Teithio’n Saffach, Cynlluniwch Ymlaen Llaw A Byddwch Yn  Deithiwr Cyfrifol

Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid a'n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.

 

Cyn teithio

  • Cynlluniwch eich taith. Gall rhai o'n gwasanaethau fod yn brysur yn enwedig yn ystod oriau brig, ar benwythnosau a phan fydd y tywydd yn dda. Dewch o hyd i drenau gyda gofod, ein Gwiriwr Capasiti.
  • Ewch yn ddigyswllt a phrynwch eich tocyn ar ap TfW. Mae gwiriadau tocynnau ar waith.
  • Peidiwch â theithio os ydych chi'n teimlo'n sâl.

 

Yn ystod eich taith

  • Meddyliwch am wisgo gorchudd wyneb ar ein trenau ac yn adeiladau ein gorsaf.
  • Cerddwch neu feiciwch ar deithiau byrrach os gallwch chi.
  • Cadwch unrhyw ffenestri ar agor i helpu awyru.
  • Byddwch yn barchus - nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol yn unrhyw le ar ein rhwydwaith.
  • Cadwch eich pellter - mae Coronafeirws yn dal yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i Gadw Cymru'n Ddiogel drwy gadw pellter parchus oddi wrth eraill os gallwch chi.

 

Teithio y tu allan i Gymru

Bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer  Lloegr , Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gallwch weld y rheolau diweddaraf ar gyfer teithio tramor i ac o Gymru, yma.

 

Llai o amserlenni bysiau a rheilffyrdd 

Mae gwasanaethau'n rhedeg amserlen lai

Os ydych chi'n teithio ar fws, edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael mwy o wybodaeth. 

Gallwch wirio eich gweithredwyr lleol yma  

Mae ein gwasanaethau rheilffordd yn rhedeg ar amserlen lai.  Os ydych chi'n teithio ar drên, defnyddiwch ein gwiriwr capasiti