Ffiniau
Mae ein trenau’n rhedeg ar draws ffiniau Cymru a Lloegr, ac mae hynny’n golygu bod llawer o gyfleoedd i gael mynediad at lwybrau cerdded cenedlaethol sy’n mynd â chi o’r rheilffordd i’r llwybr.
Teithiau Clawdd Offa
Craven Arms
Craven Arms yw man cychwyn llawer o wahanol deithiau cerdded. Canolfan Ddarganfod Bryniau Swydd Amwythig yn y dref yw lle gallwch ddod o hyd i holl fanylion y gwahanol lwybrau y gallwch eu cymryd am ddiwrnod o gerdded yn Craven Arms. Ein hargymhelliad fyddai mwynhau taith gylchol Craven Arms ar hyd yr Afon Onny i Gastell Stokesay. Cychwynnwch o'r Ganolfan Ddarganfod, a dilynwch y llwybr ag arwyneb i Onny Meadows, ac wrth yr Y-fforch trowch i'r chwith. Gallwch weld y llwybr llawn yma.
Ruabon i Chirk
I gael gwibdaith undydd ar Glawdd Offa, cyrhaeddwch naill ai gorsaf Rhiwabon neu’r Waun i fwynhau’r daith gerdded 13km rhwng y ddwy orsaf. Mae tref y Waun yn eistedd ar y ffin neu Gymru a Lloegr felly gyda'r llwybr cywir gallwch fwynhau taith gerdded rhwng Cymru a Lloegr. Ar hyd y llwybr rhwng Y Waun a Rhiwabon, gallwch fwynhau golygfeydd o’r clawdd fel castell y Waun, a safle Treftadaeth y Byd traphont ddŵr Pontycysyllte.
Llwybr Clawdd Offa TAITH BYR
Taith gerdded yn archwilio ystâd ogoneddus sy’n amgylchynu Castell Y Waun lle’r gallwch weld rhan lai poblogaidd o Glawdd Offa. (Noder gellir dilyn y llwybr hwn dim ond o fis Ebrill i fis Medi.
Cymysgedd o dir amaeth, lonydd gwledig a llwybrau coetir, cyn dychwelyd i lan afon tuag at y Waun sydd o dan ddyfrbont a thraphont ryfeddol.
Taith Gylchol Trefyclo a Norton
Llwybr gydag esgyniadau graddol, hir a disgyniadau troellog. Gallwch gerdded ar hyd lonydd gwledig tawel, traciau cerrig a thrwy gaeau gwelltog cyn dychwelyd i ran ogoneddus o Glawdd Offa. Ar ddiwrnod braf, gallwch weld y Mynydd Du.
Taith Gylchol Trefyclo i Stowe
Taith gerdded sy’n dilyn rhan o lwybr Calon Cymru. Mae’n dechrau yn nhref brydferth, Trefyclo, er mwyn darganfod mwy am heneb hynafol Clawdd Offa yng Nghanolfan Clawdd Offa. Croeswch bont droed fach ar y ffin rhwng Lloegr a Chymru lle y gallwch sefyll gydag un troed yn y ddwy wlad.
I gael rhagor o wybodaeth am eich ymweliad â Chlawdd Offa, ewch i Llwybr Clawdd Offa - Llwybrau Cenedlaethol
Teithiau Llwybr Arfordir Cymru
Caer
O orsaf Caer, mae'n daith gerdded ddymunol 2.3 milltir / 3.75 cilometr ar ochr y gamlas i ddechrau (neu ddiwedd) Llwybr Arfordir Cymru.
O'r orsaf, cerddwch yn syth ymlaen ar Heol y Ddinas am ychydig gannoedd o lathenni nes i chi gyrraedd y gamlas. Cymerwch y grisiau i lawr i'r gamlas a mynd tua’r gorllewin gyda waliau dinas Caer yn cadw cwmni i chi am ran o'r llwybr. Dyma'r waliau hynaf, hiraf a'r rhai mwyaf cyflawn ym Mhrydain, ac mae rhai rhannau wedi bod yno ers 2,000 o flynyddoedd. Ar ôl; cyrraedd basn y gamlas, ewch drwy dwll yn y wal ac i lawr Stryd Catherine i dir hamdden. Oddi yma, mae arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru yn dangos y ffordd ochr yn ochr ag afon Dyfrdwy.
Ddim yn gweld eich hoff daith gerdded genedlaethol? Rhowch wybod i ni ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #RailToTrail