Teithio ar y trên gyda phlant
Mae mynd ar y trên gyda phlant yn ffordd hwyliog a chyfleus o deithio. P'un a ydych chi ar daith fer i'r dref neu'r ddinas agosaf neu'n antur draws gwlad, mae'n ffordd syml o deithio a all arbed arian i chi. Mae hefyd yn un o'r ffyrdd mwyaf ecogyfeillgar o deithio.
A yw plant yn teithio am ddim ar drenau TrC?
Mae ein tocyn Teulu yn docyn trên dwyffordd sy'n caniatáu i hyd at ddau o blant dan 16 oed deithio am ddim ar ein rhwydwaith gyda phob oedolyn sy'n talu am docyn.
- Mae plant yn teithio am ddim unrhyw bryd yn ystod y dydd, yn ystod oriau brig neu'n ystod oriau tawel.
- Prynwch ef ar-lein a'i storio ar eich ffôn - dim ciwio mewn swyddfeydd tocynnau.
- Yn ddilys ar wasanaethau sy'n defnyddio ein rhwydwaith a redir gan weithredwyr trên eraill.
Manteision teithio ar y trên gyda'ch teulu
Dyma ychydig o fanteision teithio ar y trên gyda'ch plant:
- Tocyn trên dwyffordd yw ein tocyn Teulu sy'n caniatáu i hyd at ddau o blant dan 16 oed deithio am ddim ar ein rhwydwaith gyda phob oedolyn sy'n talu am docyn.
- Yn aml mae'n gyflymach na gyrru.
- Osgowch bryderon parcio.
- Bachwch fynediad at gynigion a gostyngiadau unigryw fel 2 docyn am bris 1 ar docynnau mynediad at atyniadau hanesyddol.
- Mwynhewch amser teuluol heb ymyrraeth.
- Gallwch weld tirweddau prydferth Cymru.
- Mae'n hwyl!
Awgrymiadau ar gyfer mynd ar y trên gyda phlant
I gael gwared ar straen teithio, bwriwch olwg ar ein cyngor ar gyfer teithio gyda'ch plant ar y trên:
- Dechreuwch gyda thaith fer: yn enwedig gyda phlant ifanc, dechreuwch trwy fynd ar deithiau byrrach er mwyn iddynt ymgyfarwyddo â'r trên.
- Cynlluniwch eu bwyd a diod - p'un a ydych chi ddod â phecyn bwyd neu brynu bwyd a diod ar y ffordd, cynlluniwch eich prydau bwyd a'ch byrbrydau. Chwiliwch am y gwasanaethau sydd ar gael ar eich trên cyn teithio.
- Dewch â'u ID - efallai y gofynnir i chi brofi eu hoedran os ydyn nhw'n edrych dros 16 oed.
- Cysylltwch â'n Wi-Fi am ddim ar y trên - efallai y bydd signal eich ffôn yn diflannu.
- Manteisiwch ar y cyfleusterau - os bydd angen mynediad arnoch i newid babanod, ceisiwch eistedd ger y toiledau os gallwch chi.
- Paratowch y pramiau i'w storio - mae digon o le storio ar gael i'w ddefnyddio.
- Gofynnwch - os oes angen unrhyw help arnoch, siaradwch â'n cydweithwyr a fydd yn hapus i helpu.
- Gwiriwch cyn gadael y trên - gwnewch yn siŵr bod gennych chi bopeth cyn dod i ffwrdd.
- Cymerwch ddigon o adloniant - mae rhagor o awgrymiadau isod.
Diddanu eich plentyn ar y trên
Dyma ein hawgrymiadau:
- Gemau trên - Mi Wela i, y gêm adrodd straeon, gemau cardiau fel Top Trumps, croeseiriau, ac ati.
- Llyfrau a chylchgronau.
- Cysylltwch â'n Wi-Fi ar y trên.
- Lawrlwythwch ffilmiau a rhaglenni teledu cyn teithio.
- Lliwio.
- Dilynwch eich taith gan ddefnyddio map byw.
Ewch i’n cyfres o weithgareddau trên i blant am weithgareddau y gellir eu lawrlwytho.
Cwestiynau cyffredin
Ga i fynd â phram ar y trên?
Gallwch. Mae gennym ddigon o le storio ar gyfer pramiau, bygis a chadeiriau gwthio. Gofynnwn yn garedig i chi eu plygu os gallwch pan fyddwch chi ar y trên.
A allaf gynhesu potel ar y trên?
Nid ydym yn tueddu i gynnig y cyfleusterau hyn oherwydd bod pŵer ein hoffer yn fwy na phŵer offer cegin safonol.
A oes cyfleusterau newid babanod?
Mae'n dibynnu ar eich trên neu orsaf benodol. Gallwch edrych ar y rhain cyn teithio, ond lle bo'n bosibl, rydym yn cynnig y cyfleusterau hyn.