Angen cymorth i lywio'ch opsiynau cymudo?
Rydyn ni yma i wneud teithiau cymudo clyfrach yn rhan ddi-dor o'ch diwrnod gwaith.
Cyngor craff ar gyfer teithiau esmwyth
- Tapiwch i mewn a thapiwch allan wrth y gatiau talu wrth fynd gyda'r un dull talu.
- Gair o rybudd! Ni fydd yn ddilys ar wasanaethau GWR - defnyddiwch drenau TrC a CrossCountry.
- Wrth gynllunio’ch taith, dewiswch 'Ein trenau ni yn unig' a gallwch olrhain hanes eich teithiau gydag ap TrC.
Right
⠀
Mwynhewch hyd yn oed mwy o fanteision pan fyddwch chi'n cofrestru ar ap TrC
Dydy cadw llygad ar eich teithiau trên erioed wedi bod mor rhwydd pan fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer cyfrif ar ap TrC.
- Bwriwch olwg ar eich hanes teithiau a thaliadau llawn mewn un lle.
- Lawrlwythwch eich derbynebau teithio mewn ychydig o dapiau.
- Cewch dderbyn rhybudd os anghofiwch dapio allan, er mwyn osgoi taliadau ychwanegol.
- Gallwch alluogi cof teithiau rheolaidd yn seiliedig ar eich patrymau teithio i ganiatáu i'r ap gwblhau eich teithiau’n awtomatig.
Left
Dysgwch ragor am y ffyrdd clyfar eraill y gallwch deithio
Gadewch i ni barhau i wneud eich teithiau cymudo'n haws, yn fwy gwyrdd ac yn fwy hyblyg bob dydd. Mae gennych fynediad at amrywiaeth o opsiynau teithio:
Unrhyw gwestiynau?
Mae ein tîm wrth law i gynnig cefnogaeth, ateb ymholiadau neu roi cyngor
engagement@tfw.wales