Safonau’r Siarter Teithio Llesol ar gyfer Cymru

Wedi'i lansio yn 2026, mae Safonau'r Siarter Teithio Llesol (STLl) yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i hyrwyddo teithio cynaliadwy a llesol i staff, ymwelwyr a defnyddwyr gwasanaethau.

Gall dibynnu ar y car ar gyfer cludiant rheolaidd gyfrannu at ffordd o fyw eisteddog, llygredd aer, ynysu cymdeithasol a'r argyfwng hinsawdd.

Drwy gofrestru i'r Safonau, gall cyflogwyr wella lles meddyliol eu staff, lleihau absenoldebau sy'n gysylltiedig â salwch a lleihau allyriadau carbon; tra bod gweithwyr yn elwa o fwy o weithgarwch corfforol, lefelau straen is ac iechyd cyffredinol gwell.

Lawrlwytho Safonau’r Siarter Teithio Llesol ar gyfer Cymru (PDF)

Mae'r gofrestr genedlaethol yn rhestru'r holl sefydliadau sy'n cymryd rhan yn Safonau’r Siarter Teithio Llesol, gan ddangos y lefel uchaf a gyflawnwyd.

Er mwyn aros ar y gofrestr, rhaid i lofnodwyr gyflwyno diweddariad blynyddol byr yn amlinellu cynnydd a gweithrediad parhaus eu camau gweithredu dewisol.

Mae pob sefydliad sydd wedi cofrestru ar gyfer y Safonau hefyd yn cael mynediad at y canlynol:

  • Deunyddiau cyfathrebu sydd ar gael yn genedlaethol, pecynnau cymorth gweithredu, storfa astudiaethau achos a gweminarau a ddatblygwyd ar y cyd gan Trafnidiaeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.
  • Grwpiau cyfoedion lleol dewisol, lle mae capasiti yn caniatáu, i rannu profiadau, arferion da a heriau gyda llofnodwyr eraill y Siarter Teithio Llesol n y rhanbarth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn llofnodi'r Safonau, cysylltwch â Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth. Cyn cysylltu, gwiriwch y gofrestr genedlaethol isod i sicrhau nad yw eich sefydliad eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Safonau. Rhowch ychydig o gefndir, gan gynnwys y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli a'r ffordd orau o gysylltu â chi.

 

Gwybodaeth bellach

Gall sefydliadau ymuno â'r Siarter ar unrhyw adeg a symud ymlaen trwy dair lefel cyflawniad trwy weithredu camau sy'n annog ac yn galluogi dewisiadau teithio iachach a theithio carbon isel.

Mae'r Safonau hyn yn briodol ar gyfer llofnodwyr newydd neu lofnodwyr presennol sydd eisoes wedi cwblhau un o'r Siarterau rhanbarthol cyfredol.

Nid ydynt yn newid y gofynion ar gyfer sefydliadau sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer Siarter Teithio Llesol rhanbarthol gyfredol neu siarter a lansiwyd yn ddiweddar.

Yn lle hynny, mae Safonau’r STLl wedi'u cynllunio i:

  • Ychwanegu hyblygrwydd i lofnodwyr newydd sy'n ymuno â'r rhaglen drwy ganiatáu i sefydliadau ddewis camau gweithredu o restr o opsiynau.
  • Darparu fframwaith cenedlaethol cyson ar gyfer sefydliadau sy'n dymuno mynd y tu hwnt i'w hymrwymiadau Siarter presennol.

Gall y Safonau hefyd gynnig opsiwn symlach i sefydliadau sy'n gweithredu mewn sawl rhanbarth ledled Cymru. Drwy un dull cydlynol, mae hyn yn caniatáu i sefydliadau ddewis rhai camau gweithredu sydd ond yn berthnasol i rai safleoedd a rhai sy'n berthnasol i bawb.

Am ganllawiau pellach ar sut mae'r Safonau'n gweithio, gan gynnwys sut mae lefelau'n cael eu cyflawni a sut i ddewis camau gweithredu, gweler y ddogfen ganllawiau Safonau.