Rheolau diogelwch cyffredinol ar gyfer ffilmio/ffotograffiaeth mewn eiddo/ar drenau Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf 

Os byddwn yn rhoi caniatâd i chi ffilmio/tynnu lluniau ar ein trenau, bysiau neu mewn adeiladau eraill, mae gennym rai rheolau er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

 

  • Rhaid i chi ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan ein cydweithwyr neu ein cynrychiolwyr.
     
  • Mewn gorsafoedd â staff, rhaid i chi fewngofnodi gyda rheolwr yr orsaf ar ddyletswydd (neu yn y swyddfa docynnau mewn gorsafoedd llai) cyn i unrhyw waith ddechrau. Os ydych chi’n gweithio yn un o’n depos, rhaid i chi lofnodi’r log ymwelwyr.
     
  • Rhaid i’r ffilmio beidio ag arwain at unrhyw oedi ar y trenau nac achosi anhwylustod fel arall i’n cwsmeriaid na’n cydweithwyr.
     
  • Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod gennych y cyfarpar diogelu personol gofynnol (esgidiau diogelwch, siaced lachar, sbectol ddiogelwch, cyfarpar diogelu’r clyw). Rhaid i’r unigolyn cyfrifol (Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf) roi gwybod i’r Rheolwr Depo ar Ddyletswydd/Arweinydd y Tîm eich bod yn bresennol, faint o amser y byddwch chi ar y safle, a bod y ffilmio’n digwydd ar y safle.
     
  • Ni allwch, o dan unrhyw amgylchiadau, gamu ar gledrau rheilffordd nac unrhyw ardal arall sy’n cael ei gweithredu’n uniongyrchol gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf neu Network Rail, ni waeth a yw trenau’n rhedeg ai peidio. Rhaid i chi ddefnyddio pont droed, tanlwybr neu groesfan gyhoeddus gydnabyddedig arall i groesi’r cledrau.
     
  • Ar blatfformau gorsafoedd, rhaid i bob gweithgaredd ddigwydd o leiaf 1.25 metr (4 troedfedd) o ymyl y platfform. Ni ddylid defnyddio goleuadau. Os ydych chi’n gweithio mewn depo, rhaid i chi fod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o ymylon melyn sydd ar y llwybrau cerdded, ynghyd â synau cyrn a goleuadau’n fflachio sy’n eich rhybuddio am symudiadau trenau.
     
  • Mae profiad yn dangos ei bod yn ddoeth gofyn am ganiatâd gan unrhyw deithwyr a allai gael eu ffilmio’n anfwriadol.
     
  • Ni ddylid defnyddio offer ffilmio, gan gynnwys camerâu, yn uwch na “uchder y pen” os bydd llinellau pŵer uwchben. Mewn depos, rhaid osgoi ceblau rhydd i atal unrhyw beryglon.
     
  • Rhaid i bob aelod o’r cast a’r criw gael tocyn dilys i deithio ar drenau.
     
  • Ni allwch ffilmio caban unrhyw drên heb drefnu hynny ymlaen llaw (mae hyn yn cynnwys y cefn neu unrhyw gaban sydd yn y canol).
     
  • Rhaid peidio â rhwystro eiliau, drysau a mynedfeydd. Rhaid i’r goruchwyliwr gael lle i gerdded ar hyd y trên.
     
  • Rhaid i chi beidio â ffilmio o ffenestr trên agored na sefyll ar seddi’r trên. Mae profiad yn dangos ei bod yn ddoeth gofyn am ganiatâd gan unrhyw deithwyr a allai gael eu ffilmio’n anfwriadol.
     
  • Ni fydd unrhyw un yn gweithio ar orsafoedd, trenau nac eiddo ar brydles Trafnidiaeth Cymru os byddant wedi yfed alcohol neu wedi cymryd cyffuriau. Ni fydd gan unrhyw un gyffuriau yn ei feddiant. Ni ddylid yfed alcohol.
     
  • Cawn brofi unrhyw unigolyn sy’n rhan o ddigwyddiad diogelwch critigol lle mae sail i amau ei fod dan ddylanwad cyffuriau a/neu alcohol.
     
  • Ni chaniateir ysmygu ar unrhyw un o’n safleoedd.
     
  • Bydd yr unigolyn cyfrifol (Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf) yn rhoi gwybod i chi am drefniadau’r Larwm Tân a’r mannau ymgynnull.
     

Efallai y bydd gennym ofynion ychwanegol ar gyfer ffotograffiaeth neu ffilmio ar raddfa fwy. Bydd y rhain yn seiliedig ar asesiadau risg a dulliau gweithio diogel wedi’u dogfennu.