Prisiau a chapio
Mae talu wrth fynd yn cynnig y pris tocyn 'unrhyw bryd' cyfwerth â'r gwerth gorau am y daith rydych wedi'i gwneud. Byddwn ni’n defnyddio’r tapiadau rydych chi wedi’u gwneud ar eich taith, yn ogystal â hyd y daith (mewn pellter), er mwyn cyfrifo’r llwybr rydych chi wedi’i ddilyn.
Mae'r tabl isod yn amlinellu'r arbedion nodweddiadol y gallwch eu disgwyl wrth ddefnyddio talu wrth fynd yng Ngogledd Cymru.
| Taith | Talu wrth fynd sengl | Ddim yn talu wrth fynd Unrhyw Amser Sengl | Arbed ariannol | Talu wrth fynd dychwelyd yn ôl | Ddim yn talu wrth fynd Unrhyw Amser dychwelyd yn ôl | Arbed ariannol | Talu wrth fynd Cap Wythnosol | Ddim yn talu wrth fynd Tocyn tymor dyddiol | Arbed ariannol |
| Upton i Wrecsam Cyffredinol | £3.90 | £7.40 | -£3.50 | £7.80 | £8.50 | -£0.70 | £25.50 | £37.00 | -£11.50 |
| Penarlâg i Yr Hôb | £2.20 | £2.90 | -£0.70 | £4.40 | £3.00 | £1.40 | £14.40 | £10.40 | £4.00 |
| Wrecsam Canolog i Shotton | £2.70 | £5.10 | -£2.40 | £5.40 | £5.40 | £0.00 | £17.70 | £25.50 | -£7.80 |
| Bidston i Caergwrle | £3.90 | £7.70 | -£3.80 | £7.80 | £9.20 | -£1.40 | £25.50 | £39.20 | -£13.70 |
* Mewn rhai achosion, efallai mai ein tocyn safonol a brynir ar y diwrnod yw'r opsiwn rhataf, ac os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn sicrhau eich bod yn talu'r pris isaf posibl. Dyma enghraifft isod:
- Os yw tocyn Diwrnod Sengl Unrhyw Adeg yn rhatach na phris tocyn talu wrth fynd ar gyfer taith unffordd, codir pris tocyn Diwrnod Sengl Unrhyw Adeg
- Os yw tocyn Diwrnod Dychwelyd Unrhyw Adeg yn rhatach na phris tocynnau talu wrth fynd ar gyfer dwy daith unffordd, codir pris tocyn Diwrnod Dychwelyd Unrhyw Adeg
- Os yw pris Tocyn Tymor 7 Diwrnod yn rhatach na'r cap wythnosol ar docynnau talu wrth fynd, codir pris Tocyn Tymor 7 Diwrnod.
Talu wrth fynd capio
Er mwyn cynyddu gwerth ymhellach i gwsmeriaid sy’n gwneud siwrneiau cymysg yn ystod y dydd neu’r wythnos, mae capiau parthol hefyd ar waith ar gyfer talu wrth fynd.
Capiau dyddiol ac wythnosol ymhob parth
| Math | Cap dyddiol | Cap wythnosol |
| Parth 1 | £5.90 | £17.70 |
| Parth 1 - 3 | £7.20 | £21.60 |
| Parth 2 - 5 | £8.50 | £21.20 |
Enghreifftiau o gapio prisiau dyddiol ac wythnosol wrth ddefnyddio talu wrth fynd os oes gennych gwsmeriaid sy'n teithio'n rheolaidd:
I unrhyw orsafoedd rhwng Wrecsam Cyffredinol a Phont Penarlâg
Byddwch yn dechrau ac yn gorffen eich taith ym mharth 1 a byddwch yn gymwys ar gyfer capiau prisiau dyddiol ac wythnosol parth 1.
Rhwng Wrecsam Cyffredinol a Neston neu Heswall
Byddwch yn dechrau eich taith ym mharth 1 a byddwch yn pasio trwy barth 2, gan orffen eich taith ym mharth 3. ac felly byddwch yn gymwys ar gyfer capiau parth dyddiol ac wythnosol parthau 1-3.
Rhwng Neston a Bidston
Byddwch yn dechrau eich taith ym mharth 3 a byddwch yn pasio trwy barthau 4 gan orffen eich taith ym mharth 5. Byddwch ac felly byddwch yn gymwys ar gyfer capiau parth dyddiol ac wythnosol parthau 2-5.
Rhwng Wrecsam Cyffredinol a Bidston
Byddwch yn dechrau eich taith ym mharth 1 ac yn mynd trwy bob parth, gan orffen eich taith ym mharth 5. Byddwch yn gymwys ar gyfer capiau parth dyddiol ac wythnosol parthau 2-5.
Mae'r map isod yn rhoi amlinelliad o'n rhwydwaith talu wrth fynd a'r parthau lle mae ein gorsafoedd wedi'u lleoli.
Cyfrifir prisiau talu wrth fynd gan ddefnyddio lleoliad daearyddol a phellter (km). Map darluniadol yn unig yw hwn ac nid yw'n dangos y gwir leoliad daearyddol a phellter. Pwrpas y map yw hysbysu'r cwsmer o ba barth y mae pob gorsaf wedi'i lleoli.
Cyfrifir capiau prisiau parthol hefyd yn erbyn pob cyfnod teithio o ddydd Llun i ddydd Sul, a byddwn ni’n adolygu eich teithiau’n barhaus er mwyn penderfynu a oes modd codi tâl am docyn wythnosol yn hytrach na sawl tocyn dyddiol.
Unwaith y byddwch wedi cyrraedd terfyn parth, ni chodir tâl arnoch am deithiau am weddill yr wythnos honno os byddwch yn parhau i deithio o fewn ardal y parth. Os byddwch yn teithio y tu hwnt i ardal parth wedi’i gapio, codir tâl arnoch am eich teithiau nes i chi gyrraedd parth arall wedi’i gapio.
Er enghraifft:
Bydd cwsmer sy'n teithio'n aml o fewn parthau 1 yn cael ei gapio am £17.70*. Os bydd y cwsmer wedyn yn dewis teithio i barth 3 ar ôl gosod cap, codir tâl arno am ei daith parth 3 nes iddo gyrraedd y parth 1-3 wedi’i gapio o £21.60*.
Ar ddiwedd pob diwrnod, bydd eich holl deithiau’n cael eu hasesu i gyfrifo faint o arian sydd angen i chi ei dalu.
Eithriadau
Nid yw talu wrth fynd ar gael ar gyfer teithiau ar drenau GWR. Os byddwch yn mynd ar y trenau hyn wrth ddefnyddio ein gwasanaeth talu wrth fynd, efallai y codir tâl am docyn ar y trên gan reolwr y trên.
Nid yw teithio Dosbarth Cyntaf ar gael wrth ddefnyddio ein gwasanaeth talu wrth fynd. Os hoffech deithio Dosbarth Cyntaf, bydd angen i chi naill ai brynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar wahân neu dalu am uwchraddio Dosbarth Cyntaf ar y penwythnos neu yn ystod yr wythnos.
Ar hyn o bryd nid yw talu wrth fynd yn cynnig gostyngiadau i blant neu gardiau rheilffordd, a allai olygu bod prisiau tocynnau nad ydynt yn rhai talu wrth fynd yn rhatach yn yr achosion hyn.