd ei throi’n rheilffordd 15 modfedd yn 1916. Wedyn, fe’i hailadeiladwyd yn llwyr ym 1986 i fod yn 12+1/4 rhwng y cledrau.
Mae pum injan stêm sydd wedi’u hadnewyddu’n hyfryd yn mynd â theithwyr ar y daith ddwy filltir drwy olygfeydd godidog. Mae’r rheilffordd stêm yn cael ei rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig, ac maent yn rhoi cyfle i bawb gael mwynhau hanes byw. Mae tocynnau’n dechrau ar £6.70.
Mwynhau natur ar Daith Banorama
Mae’r daith gerdded banorama yn mynd â cherddwyr drwy rai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd naturiol. Mae pobl sy’n hoff o fyd natur wedi bod yn dilyn y llwybr hwn ers yr oes Fictoria. Drwy ddilyn cromlin Bae Ceredigion o amgylch aber Mawddach, gallwch fwynhau golygfeydd godidog o Fynyddoedd Cambria. Mae Cadair Idris, sef y copa uchaf yn yr amrediad, yn boblogaidd gyda dringwyr, ac mae llawer o’r dringwyr hynny’n dweud ei bod yr un mor anodd â’r Wyddfa i’w dringo.
Mae llawer o’r daith gerdded yn addas i blant ifanc, ond mae rhai rhannau eithriadol o serth a gall rhai rhannau fynd yn wlyb iawn ar adegau. Byddwch yn pasio Llechau’r Garn, ac mae rhai golygfeydd syfrdanol o’r copa os hoffech chi ei ddringo. Mae’r hen erddi Fictoraidd wedi mynd i gyflwr gwael, ond maent yn creu awyrgylch etheraidd. Gan mai llwybr cylchol yw hwn, gallwch fynd yn syth i’r siop de agosaf pan fyddwch yn dychwelyd i’r Bermo.
Yn y Bermo ar ddiwrnod glawog?
Er bod y Bermo yn dref lan môr, mae digon o bethau y gallwch eu gwneud ar ddiwrnod glawog. Os ydych chi wrth eich bodd â hen arcedau ysgol, ewch i Las Vegas Amusements. Mae gemau difyrru traddodiadol ar gael yma, fel peiriannau slot a’r grafanc, felly dyma’r lle perffaith i dreulio oriau o hwyl, cael gwared ar eich ceiniogau sbâr, a hyd yn oed ennill tedi bêr i chi eich hun os ydych chi’n lwcus.
Os ydych chi’n hoff o chwaraeon, beth am ymweld â’r ganolfan hamdden leol? Mae’n cynnwys campfa, dosbarthiadau a beicio dan do gyda’r holl offer angenrheidiol - perffaith os ydych chi’n aros yn y Bermo am wyliau estynedig.
Mae’n rhy dda i’w golli
- Parc Cenedlaethol Eryri - Ar y trên neu ar droed, beth am fanteisio ar y cyfle i gyrraedd copa mynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa? Mae dros 90 o gopaon eraill a 100 o lynnoedd yn aros i gael eu harchwilio. Mae golygfeydd Eryri yn drawiadol o hudolus.
- Pentref Portmeirion - Cafodd y ‘pentref delfrydol’ hanesyddol hwn ei adeiladu gan y pensaer o Gymro, Clough Williams-Ellis, a chymerodd 48 blynedd i’w gwblhau. Mae’r pentref yn enwog ledled y byd am ei bensaernïaeth unigryw, wedi ei leoli mewn gerddi isdrofannol hyfryd. Mae bwytai, siopau, gwestai a sba yno hefyd. Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yma.
Beth am y penwythnos hwnnw yn y Bermo?
Cerdded - mae’r Bermo yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau hamddenol ar hyd y traeth neu’r bryniau o gwmpas. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy heriol, ewch ymhellach i mewn i’r tir i weld rhai o uchafbwyntiau gorau (ac uchaf) Eryri.
Crwydro’r cestyll - Ewch ar y trên am ddiwrnod allan yng Nghastell Harlech, castell arfordirol enfawr mewn lleoliad ysblennydd. Mae’n cymryd oddeutu 10 munud ar droed o orsaf drenau Harlech. Gall y trên hefyd fynd â chi i Gastell Cricieth, a adeiladwyd yn wreiddiol gan Llywelyn Fawr. Mae hanes diddorol i’w archwilio yn y cadarnle gwych hwn, sydd â dau dŵr.
Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri - Mae golygfeydd godidog ac injans stêm gwych yn aros amdanoch chi. Rheilffordd Ffestiniog yw’r rheilffordd gul hynaf yn y byd gyda bron i 200 mlynedd o hanes. Mae’r rheilffordd yn ymestyn o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog. Mae’n werth ei weld.
Gobeithio ein bod wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi ar gyfer eich ymweliad nesaf â’r Bermo. Dewch o hyd i amseroedd trenau a phrisiau tocynnau a phrynwch eich tocynnau heddiw.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-