Ydych chi’n chwilio am ffordd gyfleus o deithio? Mae trenau o Telford i Birmingham yn cynnig taith gyflym, gyfforddus a gwyrddach i galon un o ddinasoedd mwyaf bywiog y DU. P'un a ydych chi'n cymudo, yn siopa neu’n cynllunio diwrnod allan i'r teulu, bydd dal y trên yn caniatáu i chi gael taith esmwyth a didrafferth.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Telford i Birmingham?
Mae'n cymryd 40 munud yn unig - gan gynnig ffordd gyflym a chyfleus i chi gyrraedd calon fywiog Lloegr.
Pam teithio ar y trên o Telford i Birmingham?
Nid yn unig y mae'r daith yn gyfforddus ac yn hollol ddi-straen, ond mae hefyd yn fwy cynaliadwy. Yn ogystal â hynny, gallwch fanteisio i’r eithaf ar ein cynigion arbed arian. Bwriadu mynd allan gyda ffrindiau? Manteisiwch ar ein gostyngiadau teithio mewn grŵp. Os ydych chi dros 50 oed, peidiwch â cholli allan ar ein bargeinion Clwb 50 unigryw, wedi'u cynllunio i wneud eich teithiau yn fwy fforddiadwy. Gall ein cynigion olygu bod gennych chi fwy o arian i'w wario pan fyddwch yn cyrraedd Birmingham!
Pam ymweld â Birmingham?
Fel ail ddinas fwyaf y DU, mae Birmingham yn llawn atyniadau, cyfleoedd siopa a gweithgareddau gwych ar gyfer pobl o bob oedran.
Cewch fodd i fyw yn siopa
Crwydrwch o gwmpas y Bullring a Grand Central ble y cewch chi’r siopau mawr fel Selfridges a John Lewis neu porwch drwy’r arcedau Fictoraidd a dewch o hyd i siopau boutique unigryw a chrefftau arbennig. Dafliad carreg o orsaf Birmingham New Street, fe welwch siop Primark fwyaf y byd. Ar ôl ychydig o siopa, ymlaciwch yn un o'r nifer o fariau a bwytai sy'n cynnig pob dim, o ddanteithion lleol i fwyd o bedwar ban byd.
Hwyl i’r teulu cyfan
Bydd teuluoedd wrth eu bodd â'r National SEA LIFE Centre, sy'n cynnwys dros 2,000 o greaduriaid a thwnnel tanddwr 360 gradd. Neu ewch i ‘r Thinktank Science Museum, lle mae dros 200 o arddangosion rhyngweithiol yn ysbrydoli ac yn diddanu ymwelwyr o bob oed.
Prynwch docynnau’n gynnar i fachu ein prisiau isaf. Os ydych am gael taith dawelach, rhowch gynnig ar ein tocynnau y tu allan i oriau brig. Bydd ein ap sy’n hawdd iawn ei gyrchu yn eich diweddaru gyda'r holl newyddion teithio diweddaraf a’r bargeinion gorau.
-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-