Mesurau a dangosyddion monitro

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Mai 2022

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 sy’n nodi uchelgeisiau Cymru o ran trafnidiaeth ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a’r blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’r fframwaith monitro wedi’i gynllunio i olrhain cynnydd yn erbyn cyflawni’r blaenoriaethau a’r uchelgeisiau.

Mae’r fframwaith yn cynnwys chwe Mesur Allweddol a 27 o Fesurau Atodol. Y Mesurau Allweddol yw’r rheini yr ystyrir sydd bwysicaf o ran cefnogi nodau cyffredinol Llywodraeth Cymru o ran newid dull teithio a lleihau carbon. Rydym wedi tynnu sylw at ba fesurau fydd yn dangos cynnydd tuag at bob blaenoriaeth ac uchelgais. Mae’r data ar gyfer pob mesur yn rhoi darlun o’r sefyllfa bresennol. Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru pan fydd data newydd ar gael.

Mae'r Adroddiad Technegol ar gyfer Fframwaith Monitro STC i'w weld yn adroddiad technegol Strategaeth Trafnidiaeth Cymru: Mesurau Monitro.  Mae'r ffynonellau data a'r dulliau cyfrifo ar gyfer nifer fach o fesurau bellach wedi newid a bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu mewn Adroddiad Technegol wedi'i ddiweddaru a gyhoeddir yn Gwanwyn 2025. (Mae fersiwn hygyrch o'r Adroddiad Technegol cyfredol ar gael ar gais).

Gellir anfon unrhyw ymholiadau am ffynonellau data neu fethodolegau cyfrifo cyn cyhoeddi’r Adroddiad Technegol diwygiedig yma WTSMonitoring@tfw.wales.

Mae'r tabl isod yn rhoi manylion ynghylch pryd y cyhoeddwyd pob dangosfwrdd ddiwethaf, y diweddariad nesaf a drefnwyd ac amlder arfaethedig y diweddariadau.

CyfeirnodMesurFersiwn bresennolDiweddariad nesaf sydd wedi'i drefnuAmlder
M1Canran y teithiau yn ôl cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddusMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
M2Canran y cerbydau allyriadau isel iawn neu dim allyriadauGorffennaf 2025Haf 2026Blynyddol
M3Cyfanswm cilomedrau cerbyd a deithiwydMedi 2026Haf 2026Blynyddol
M4Pellter cyfartalog a deithiwyd fesul personMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
M5Canran y gweithlu sy’n gweithio o bell yn rheolaiddMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
M6Allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sector trafnidiaethMedi 2026Haf 2026Blynyddol
S1Amser teithio cyfartalog i wasanaethau addysg, iechyd a hamddenMai 2024Haf 2026Pob dwy flynedd
S2Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau yn eu hardal leolRhagfyr 2025Gwanwyn 2026Blynyddol
S3Canran y bobl o fewn pellter cerdded i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwyMedi 2026Haf 2025Pob dwy flynedd
S4Canran y bobl sy’n cerdded neu’n beicio o leiaf unwaith yr wythnos fel ffordd o deithioMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
S5*Canran y teithiau i orsaf drenau drwy gerdded, beicio neu ar fwsAwst 2023Gwanwyn 2026Blynyddol
S6Canran y teithiau i atyniadau i ymwelwyr drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwyGorffennaf 2025Haf 2026Blynyddol
S7Canran y rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi’i drydaneiddioRhagfyr 2025Tachwedd 2026Blynyddol
S8Canran y llwythi a gafodd eu cludo ar y tir gan drenauAwst 2025Haf 2026Blynyddol
S9Canran y gwasanaethau bws a thrên ar amserRhagfyr 2025Tachwedd 2026Blynyddol
S10Nifer y mannau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoeddRhagfyr 2025Chwefror 2026Chwarterol
S11Canran y bobl a oedd yn fodlon ar eu taithMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
S12Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn annibynnolMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
S13Canran y gorsafoedd trenau heb risiauGorffennaf 2025I’w gyhoeddiDiweddeddir yn anaml
S14Canran y bysiau a’r trenau sydd â gwybodaeth glyweledolRhagfyr 2025Tachwedd 2026Blynyddol
S15*Canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn y sector trafnidiaethRhagfyr 2025Hydref 2026Blynyddol
S16Oedi cyfartalog fesul cilomedr a deithiwydGorffennaf 2025Haf 2026Blynyddol
S17*Cost gyfartalog fesul cilomedr a deithiwyd drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddusAwst 2023Haf 2026Blynyddol
S18Canran y bobl sy’n teimlo na allant fforddio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddusMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
S19Pobl a laddwyd neu a anafwyd ar y rhwydwaith trafnidiaethTachwedd 2024Haf 2025Blynyddol
S20Canran y bobl sy’n teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn ddiogel wrth deithioMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
S21Canran y seilwaith trafnidiaeth mewn cyflwr daEbrill 2025I’w gyhoeddiDiweddeddir yn anaml
S22Canran y seilwaith trafnidiaeth sydd mewn perygl o lifogyddHydref 2023Hydref 2025Pob dwy flynedd
S23Lefel y llygryddion aer o’r sector trafnidiaethMawrth 2025I’w gyhoeddiDiweddeddir yn anaml
S24Canran y bobl sy’n cael eu poeni’n rheolaidd gan sŵn y tu allan i’r cartref a achosir gan drafnidiaethMedi 2026Gaeaf 2026Blynyddol
S25Hectarau o gynefin ar yr ystâd trafnidiaeth sy’n cael eu cynnal neu eu gwella er lles bioamrywiaethEbrill 2025Gwanwyn 2026Blynyddol
S26Canran y gwastraff a gynhyrchir gan y sector trafnidiaeth sy’n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchuHydref 2023I’w gyhoeddiDiweddeddir yn anaml
S27Canran yr asedau hanesyddol dynodedig ar yr ystâd drafnidiaeth sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwellaGorffennaf 2025Haf 2026Blynyddol

Caiff data a gynhwysir yn y mesur sydd ag asterisk (*) wrtho ei ddisodli gan ddata o gyhoeddiad blynyddol Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru (WNTS).

Gellir dod o hyd i fersiynau blaenorol o’r dangosfyrddau yn y mesurau archif.