De-ddwyrain Cymru
Rydym yn cyflwyno masnachfreinio bysiau yn ne-ddwyrain Cymru erbyn 2030, a fydd yn gwneud gwasanaethau yng Nghasnewydd, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Bro Morgannwg, Torfaen a Blaenau Gwent yn fwy integredig, cyson a dibynadwy. Byddwn yn trefnu gwasanaethau bysiau fel eu bod yn diwallu eich anghenion teithio orau, boed yn waith, addysg, gofal iechyd neu weithgareddau hamdden.
Mae masnachfreinio yn ein galluogi i osod llwybrau bysiau, amserlenni a safonau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd gweithredwyr bysiau yn darparu gwasanaethau ar ein rhan ni. Y prif fanteision y byddwch yn sylwi arnynt fydd:
- tocynnau symlach
- prisiau tocynnau tecach
- amserlenni a gwybodaeth am wasanaethau cliriach
- rhwydwaith sy'n haws ei ddeall a'i ddefnyddio
- gwasanaethau mwy dibynadwy
- llai o fylchau yn narpariaeth y gwasanaethau
- rhagor o deithiau cydgysylltiedig
- cefnogaeth ar gyfer twf a buddsoddiad yn y rhanbarth yn y dyfodol
Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a chymunedau ledled De-ddwyrain Cymru fel y gallant ddweud eu dweud ar sut mae'r rhwydwaith yn cael ei lunio. Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion wrth i fasnachfreinio fynd rhagddo a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y newidiadau.