Data monitro cyflymder cerbydau: Medi 2023 i Chwefror 2024

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi data cyflymder cerbydau o safleoedd monitro penodol ar hyd a lled Cymru. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya o 17 Medi 2023 ymlaen. Adeg y monitro, roedd pob ffordd yn rhydd i raddau helaeth o rwystrau neu gyfyngiadau ffisegol neu rwystrau sy’n lleihau cyflymder traffig.

Mae’r data hwn yn disodli’r data rhagarweiniol (20 Chwefror 2024).

Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar wyth wythnos o fonitro cyflymder, gyda phedair wythnos cyn i’r terfyn ddod i rym (cyn 17 Medi 2023) a phedair wythnos ar ôl i’r terfyn ddod i rym (ar ôl 17 Medi 2023).

Cynhaliwyd y gwaith monitro cyn i’r terfyn ddod i rym dros ddau gyfnod o bythefnos, ym mis Gorffennaf a mis Medi 2023. Cafodd y gwaith monitro cyflymder ar ôl i’r terfyn ddod i rym ei gynnal dros bythefnos ym mis Tachwedd 2023 a phythefnos ym mis Ionawr 2024. 

 

Crynodeb

Bydd y data yn y cyhoeddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y tri Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) canlynol, a amlinellir yn y fframwaith monitro 20mya cenedlaethol (Medi 2023).

Canran y traffig sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya (DPA 1.1)

At ddibenion DPA 1.1, mae unrhyw un sy’n gyrru ar neu o dan 24mya yn cael ei gategoreiddio fel rhywun sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder newydd. Ar draws yr holl ardaloedd a safleoedd monitro, roedd 57.8% o gerbydau’n teithio ar neu o dan 24mya ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig. Cyn cyflwyno’r terfyn, roedd 20.2% o gerbydau’n teithio ar neu o dan 24mya.

Newid mewn cyflymder yr 85ed ganradd (DPA 1.2)

Mae cyflymder yr 85ed ganradd, wedi’i bwysoli yn ôl cyfanswm y cerbydau, wedi gostwng 3.9mya - o 33.1mya i 29.2mya.

Newid mewn cyflymder cymedrig (DPA 1.3).

Mae’r cyflymder cymedrig, wedi’i bwysoli yn ôl cyfanswm y cerbydau, wedi gostwng o 28.9mya cyn cyflwyno’r terfyn, i 24.6mya ar ôl ei gyflwyno, sy’n ostyngiad o 4.3mya.

Dosbarthiad cyflymder cerbydau

Mae cyflymderau wedi gostwng yn gyffredinol. Roedd cyfran y cerbydau a gofnodwyd yn teithio ar 15-19mya wedi cynyddu - o 3.5% cyn cyflwyno’r terfyn i 16.4% ar ôl ei gyflwyno. Yn yr un modd, roedd cyfran y cerbydau a oedd yn teithio ar 20-24mya wedi cynyddu 23.6 pwynt canran, i 38.9% ar ôl i’r terfyn ddod i rym. Mae nifer y cerbydau a gofnodwyd yn teithio ar 25-29mya, 30-34mya a 35mya ac uwch, i gyd wedi gostwng ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.

Mapiau safleoedd monitro

 

20mya cam 1 - adroddiad monitro ansawdd aer - Mai 2024

 

Ar ôl gweithredu'n genedlaethol, data - Chwefror 2024

Newidiadau rhagarweiniol i’r cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya) ar y prif ffyrdd trwodd, yn dilyn y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig

Data rhagarweiniol yw’r data hyn. Mae rhagor o ddata ar ôl gweithredu yn cael eu casglu yn ystod 2024, felly mae’n bosibl y bydd cyflymder ar ôl gweithredu yn newid. Am y rheswm hwn, argymhellir eich bod yn ofalus wrth ddehongli. Mae'r data'n gynrychioliadol o'r ardaloedd sy'n cael eu monitro ond efallai na fyddan nhw’n gynrychioliadol o Gymru gyfan.

Casglwyd y data ar brif ffyrdd trwodd mewn 43 safle mewn naw ardal. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya o 17 Medi 2023 ymlaen. Roedd pob ffordd yn rhydd i raddau helaeth o gyfyngiadau ffisegol a oedd yn lleihau cyflymder traffig adeg y monitro.

 

Cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol

 

Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig Ardaloedd cam 1 - Chwefror 2024

 

Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig - Medi 2023

 

Terfyn Cyflymder 20mya Diofyn ar Ffyrdd  Cyfyngedig Cam 1 - Mawrth 2023

 

Manylion cyswllt ar gyfer yr adroddiad hwn

Uned Dadansoddi Trafnidiaeth Geo-ofodol a Strategol

monitro20mya@trc.cymru