Cynghorion call ar gyfer teithiau mwy esmwyth
Teithio ar y trên?
Mae'r trên yn ffordd ddelfrydol o deithio o amgylch Cymru, yn enwedig os ydych yn bwriadu teithio yn bellach. Mae'n gyfleus ac yn gyflym. Mae'n fforddiadwy hefyd, yn enwedig os ydych chi'n manteisio ar yr arbedion sydd ar gael.
Rhaid prynu tocyn trên cyn teithio. Cynlluniwch eich taith a phrynwch docyn ar ein gwefan neu ein ap. Nid ydym yn codi ffi am brynu tocyn. Gallwch hefyd brynu tocyn mewn peiriant tocynnau mewn gorsaf neu swyddfa tocynnau. Gallwch dalu am docyn yn ddigyswllt wrth fynd ar rannau prysurach o'n rhwydwaith.
Mae gan ein trenau Wi-Fi a phwyntiau gwefru am ddim, sy'n ddelfrydol ar gyfer cymoni eich aseiniad, ffrydio, chwarae gemau ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol. Mae bwyd a diod ar gael ar rai gwasanaethau hefyd.
Teithio ar y bws?
Y bws yw un o'r ffyrdd mwyaf cyffredin i fyfyrwyr deithio yng Nghymru. Mae dewis eang o lwybrau lleol a phellter hirach sy'n addas ar gyfer pob math o anghenion teithio.
Mae'r gwasanaethau'n cynnwys TrawsCymru gwasanaethau pellter hir a fflecsi gwasanaethau 'y gellir eu harchebu‘ sy'n ymateb i'r galw.
Os ydych yn mynd ar y bws, defnyddiwch y cynllunydd taith i ddod o hyd i'r llwybr cywir, amseroedd a mwy. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r amserlenni bws diweddaraf neu bori yn ôl lleoliad gyda'r map teithio i ddod o hyd i'r gwasanaeth gorau i chi.
Ar y rhan fwyaf o fysiau yng Nghymru, gallwch brynu eich tocyn gan y gyrrwr gydag arian parod neu daliad digyswllt. Mae rhai gweithredwyr yn gadael i chi brynu ymlaen llaw ar eu gwefan neu ap.
Teithio hygyrch
Mae'r rhan fwyaf o drenau a bysiau yng Nghymru yn gwbl hygyrch. Gallwch ddarganfod mwy ar ein tudalen teithio hygyrch. Dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio'ch taith ac archebu teithio â chymorth.
Cynghorion call ar gyfer teithiau mwy diogel
Gall teithio i gyrchfan newydd fod yn brofiad anghyfarwydd. Cadwch yn ddiogel drwy ddilyn ein cyngor diogelwch:
Cynlluniwch eich taith - ymchwiliwch i'r ardal a gwybod yn union sut y byddwch yn teithio cyn cychwyn. Teithio mewn ffyrdd dibynadwy yn unig.
Lluniwch gynllun wrth gefn - paratowch, yn enwedig wrth deithio yn y nos rhag ofn i rywbeth fynd o'i le fel colli'r trên neu fynd ar goll.
Sicrhewch - bod eich ffon symudol wedi'i gwefru yn llawn cyn teithio.
Teithio gyda chwmni - lle bo hynny'n bosibl, teithio gyda ffrindiau a theulu.
Cadw mewn cysylltiad - rhannwch eich lleoliad gyda ffrindiau a theulu fel eu bod yn gwybod eich bod yn ddiogel.
Cadwch at ardaloedd sydd wedi'u goleuo'n dda - cadwch at fannau cyhoeddus lle bo hynny'n bosibl.
Peidiwch â cherdded o gwmpas gyda'ch ffôn yn eich llaw.
Teimlo'n anghyfforddus? Dewch o hyd i le cyhoeddus, p'un a yw'n siop, bwyty neu le wedi'i oleuo'n dda.
Ddim yn teimlo'n saff? Dewch o hyd i rywun a gofyn am help.