Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Rydyn ni wedi dechrau gweithio ar y Metro, sef system trafnidiaeth gyhoeddus integredig a fydd yn trawsnewid ein ffordd o deithio. Mae gwaith adeiladu, peirianneg a seilwaith ar y gweill i uwchraddio ein rhwydwaith rheilffyrdd fel ei fod yn barod ar gyfer y Metro.

Rydyn ni’n:

  • trydaneiddio tua 170km o gledrau
  • uwchraddio'r holl orsafoedd a signalau
  • adeiladu o leiaf ddwy orsaf newydd.

Rydyn ni’n uwchraddio’r rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert. Mae’r rheilffyrdd hyn hefyd yn cael eu galw’n Llinellau Craidd y Cymoedd a byddan nhw’n dod yn rhan bwysig o Fetro De Cymru. Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’n gwaith ar gyfer Metro De Cymru gael ei gwblhau yn 2024. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid sydd wedi cael eu dewis yn ofalus i gyflawni’r cynllun hwn a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fod yn gymydog da i 50,000 eiddo o fewn 200m i’n rheilffyrdd.

 

Pa gynnydd rydyn ni'n ei wneud?

Rydyn ni eisoes wedi dechrau gweithio ar Fetro De Cymru, drwy adeiladu ein depo newydd gwerth £100 miliwn a Chanolfan Reoli’r Metro yn Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf. Bydd hon yn gartref i’n trenau Metro newydd, yn ogystal â 400 o griw trenau, 35 o staff cynnal a chadw, a 52 o staff Canolfan Reoli’r Metro.

Rydyn ni hefyd wedi cwblhau ein cam cyntaf o ran signalau a thrydaneiddio. Mae’r rhan gyntaf o gledrau rhwng Caerdydd a Phontypridd bellach yn ‘fyw’ ac yn cludo 25,000 folt - sydd gyfwerth â 100 gwaith y trydan mewn cartref safonol.