Dathlu Daucanmlwyddiant y Rheilffordd
Mae’r rheilffordd wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o siapio hanes amrywiol a threftadaeth gyffredin Cymru a’r gororau, ac mae 2025 yn nodi 200 mlynedd ers i deithwyr deithio ar y rheilffordd dan bŵer stêm am y tro cyntaf.
Digwyddodd y daith gyntaf hon ar Reilffordd Stockton a Darlington ar 27 Medi 1825, ac mae’r daucanmlwyddiant yn agosáu.
Gwnaethpwyd hyn yn bosibl gan arloesedd ym maes trafnidiaeth yn ystod cyfnod o dwf diwydiannol yng Nghymru ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arweiniodd y datblygiadau ym maes arloesedd a thechnoleg y rheilffordd at y rheilffyrdd modern sy’n darparu trafnidiaeth i’r cyhoedd heddiw. Rhai o’r datblygiadau hyn oedd treialon a helyntion Richard Trevithick yn datblygu technoleg locomotif, a sut y sefydlwyd Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls fel y rheilffordd gyntaf yn y byd i godi ffi ar deithwyr - (ceffylau, nid locomotifau oedd yn darparu’r pŵer tynnu).
Nod yr ymgyrch daucanmlwyddiant yw dathlu cynnydd, arloesedd ac adnewyddiad y rheilffordd wrth ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr STEM proffesiynol i ddilyn gyrfa gyffrous ar y rheilffyrdd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, cymunedau, academyddion, canolfannau treftadaeth y rheilffordd amgueddfeydd ac archifau i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru a’r gororau i ddathlu hanes syfrdanol y rheilffordd, ei rôl yn ein byd ni heddiw, a’i phwysigrwydd wrth greu dyfodol cynaliadwy - mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Rydym ni’n falch iawn ein bod yn cael cyfle i groesawu ‘Inspiration’, trên arbennig Rheilffordd 200 i Orsaf Reilffordd Llandudno rhwng 15 ac 18 Tachwedd. Gallwch archebu eich tocyn rhad ac am ddim yma: Gorsaf Llandudno - Rheilffordd 200.
Mae ein rhaglen Rheilffordd 200 yn rhan o’n huchelgais barhaus i greu rhwydwaith drafnidiaeth sy’n fwy cymdeithasol gynaliadwy a diwylliannol gyfrifol. Rydym ni am i bobl Cymru a’r gororau fod yn falch o’u system drafnidiaeth, yn falch o ddefnyddio’r rhwydwaith ac yn falch o’n treftadaeth a’n dyheadau cyffredin am y dyfodol.