Tîm Trafnidiaeth Cymru

Prif ddiben ein Bwrdd yw sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn bodloni gofynion ei gylch gwaith fel y nodir gan Lywodraeth Cymru, ac i sicrhau y cyflawnir ein strategaeth. 
 
Mae Bwrdd TrC yn cynnwys y Cadeirydd, y Prif Weithredwr, pedwar swyddog annibynnol anweithredol a dau aelod gweithredol. Rôl y bwrdd yw: 

  • darparu arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer TrC ; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol, a gosod amcanion ; 
  • darparu arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer gwaith y sefydliad; dal y Prif Weithredwr i gyfrif am sicrhau bod gweithgareddau TrC yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol; 
  • monitro perfformiad i sicrhau bod TrC yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad yn llawn; a 
  • hyrwyddo safonau heb eu hail o safbwynt cyllid cyhoeddus; arddel egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. 

 

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod un ar ddeg o weithiau’r flwyddyn, a chynhelir diwrnodau ychwanegol ar gyfer Datblygiad y Bwrdd yn ôl yr angen. Rydym yn cyhoeddi cofnodion ein cyfarfodydd Bwrdd; maen nhw ar gael yma

 

 

Bwrdd Cyfarwyddwyr

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Cyfarwyddwyr Gweithredol

James Price (Prif Weithredwr)

Heather Clash (Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid)

 

Mae’r uwch arwain

Mae’r Bwrdd yn dirprwyo ar ran y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, i gyflawni’r holl swyddogaethau ac eithrio'r canlynol :

  • unrhyw fater sydd wedi'i neilltuo i'r Bwrdd ; 
  • unrhyw fater a ddirprwywyd i bwyllgor neu is-bwyllgor y Bwrdd . 

Er mwyn cefnogi'r Prif Weithredwr i gyflawni’r swyddogaethau hyn, mae ein strwythur rheoli yn cynnwys nifer o grwpiau sy’n goruchwylio gweithgareddau gweithredol a strategol y sefydliad. 
 
Mae’r uwch arwain yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd wrth ddatblygu strategaeth TrC. Mae’r uwch arwain yn atebol am weithgareddau dydd i ddydd y sefydliad ac yn darparu arweinyddiaeth gorfforaethol.
 
Fel Swyddog Cyfrifyddu TrC , y Prif Weithredwr (James Price) sy’n bersonol gyfrifol am: 

  • stiwardiaeth briodol o’r arian cyhoeddus; 
  • gweithrediadau a rheolaeth o ddydd i ddydd Trafnidiaeth Cymru; ac am 
  • sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.

Tîm Arwain Gweithredol | Agor ar ffurf PDF 

James Price Profile
James Price (Prif Swyddog Gweithredol)

Mae James yn arwain y sefydliad o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl fod yn falch ohono.

Leyton Powell Profile
Leyton Powell (Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg)
  • Iechyd, diogelwch a lles galwedigaethol
  • Rheoli diogelwch a gwelliant parhaus
  • Cynaliadwyedd a diogelu ein hamgylchedd
  • Diogelwch a chydnerthedd gweithredol gwasanaethau trafnidiaeth
  • Parhad a pharodrwydd am argyfwng
Geoff Ogden Profile
Geoff Ogden (Prif Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth a Datblygu)
  • Gwerthusiad cost-effeithiol ar sail tystiolaeth o brosiectau trafnidiaeth
  • Datblygu rhwydwaith ac integreiddio
  • Cynllunio rhanbarthol a datblygu llwybrau teithio llesol
  • Sero-net a datgarboneiddio
  • Cynllunio galw, amserlennu ac integreiddio tocynnau
Alexia Course Profile
Alexia Course (Prif Swyddog Masnachol)
  • Pris tocynnau, prisio, manwerthu a rheoli refeniw
  • Cyflenwi gwerth am arian o gontractau trafnidiaeth a rheoli grantiau
  • Cyflenwi trenau newydd a gofynion fflyd yn y dyfodol, gan gynnwys Pullman Rail Ltd
  • Caffael, cadwyn gyflenwi a rheoli contractau
  • Noddi cynlluniau newydd gyda thrydydd partïon ac awdurdodau lleol
  • Datblygiad masnachol, ystadau a rheoli eiddo
Marie Daly Profile
Marie Daly (Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant)
  • Strategaeth farchnata, gan adeiladu brand y gellir ymddiried ynddo ac sy'n cael ei barchu
  • Ymwreiddio diwylliant cwsmer-ganolog ym mhopeth a wnawn
  • Darparu profiad cwsmer diogel, blaengar a thrawsnewidiol
  • Pobl a datblygiad sefydliadol
  • Strategaeth partneriaeth gymdeithasol
  • Newid sefydliadol a thrawsnewid
Dan Tipper Profile
Dan Tipper (Prif Swyddog Seilwaith)
  • Rhoi rhaglen y Metro ar waith i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gwell
  • Cyflawni gwaith trawsnewid seilwaith ar rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd
  • Paratoi seilwaith rheilffyrdd i gefnogi trenau mwy newydd, gwell
  • Rheoli ased seilwaith CVL
  • Peirianneg, rheoli prosiectau a rheolaethau rhaglen
Jan Chaudry-Van Der Velde Profile
Jan Chaudhry-Van Der Velde (Prif Swyddog Gweithrediadau)
  • Darparu sawl math gwahanol o drafnidiaeth
  • Cynllunio gweithlu a chysylltiadau diwydiannol
  • Cynnal a chadw a pheirianneg
  • Amserlennu a gwybodaeth cwsmeriaid
  • Diogelwch cwsmeriaid a diogelu refeniw
Heather Clash Profile
Heather Clash (Prif Swyddog Cyllid, Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol)
  • Rheolaeth ariannol a chynllunio
  • Cynllunio busnes, archwilio ac adrodd
  • Glynu at ein polisïau llywodraethu
  • Gwasanaethau TG ac arloesi digidol
  • Gwasanaethau cyfreithiol ac yswiriant
Lee Robinson Profile
Lee Robinson (Development Director Mid, North and Rural Wales)
  • Datblygu ac arwain Trafnidiaeth Cymru yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, gan gynghori a chefnogi’r tîm ehangach
  • Ymateb i faterion sy'n datblygu a materion adweithiol mewn perthynas â TrC yng Ngogledd Cymru
  • Arwain ar ddatblygu trafnidiaeth integredig
  • Cyflawni agenda trawsnewid bysiau a thrafnidiaeth wledig Llywodraeth Cymru
  • Twf cynllun bws fflecsi ac integreiddio gwasanaethau TrawsCymru
Lewis Brencher Profile
Lewis Brencher (Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu)
  • Datblygu a chyflawni brand TrC a strategaeth farchnata
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid, cymunedau a chynrychiolwyr etholedig
  • Cyfathrebu Corfforaethol gan gynnwys cysylltiadau â'r cyfryngau a materion cyhoeddus
  • Newid ymddygiad