O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio tocyn Crwydro Cymru.
Mae'n ddelfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Nghymru.
Galwch ddefnyddio ein tocyn Crwydro Cymru i deithio unrhyw le yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio ar ein trenau am hyd at bedwar diwrnod o fewn cyfnod o wyth diwrnod. Gellir ei ddefnyddio am wyth diwrnod cyfan ar fysiau.
Prisiau
| Oedolyn | Plentyn | |
| Tocyn Crwydro Cymru | £149 | £74.50 |
*Gallwch arbed mwy o arian gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol:
- Cerdyn Rheilffordd 16-17 Saver
- Cerdyn Rheilffordd 16-25
- Cerdyn Rheilffordd 26-30
- Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl
- Cerdyn Rheilffordd Lluoedd EF
- Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn
- Cerdyn Rheilffordd 18 Saver TrC
- Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr TrC
- Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr
- Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together) (ar hyn o bryd nid yw’r cerdyn hwn ar gael ar ein ap neu ar ein gwefan)
Ble mae prynu tocyn Crwydro Cymru
Gallwch brynu tocyn Crwydro Cymru o'n ap, gwefan, unrhyw un o’r swyddfeydd tocynnau yn ein gorsafoedd neu ar y trên. Bydd angen i chi gael ein ap er mwyn i’ch tocyn weithio ar eich ffôn.
Gallwch hefyd brynu’r tocynnau o orsafoedd rheilffordd eraill yn y DU sydd â swyddfa docynnau, gan Asiantau Teithio wedi’u penodi gan National Rail.
Map
Alla i uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf?
Gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle mae’n bosib gwneud hynny. Mae hyn yn berthnasol i'n holl docynnau Safonol gan gynnwys Tocyn Sengl Unrhyw Amser ac Ymlaen Llaw, Tocyn Dychwelyd, Tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger. Rhowch wybod i'r tocynnwr os hoffech uwchraddio gan y bydd angen iddynt gadarnhau bod lle yn y cerbyd(au) Dosbarth Cyntaf. Cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau a archebwch ar y trên os ydych yn uwchraddio i docyn Dosbarth Cyntaf.
Gweithgareddau
Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio.
Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.
Ein partneriaid bysiau
Bysiau Dyma restr o'r cwmnïau bysiau yng Nghymru a fydd yn derbyn ‘Tocyn Crwydro Cymru’:
- Arriva Cymru
- Bws Caerdydd
- First Cymru
- Stagecoach De Cymru
- Pob gwasanaeth TrawsCymru (Ac eithrio T7, T12, X43, 460)
Telerau ac amodau
- Mwynhewch deithio diderfyn mewn ardal ddaearyddol ddynodedig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o wyth diwrnod. Gellir defnyddio'r pas am wyth diwrnod cyfan ar fysiau.
- Pob gorsaf yng Nghymru ynghyd ag estyniadau i Loegr drwy Shotton - Crewe - Y Fenni a Chas-gwent - Cheltenham.
- Mwynhewch deithio diderfyn gyda thocyn Crwydro Cymru mewn ardal ddaearyddol ddynodedig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o wyth diwrnod. Gellir ei ddefnyddio am wyth diwrnod cyfan ar fysiau.
- Yn ddilys unrhyw bryd o ddydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
- Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, CrossCountry, Great Western Railway a Avanti West Coast.
- Prynwch docyn Crwydro Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
- Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith