Cyflwyniad
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn llawer mwy na dim ond digwyddiad cerddoriaeth; mae'n ddathliad annibynnol, moesegol ac ysbrydol o’r celfyddydau a gwyddoniaeth yn nhirlun bryniau Cymru. Mae'n fan syfrdanol wedi'i guddio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle gallwch ymgolli mewn coedwig o ddarganfyddiadau, a dychwelyd i’r teimlad o rym cymunedol.
Y modd fwyaf cynaliadwy o deithio i Lan–wysg yw dewis y trên ar gyfer eich taith, sy'n cyd-fynd yn berffaith ag ethos di-ffosil ac eco-ymwybodol yr ŵyl ei hun. Gadewch y car gartref, gwyliwch y bryniau yn rholio heibio gan gyrraedd yn barod i gofleidio'r hud a lledrith.
Rhagflas
Mae’r ‘Green Man’ wedi esblygu o fod yn ddigwyddiad gwerinol bach i fod yn ŵyl wythnos o hyd gyda chapasiti o 25,000 o bobl, wedi'i rhannu'n nifer o ardaloedd unigryw.
- Y gerddoriaeth: Profwch amryw o gerddoriaeth; yn amrywio o roc, dawns ac ‘americana’ i werin draddodiadol. Yn 2026, bydd y llwyfannau yn cynnwys artistiaid o'r radd flaenaf megis Mogwai, Wolf Alice a Sparks.
- Gardd Einstein: Mae'r ardal hon yn ganolfan gwyddoniaeth a natur unigryw lle gallwch fwynhau gweithdai rhyngweithiol a gweld arbrofion wedi'u pweru'n gyfan-gwbl gan gelloedd tanwydd hydrogen.
- Yr Anheddiad: Ar agor am wythnos lawn, mae'r ardal hon yn caniatáu’r "Anheddwyr" i archwilio diwylliant a threftadaeth Gymreig lleol cyn i brif gatiau'r ŵyl agor.
- Lles a gweithdai: Magwch nerth newydd yn yr ardal Natur a’r Naturiol trwy ymdrochi mewn twb poeth neu ymuno â gweithdy creadigol llenyddiaeth, ffilm neu'r celfyddydau perfformiadol.
- Llosgi’r Dyn Gwyrdd: Ar y noson olaf, mae'r ŵyl yn mwynhau ei hanterth symbolaidd gyda llosgi’r cerflun anferth o’r Dyn Gwyrdd yn wenfflam, i gynrychioli ailenedigaeth a chylch y tymhorau.
Pryd: Mae'r ŵyl annibynnol hon fel arfer yn cael ei chynnal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dros bedwar diwrnod o ganol i ddiwedd mis Awst. Eleni, mae'r hud a lledrith yn dychwelyd o 20 Awst 2026 tan 23 Awst 2026.
Sut i gyrraedd yno: Teithiwch ar Reilffordd y Gororau i orsaf y Fenni, ein porth i'r ŵyl. Er mwyn teithio yn ddi-dor, mae gwasanaeth bws gwennol rheolaidd am ddim rhwng gorsaf y Fenni ac Ystâd Glan-wysg sydd ar gael o fore Iau tan brynhawn Llun. Caniatewch hyd at 90 munud ar gyfer eich taith wennol rhag ofn bod hi’n oriau brig.
Teithio'n glyfar a gweld mwy
Cynlluniwch ymlaen llaw: Gwiriwch yr amseroedd trenau diweddaraf a'r gwasanaethau bws sy’n cysylltu gan ddefnyddio ein cynlluniwr taith cyn i chi deithio.
Archebwch yn uniongyrchol: Cofiwch brynu eich tocynnau cyn i chi deithio am y prisiau isaf heb ffioedd archebu.
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.