Trenau o Lundain i Gasnewydd

Mae’r trên o Llundain Paddington i Gasnewydd yn ne Cymru yn cymryd ychydig dros 1 awr a hanner. Dyma’r ffordd gyflymaf, hawsaf a mwyaf hamddenol o wneud y daith hon, gan eich helpu i osgoi’r trallod o fod yn sownd mewn traffig ar y draffordd.

Mwynhewch ein Wi-Fi am ddim ar y trên, sy’n eich galluogi i ddal i fyny â gwaith a chadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu ar y cyfryngau cymdeithasol. Archebwch eich tocynnau trên ar-lein heddiw, ar ein ap, heb orfod talu ffioedd archebu.

Mae Casnewydd yn un o’r trefi mwyaf yng Nghymru, ac mae’n gorwedd ar lannau aber Afon Wysg. Mae ganddi hanes cyfoethog a lliwgar. Wedi ehangu o anheddiad Rhufeinig Caerllion, mae wedi bod yn borthladd prysur ers y 1300au, ac mae’n dal i ddelio ag oddeutu £1 biliwn mewn masnach bob blwyddyn. Mae llawer o bethau i’w gwneud yng Nghasnewydd.

Beth am archebu eich tocyn trên i ymweld â ni heddiw? Gyda llawer o gynigion ac arbedion, yn cynnwys club 50 a thocynnau cyfnodau tawelach, mae gwneud y daith yn haws nag erioed.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd