














Teithio ar drên ac ar droed: cyrhaeddwch ar drên, archwiliwch ar droed
Mae nifer o’n gorsafoedd yn fannau cychwyn cerdded ar hyd llwybrau enwocaf Cymru. Llenwch eich sach deithio, rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen a neidiwch ar un o’n trenau - teithiwch ar drên ac ar droed.

Mynd am heic yng Nghymru
Mae Cymru yn gartref i dri phrif lwybr cenedlaethol sydd â dros 1,000 milltir o lwybrau cerdded ar draws y wlad.
Dewch o hyd i'ch llwybr er mwyn teithio ar drên ac ar droed
Gallwch ddefnyddio’n map o’r rhwydwaith i ddod o hyd i'r orsaf drên fwyaf addas, cynllunio llwybr a dechrau’ch taith cerdded yn syth o’r trên.
Ramblers Cymru - teithiau cerdded o’n gorsafoedd
Llwybr Cenedlaethol Ffordd Glyndŵr
Mae gan Ffordd Glyndŵr 135 milltir o lwybrau cerdded drwy weundiroedd eang, agored a choetiroedd Cymreig. Mae’r llwybr yn dechrau yng ngorsaf Trefyclo ac yn terfynu yng ngorsaf Y Trallwng - mae gan y ddwy orsaf gysylltiadau da i lwybrau Trafnidiaeth Cymru. Mae hynny’n meddwl y gallwch ymlacio ar y trên ar ôl heic drwy brydferthwch naturiol y llwybr.
Cynlluniwch eich llwybr yma: Llwybr Cenedlaethol Ffordd Glyndŵr.
Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa
Mae Llwybr Clawdd Offa yn 177 milltir o hyd. Gan gychwyn yn Lloegr, byddwch yn dod o hyd i’r Clawdd ar ddechrau’ch taith cyn cyrraedd milltiroedd o dreftadaeth Gymreig. Byddwch yn cerdded drwy Gas-gwent ac yn croesi’r ffin Gymreig yn Redbrook ac yn mynd mor bell â Phrestatyn.
Edrychwch ar y Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a phenderfynwch pa mor bell y byddwch yn teithio.
Llwybr Arfordir Cymru
Dyma’r llwybr hiraf o’r tri. Mae llwybr Arfordir Sir Benfro yn cynnwys 185 milltir o lwybrau cerdded ar draws unig Barc Cenedlaethol Prydain. Mae’r llwybr yn dechrau yn Llandudoch ac yn gorffen yn Amroth. Wrth ichi gerdded ar hyd y cyrchfannau Cymreig allweddol hyn, megis Casnewydd, Abergwaun a Skrinkle* o orsaf Maenorbŷr, byddwch yn profi golygfeydd anhygoel a natur syfrdanol ar hyd clogwyni brau a thraethau agored.
Mae hefyd yn rhan o’r llwybr mwy fyth Llwybr Arfordir Cymru sy’n eich cysylltu â mannau prydferth ein gwlad.
Am awyr iach ar lan y môr, archwiliwch Lwybr Arfordir Sir Benfro heddiw.
Ydych chi’n ansicr am le i fynd? Mae yna amryw o lwybrau cerdded ichi ar draws ein rhwydwaith. Rydym wedi dethol rhai o’r llwybrau cerdded sydd ar ein rhwydwaith i ysbrydoli’ch taith nesaf. Mae yna hefyd nifer o lwybrau cerdded prydferth ledled Cymru ar gyfer cerddwyr mwy anturus.