
Cadwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol
Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid a'n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.
Mae Coronafeirws yn dal i fod yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i gadw Cymru'n Ddiogel trwy gadw pellter parchus oddi wrth deithwyr eraill os gallwch chi
Mae gofynion cadw pellter cymdeithasol yn newid, gwiriwch ganllaw Llywodraeth Cymru yma.
Gallwch ddod o hyd i ganllaw Llywodraeth y DU yma.
Mesurau glanhau ychwanegol ar fysiau a threnau ac yn ein gorsafoedd
Mae ein bysiau, ein trenau a’n gorsafoedd yn cael eu glanhau’n drwyadl yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, gan gynnwys mannau mae teithwyr yn eu cyffwrdd yn aml.
Rydyn ni’n gweithio bob awr o’r dydd i sicrhau eich bod chi’n gallu teithio’n ddiogel ac yn hyderus ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Bysiau
Mae gan yr holl weithredwyr bysiau yng Nghymru fesurau glanhau llym ar waith, gan gynnwys mesurau i gadw gyrwyr ar y rhwydwaith mor ddiogel â phosibl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Trenau
Rydyn ni’n glanhau ein trenau’n drwyadl ac yn amlach. Mae ein timau glanhau yn gweithio ddydd a nos i lanhau ein trenau ac rydyn ni wedi cyflogi mwy o weithwyr i’w cadw’n lân.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel breichiau cadeiriau, canllawiau a byrddau. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.
Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gorsafoedd
Rydyn ni hefyd wedi codi lefelau glanhau yn ein gorsafoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel canllawiau a pheiriannau tocynnau. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.
Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Helpwch ni drwy olchi’ch dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd
Rydyn ni’n glanhau mwy er mwn sicrhau bod eich teithiau chi mor ddiogel â phosibl.
Helpwch ni:
- drwy olchi’ch dwylo’n drwyadl gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd.
- drwy ddod â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os gallwch chi.
Eich cwestiynau
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.
-
Oeddech chi’n gwybod?Sgwrs | Panel CwsmeriaidRydyn i'n gweddnewid trafnidiaeth yng Nghymru. Mae hon yn dipyn o gamp ac mae angen eich help chi arnom.Ymgeisio i ymuno â Sgwrs