De-orllewin Cymru

Rydym yn cyflwyno masnachfreinio bysiau yn ne-orllewin Cymru, a fydd yn gwneud gwasanaethau yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn fwy integredig, cyson a dibynadwy. Byddwn yn trefnu gwasanaethau bysiau fel eu bod yn diwallu eich anghenion teithio orau, boed yn waith, addysg, gofal iechyd neu weithgareddau hamdden.

Mae masnachfreinio yn caniatáu inni osod llwybrau bysiau, amserlenni a safonau gwasanaethau cwsmeriaid. Bydd gweithredwyr bysiau yn darparu gwasanaethau ar ein rhan ni. Y prif fanteision y byddwch yn sylwi arnynt fydd:

  • tocynnau symlach
  • prisiau tocynnau tecach
  • amserlenni a gwybodaeth am wasanaethau cliriach
  • rhwydwaith sy'n haws ei ddeall a'i ddefnyddio
  • gwasanaethau mwy dibynadwy
  • llai o fylchau yn narpariaeth y gwasanaethau
  • rhagor o deithiau cydgysylltiedig
  • cefnogaeth ar gyfer twf a buddsoddiad yn y rhanbarth yn y dyfodol

Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a chymunedau ledled de-orllewin Cymru fel y gallant ddweud eu dweud ar sut mae'r rhwydwaith yn cael ei lunio. Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion wrth i fasnachfreinio fynd rhagddo a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y newidiadau.