Newidiadau arfaethedig i wasanaethau bysiau
Isod, fe welwch restr o'r holl wasanaethau lle rydym wedi cynnig newid. Rhennir y rhain yn ôl ardal ac fe'u rhestrir yn ôl rhif gwasanaeth i'ch helpu i ddod o hyd i'r gwasanaethau sydd o ddiddordeb i chi.
Nid yw gwasanaethau nad oes unrhyw newidiadau arfaethedig iddynt wedi'u rhestru yma. Nid oes angen i chi ddarllen y rhestr gyfan o newidiadau a gallwch symud ymlaen i Adran 3 i roi adborth ar wasanaethau penodol a/neu ardal gyffredinol.
Sir y Fflint a Sir Ddinbych
f18: Y Fflint i'r Rhyl (drwy Brestatyn)
Mae'r rhan rhwng Prestatyn a Rhyl wedi cael ei dileu. Ynghyd â gwelliannau i'r gwasanaeth f19, bydd hyn yn darparu gwasanaeth gwell, mwy rheolaidd ac amlach i gwsmeriaid i'r dwyrain o Brestatyn (e.e. Y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Maes Pennant, Mostyn, Penyffordd, Gwesbyr, Talacre a Gronant). Gall cwsmeriaid sy'n teithio rhwng Prestatyn a Rhyl barhau i ddefnyddio gwasanaethau 11, 35 a 36, gyda phedwar ymadawiad yr awr ar draws y gwasanaethau hyn.
f19: Y Fflint i'r Rhyl (drwy Brestatyn)
Mae'r rhan rhwng Prestatyn a Rhyl wedi cael ei dileu. Ynghyd â gwelliannau i'r gwasanaeth f18, bydd hyn yn darparu gwasanaeth gwell, mwy rheolaidd ac amlach i gwsmeriaid i'r dwyrain o Brestatyn (e.e. Y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Carmel, Gorsedd, Lloc, Chwitffordd, Berthengam, Trelawny a Dyserth Uchaf). Gall cwsmeriaid sy'n teithio rhwng Prestatyn a Rhyl barhau i ddefnyddio gwasanaethau 11, 35 a 36, gyda phedwar ymadawiad yr awr ar draws y gwasanaethau hyn.
Gwynedd
ff8: Dinas i Bwllheli
Mae'r llwybr hwn yn gweithredu yn lle'r gwasanaeth 8A a bydd yn darparu un daith brig boreol tua'r dwyrain a dwy daith brynhawnol tua'r gorllewin. Bydd y rhain yn deithiau llwybr penodol, amserlen benodol rhwng Dinas a Phwllheli drwy Laniestyn, Garnfadryn, Penbodlas a Rhydyclafdy o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae hyn yn bennaf er budd myfyrwyr sy'n mynychu ysgol neu goleg ym Mhwllheli. Mae'r gwasanaeth wedi'i addasu i gynnal y cysylltiadau sydd â'r galw mwyaf tra'n sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu heffeithio. Yn ystod oriau tawel, bydd llai o wasanaethau bysiau i gwsmeriaid yn Llaniestyn a Rhydyclafdy.
g1: Gwasanaeth Lleol Caernarfon
Bydd amlder y teithiau yn cynyddu drwy gydol y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd gwasanaethau nos ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, yn ogystal â gwasanaethau ychwanegol yn y prynhawn a gyda'r nos ar ddydd Sul. Bydd yr amlder uwch yn gwella mynediad i Gaernarfon ar ddiwrnodau'r wythnos ac ar benwythnosau.
g4: Bro Silyn i Gaernarfon
Mae amlder uwch a theithiau ychwanegol yn hwyr yn y prynhawn a gyda'r nos wedi'u hychwanegu ar ddydd Sul. Mae teithiau ychwanegol wedi'u hychwanegu i'r ddau gyfeiriad. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth nos o Fro Silyn yn ogystal â thaith ddiweddarach yn y prynhawn a thaith gynnar gyda'r nos o Orsaf Fysiau Caernarfon. Bydd y daith gyntaf ar ddydd Sul yn dechrau ym Mro Silyn yn hytrach nag yn Ysgol Baladeulyn.
