Diwygio bysiau gogledd Cymru: ymgysylltu â'r gymuned

Beth sy'n digwydd?

Gogledd Cymru fydd yr ail rhanbarth i symud i rwydwaith bysiau masnachfreiniol. Yr haf hwn, rydym am gynnal ymgysylltiad cyhoeddus ar rwydwaith bysiau’ r rhanbarth i’r dyfodol.

Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu mapiau sy'n dangos sut y gallai llwybrau bysiau edrych o dan fasnachfreinio. Hoffwn adborth ar y mapiau arfaethedig hyn. Bydd yr ymgysylltiad hwn yn sylfaen i welliannau i rwydwaith bysiau’r rhanbarth ar gyfer y dyfodol.

 

Yr hyn hoffwn ni drafod

Rydym yn croesawu barn ar ein rhwydwaith bysiau arfaethedig ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys:

  • Llwybrau ac amlder:
    Pa lwybrau sy'n gweithio'n dda, neu beidio.
  • Dewisiadau cynllunio rhwydwaith:
    Amlder neu ymestyn? Cyflymder neu gyfleustra? Dibynadwyedd yn ystod y dydd neu wasanaethau diweddarach?
  • Rheoli'r newid:
    Unrhyw gwestiynau, gwybodaeth neu bryderon wrth i'r rhwydwaith bysiau newid i fasnachfreinio.
  • Profiad taith:
    Unrhyw beth arall sy'n effeithio ar deithio ar fws, y tu hwnt i lwybrau.

 

Ar gyfer pwy,  a sut i gyfranogi

Rydym am ymgysylltu gyda phobl sydd â diddordeb mewn gwasanaethau bysiau yng ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n dibynnu ar fysiau, y rhai sy'n eu defnyddio o bryd i'w gilydd a'r rhai nad sydd yn eu defnyddio o gwbl ar hyn o bryd.

Bydd ymgysylltu yn cynnwys:

  • arolwg ar-lein a mapiau rhwydwaith rhyngweithiol
  • sesiynau galw heibio cyhoeddus ledled gogledd Cymru
  • gweithdai rhanddeiliaid.

 

Pryd fyddwn ni’n ymgysylltu?

Bydd ein harolwg ar-lein a'n mapiau rhyngweithiol ar gael ar Ddydd Gwener 14 Awst ac yn dod i ben ar Ddydd Gwener 09 Hydref 2026.

Bydd sesiynau galw heibio cyhoeddus o Ddydd Mawrth 01 Medi tan Ddydd Gwener 25 Medi 2026. Mae rhestr lawn o leoliadau, dyddiadau ac amseroedd ar gael yma.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr adborth yn cael ei ddadansoddi a'i rannu'n gyhoeddus. Byddwn yn esbonio sut mae wedi llywio taith y rhwydwaith bysiau a’i ddiweddaru.