
Cadwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol
Ystyriwch eraill wrth deithio. Gyda chyfyngiadau teithio yn codi ledled y DU, mae mwy ohonom yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Cyn teithio
- Cynlluniwch eich taith. Gwiriwch traveline.cymru i gael mwy o wybodaeth am eich bws
- Gweithiwch gartref os gallwch chi.
- Peidiwch â theithio os ydych chi'n yn teimlo'n sâl
Wrth deithio
- Gwisgwch orchudd gwyneb ar fysiau ac yn y gorsafoedd bysiau oni bai eich bod wedi'ch eithrio
Cofiwch bod hyn yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru
- Ceisiwch gerdded neu feicio ar deithiau byrrach.
- Cadwch unrhyw ffenestri ar agor i helpu i awyru.
- Byddwch yn barchus - nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol ar unrhyw ran o'n rhwydwaith.
- Cadwch eich pellter - Mae Coronafeirws yn dal i fod yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i gadw Cymru'n Ddiogel trwy gadw pellter parchus oddi wrth deithwyr eraill os yn bosib.
- Golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio glanweithydd dwylo yn rheolaidd
Teithio y tu allan i Gymru
Bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr , Yr Alban a Gogledd Iwerddon .
Gallwch weld y rheolau diweddaraf ar gyfer teithio tramor i ac o Gymru, yma.
Llai o amserlenni bysiau a rheilffyrdd
Mae gwasanaethau'n rhedeg amserlen lai
Os ydych chi'n teithio ar fws, edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael mwy o wybodaeth.
Gallwch wirio eich gweithredwyr lleol yma
Mae ein gwasanaethau rheilffordd yn rhedeg ar amserlen lai. Os ydych chi'n teithio ar drên, defnyddiwch ein gwiriwr capasiti
Gorchuddion wyneb
Mae gwisgo gorchudd gwyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru. Rhaid i chi barhau i wisgo gorchudd gwyneb ar ein holl wasanaethau trwy gydol eich taith, oni bai eich bod wedi'ch eithrio.
Dewch â gorchudd gwyneb gyda chi a'i wisgo cyn:
- mynd i mewn i faes parcio'r orsaf
- mynd i mewn i orsaf
- mynd ar blatfform
- mynd i'r ystafell aros
- mynd ar eich bws
Nid oes rhaid i blant o dan 11 oed, pobl ag anawsterau anadlu neu bobl â salwch corfforol neu feddyliol neu nam neu anabledd wisgo gorchudd wyneb.
Gellir gweld rhestr lawn Llywodraeth Cymru yma.
Traveline Cymru
Mae Traveline Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru ar gyfer bysiau, coetsys a threnau, yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio.
fflecsi
Mae fflecsi yn wasanaeth peilot newydd sy'n cael ei redeg gan weithredwyr bysiau lleol.
Rydyn ni wedi cynllunio gwasanaeth fflecsi i gludo teithwyr mor ddiogel â phosib ac mae gwybod faint o deithwyr rydyn ni'n eu codi yn golygu y gallwn ni ddefnyddio cerbyd o faint priodol.
I archebu ein gwasanaeth fflecsi:
- ffoniwch 0300 234 0300
- lawrlwythwch ein ap ar Google Play a'r siop apiau
- archebwch ar-lein