g14: Pwllheli i Drefor (drwy Forfa Nefyn)
Mae llwybrau 14 a 27 wedi'u cyfuno'n rhannol i greu cysylltiad parhaus rhwng Pwllheli, Morfa Nefyn a Threfor. Bydd hyn yn darparu cysylltiad amlach rhwng Morfa Nefyn a Threfor. Nid yw'r llwybr hwn bellach yn galw ym Mhentre-uchaf na Llannor, ond bydd y gwasanaeth g15 yn gwasanaethu'r ardaloedd hyn.
g15: Pwllheli i Nefyn (drwy Lannor a Phentre-uchaf)
Mae'r llwybr wedi'i ddiweddaru i gynnwys Llannor a Phentre-uchaf. Bydd y newidiadau hyn yn darparu gwasanaeth amlach a fydd yn rhedeg bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac bob dwy awr ar ddydd Sul. Nid yw'r llwybr hwn bellach yn cynnwys Boduan, ond bydd y gwasanaeth g14 yn gwasanaethu'r ardal hon.
g16: Gwasanaeth Lleol Pwllheli (gan gynnwys Morfa Carreg ac Ysgol Cymerau)
Mae'r llwybr hwn wedi'i ddiweddaru i ddarparu mynediad trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd i Forfa Carreg ac Ysgol Cymerau. Bydd y llwybr ychwanegol hwn yn darparu gwasanaeth rheolaidd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gan gynnwys gwell mynediad i Gimblet Rock Holiday Park. Nid yw Clwb Golff Pwllheli na Lôn Ceredigion Pwllheli bellach yn rhan o'r llwybr, ond byddant yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth fflecsi ar-alw estynedig ym Mhenrhyn Llŷn.
g17: Pwllheli i Aberdaron
Mae'r gwasanaeth g17 yn cyfuno'r gwasanaethau 17 ac 17B presennol yn un llwybr. Nid yw bellach yn gwasanaethu Llangwnnadl, Penllech, Penycaerau na Rhiw. Bydd amlder y gwasanaeth yn cynyddu a bydd amseroedd teithio yn fwy cyson. Bydd y lleoliadau hyn yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth fflecsi ar-alw estynedig ym Mhenrhyn Llŷn.
g18: Pwllheli i Borthmadog
Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r llwybr hwn, ond bydd amlder y gwasanaeth yn cynyddu. Nid yw'r gwasanaeth bellach yn galw yn Warren, ond mae Warren wedi'i ychwanegu at y gwasanaeth g23 newydd.
g23: Abermo i Abersoch (drwy Borthmadog a Phwllheli)
Mae llwybrau 3 a G23 wedi'u cyfuno i greu taith fysiau barhaus rhwng Abermo a Phwllheli/Abersoch. Ni fydd angen i gwsmeriaid newid bysiau ym Mhorthmadog wrth deithio rhwng Pwllheli ac Abermo, gan wneud teithio'n haws ac yn gyflymach. Bydd y llwybr hwn yn darparu gwasanaeth bob awr rhwng Abersoch a Phwllheli o ddydd Llun i ddydd Sadwrn drwy'r A499.
Wrecsam
w56: Wrecsam i Gaer (drwy Farndon)
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu bob dwy awr yn hytrach na phob awr a hanner. Yn lle defnyddio llwybr Greyhound, bydd y llwybr arfaethedig yn gwasanaethu rhannau o South Acton a Pharc Borras. Bydd y newid o ran amlder yn galluogi amserlen haws i'w deall, gyda nifer y teithiau'r dydd yn aros yr un fath. Bydd mynediad uniongyrchol o rannau o ddwyrain Wrecsam i Gaer. Er y bydd gwasanaethau llai aml, nid oes gostyngiad yn nifer y teithiau'r dydd. Bydd amser teithio’r daith o Farndon i Wrecsam ychydig yn hirach.
w57: Gwasanaeth Lleol Wrecsam
Bydd hyn yn darparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid, gyda'r rhan fwyaf o'r ffyrdd sydd eisoes yn cael eu gwasanaethu yn parhau i gael eu gwasanaethu ond dros gyfnod hwy o'r dydd. Ni fydd tai Ffordd Croesnewydd yn cael eu gwasanaethu gan y llwybr hwn mwyach, ond gellir defnyddio'r gwasanaeth T51 bob awr yn lle hynny.
w58: Gwasanaeth Lleol Wrecsam
Bydd hyn yn darparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid, gyda'r llwybr yn aros yr un fath ond gydag amserlen sy'n gweithredu dros gyfnod hwy o'r dydd.
