Mae Rheilffordd 200 ar y gweill - Dathlu 200 mlwyddiant y rheilffordd
Mae'r rheilffordd wedi chwarae rhan hollbwysig wrth lunio hanes amrywiol a threftadaeth gyffredin Cymru a'r Gororau ac mae 2025 yn nodi 200 mlynedd ers taith drên stêm gyntaf y byd i werthu tocynnau i deithwyr.
Digwyddodd y daith gyntaf hon ar Reilffordd Stockton & Darlington ar 27 Medi 1825. Aeth tua 550 o deithwyr a dalodd am docyn ar daith 27 milltir a gymerodd lai na thair awr, gan gyrraedd cyflymder o 15 mya.
Dim ond oherwydd ffyniant diwydiannol Cymru ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y bu'r llwyddiant pwysig hwn yn bosibl. O hynt a helynt Richard Trevithick a'r datblygiadau locomotif a gyflawnwyd ganddo, i Reilffordd Abertawe a’r Mwmbwls yn cael ei ddathlu fel y rheilffordd gyntaf i werthu tocynnau i deithwyr – (wedi’i phweru gan geffylau yn hytrach na locomotifau) - y datblygiadau hyn mewn arloesi a thechnoleg trafnidiaeth oedd y sbardun a arweiniodd at ddatblygiad y rheilffyrdd modern i deithwyr.
Nod yr ymgyrch 200 mlwyddiant yw dathlu twf, arloesedd ac adnewyddiad y rheilffordd yn ogystal ag ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol STEM i ymgymryd â gyrfa yn nyfodol cyffrous y rheilffyrdd.
Mae rhaglen yr ymgyrch yn canolbwyntio ar bedair thema.
- Treftadaeth a diwylliant
- Dathlu pobl y rheilffordd
- Addysg a sgiliau
- Arloesedd, technoleg a'r amgylchedd
Gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, cymunedau, y byd academaidd ac amgueddfeydd, bydd 2025 yn gweld amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru a'r gororau i ddathlu gorffennol rhyfeddol y rheilffyrdd, ei rôl heddiw, a'i bwysigrwydd i ddyfodol cynaliadwy.
Mae'r rhaglen yn rhan o'n huchelgais parhaus i greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy, cymdeithasol a chyfrifol o ran diwylliant. Rydym am i bobl Cymru a'r Gororau ymfalchïo yn eu system drafnidiaeth, yn ogystal â theimlo’n falch o ddefnyddio'r rhwydwaith ac o’n treftadaeth a'n dyheadau ar y cyd ar gyfer y dyfodol.