Ynys Môn
ff63: Rhosybol i Borthaethwy
Mae'r gwasanaeth yn cadw dwy daith llwybr penodol, amserlen benodol o ddydd Llun i ddydd Gwener a ddarperir gan gerbyd fflecsi. Bydd taith frig boreol yn gweithredu rhwng Rhosybol a Phorthaethwy drwy Lannerchymedd, Maenaddwyn, Brynteg, Marianglas, Benllech, Llanbedrgoch, Pentraeth a Llansadwrn. Bydd taith frig gyda'r nos yn gweithredu yn ôl yr un llwybr i'r cyfeiriad arall.
Bydd Llannerchymedd, Maenaddwyn a Rhosybol yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth y5 newydd (Llangefni i Rosgoch trwy Amlwch). Bydd Benllech, Brynteg, Marianglas a Phentraeth yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth y2 newydd (Bangor i Gaergybi trwy Amlwch). Bydd Llanbedrgoch, Llansadwrn a Phentraeth Nant y Felin yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth ar alw fflecsi Biwmares newydd.
x43: Llangefni i Fangor
Ychwanegwyd taith frig ychwanegol i'r cyfeiriad arall er mwyn gwella'r gwasanaeth rhwng Llangefni a Bangor.
y1: Bangor i Gaergybi (drwy Langefni)
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu'n amlach ac yn fwy rheolaidd. Bydd dwy daith i'r ddau gyfeiriad yn teithio drwy Fodffordd rhwng Gwalchmai a Llangefni o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol rhwng Bodffordd a Bangor, heb i gwsmeriaid orfod newid bysiau. Bydd ychydig llai o deithiau'n gweithredu drwy Rhostrehwfa o'i gymharu â'r gwasanaeth presennol.
y2: Bangor i Gaergybi (drwy Amlwch)
Cyfuniad o lwybrau presennol 61 a 62 a fydd yn cynnig teithiau drwodd ar draws Amlwch drwy'r dydd. Bydd Llanfechell yn cael ei gwasanaethu gan wasanaeth brig y bore o ddydd Llun i ddydd Gwener i Fangor a gwasanaeth brig y nos o ddydd Llun i ddydd Gwener o Fangor, a chan y gwasanaeth fflecsi Amlwch newydd sy’n ymateb i’r galw.
Bydd y llwybr hefyd yn gweithredu drwy Ysbyty Gwynedd rhwng gorsaf reilffordd Bangor a Phorthaethwy i wella mynediad i gleifion, ymwelwyr a staff. Mae hyn yn golygu taith arafach rhwng Bangor, Porthaethwy ac Amlwch. Bydd mwy o deithiau yn gyffredinol yn gweithredu rhwng Bangor ac Amlwch o ddydd Llun i ddydd Gwener.
y3: Bangor i Langeod (drwy Fiwmares)
Bydd teithiau'n cael eu cyfuno o dan un llwybr a bydd amlder y gwasanaeth yn cynyddu i wasanaeth rheolaidd bob awr, gyda rhagor o deithiau drwy gydol y dydd. Ni fydd Penmon yn cael ei gwasanaethu mwyach a bydd llai o wasanaethau i Landdona, ond bydd y ddwy ardal yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth fflecsi Biwmares newydd sy’n ymateb i’r galw. Bydd rhagor o deithiau o Aberffraw a Rhosneigr i Gaergybi o'i gymharu â'r 25 presennol.
y4: Bangor i Gaergybi (drwy Dde Ynys Môn)
Cyfuniad o'r llwybrau 21, 25 a 42 presennol i ddarparu cysylltiad rhwng Bangor a Chaergybi drwy gymunedau deheuol Ynys Môn. Ni fydd y gwasanaeth yn gweithredu i Langefni ac oddi yno mwyach, gan y bydd gwasanaethau eraill fel y b6 a'r b7 yn cymryd lle’r cysylltiadau hyn. Mwy o deithiau o Aberffraw a Rhosneigr i Gaergybi o'i gymharu â'r 25 presennol.
y5: Llangefni i Rosgoch (drwy Amlwch)
Yn debyg iawn i'r gwasanaeth 32 presennol, ond gyda Corn Hir wedi'i gynnwys. Bydd mwy o deithiau rhwng Llangefni ac Amlwch a rhwng canol tref Llangefni a Chorn Hir. Bydd un daith frig yn ymestyn i Rosgoch. Bydd dwy daith yn ymestyn i Lôn Wen ac oddi yno yn Amlwch.
y6: Amlwch i Niwbwrch (drwy Benllech a Llangefni)
Mae'r gwasanaeth 54 wedi'i gysylltu â rhannau o'r gwasanaethau 50 a 55. Bydd rhagor o deithiau o'i gymharu â'r gwasanaethau presennol i'r rhan fwyaf o'r trefi a'r pentrefi a wasanaethir. Cysylltiad uniongyrchol newydd rhwng Moelfre a Llangefni.
y7: Llangefni i Rosneigr (drwy Aberffraw)
Bydd rhan Llangefni i Aberffraw o'r gwasanaeth 42 presennol yn cael ei gwasanaethu gan y gwasanaeth y7. Bydd rhai teithiau yn ystod oriau brig yn cael eu hymestyn i Rosneigr ac oddi yno. Bydd gwahanu'r rhan hon o gysylltiad Bangor yn gwella dibynadwyedd, gan na fydd tagfeydd o amgylch croesfannau Bangor a Menai yn oedi teithiau mwyach.
y8: Amlwch i Gaergybi
Ni fydd y gwasanaeth bellach yn gwasanaethu Trefor na Llynfaes, er y bydd rhai teithiau y4 yn gwasanaethu Trefor. Bydd mwy o deithiau yn gweithredu drwy Walchmai Uchaf.
y9: Gwasanaeth Tref Caergybi
Bydd holl wasanaethau tref Caergybi yn cael eu cysylltu yn un gwasanaeth. Bydd hyn yn gwella mynediad i Barc Siopa Caergybi, Ysbyty Penrhos Stanley a siopau Morrisons a Tesco Extra, gan wella mynediad i siopwyr a staff. Mae gan y rhan fwyaf o rannau'r llwybr lai o deithiau o'i gymharu â'r gwasanaethau presennol.
fflecsi Amlwch: Gwasanaeth Fflecsi Ar-alw Gogledd-orllewin Ynys Môn
Parth fflecsi newydd arfaethedig sy'n gwasanaethu gogledd-orllewin Ynys Môn. Gellir codi a gollwng teithwyr yn Llangefni ac Amlwch. Bydd yn gwasanaethu cymunedau gan gynnwys Bodewryd, Borthwen, Carmel, Carreg-lefn, Dulas, Elim, Four Crosses, Glan-yr-Afon, Llanddeusant, Llaneilian, Llanfair-yng-Nghornwy, Llanfechell, Llanfwrog, Llantrisant, Llechcynfarwy, Llynfaes, Mynydd Mechell, Nebo, Pengorfwysfa, Penrhyd Lastra, Porth Swtan, Rhosgoch, Trefadog and Trefor.
flecsi Biwmares: Gwasanaeth Fflecsi Ar-alw Ardal Biwmares
Parth fflecsi newydd arfaethedig sy'n gwasanaethu ardal Biwmares. Gellir codi a gollwng teithwyr ym Miwmares, Pentraeth a Phorthaethwy. Bydd yn gwasanaethu cymunedau gan gynnwys Caim, Glan Afon, Llanbedrgoch, Llanddona, Llanfihangel Din Sylwy, Llaniestyn, Llansadwrn, Lleiniog, Marian Dyrys, Penmon, Penrhyn Safnas, Pentre Llwyn, Pentraeth Nant y Felin, Red Wharf Bay, Tandinas and Ty Gwyn.