Mae llwybrau golau Nadolig a gaeaf yn ffordd hudolus o gofleidio ysbryd yr ŵyl i oedolion a phlant fel ei gilydd. Gan wneud y mwyaf o’r nosweithiau tywyll, gallwch fwynhau dangosiadau golau ledled Cymru gyda’n hoff lwybrau golau.

Gadewch y car gartre’ a dal y bws neu’r trên i’ch llwybr golau lleol eleni am siwrne hollol ddidrafferth.

 

Y llwybrau golau gorau yng Nghymru

Dyma rai o’r llwybrau golau gaeaf na ddylid eu colli yng Nghymru.

  • Parc Bute
  • Luminate ym Mharc Gwledig Margam
  • Bluestone
  • Castell Caeriw
  • Parc Fferm Manorafon

 

Parc Bute

Dewch i fwynhau’r llwybr golau mwyaf yng Nghymru ym Mharc Bute Caerdydd. Yn y dangosiad anhygoel hwn mae llwybr milltir o hyd gyda goleuadau, miwsig a hud y Nadolig. Mae’n ddigwyddiad cyfeillgar i deuluoedd a enillodd sawl gwobr ac yn siŵr o ddod â sêr i lygaid y teulu oll.

Dyddiadau: 19 Tachwedd tan 31 Rhagfyr
Lleoliad: Caerdydd
Gorsaf agosaf: Cathays

Luminate ym Mharc Gwledig Margam

Ar dir castell gothig a thrawiadol Margam, mae eleni’n fwy nag erioed gyda dyluniadau a gosodiadau golau newydd. Dewch i fwynhau llwybr golau hyfryd yn erbyn cefndir o fiwsig a bwyd a diod Nadoligaidd, gan gynnwys gwin poeth.

Dyddiadau: 25 Tachwedd tan 2 Ionawr
Lleoliad: Port Talbot
Gorsaf agosaf: Parcffordd Port Talbot

Parc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone

Cadwch ysbryd yr ŵyl yn fyw i’r Flwyddyn Newydd a phrofi sioe olau fythgofiadwy ym Mharc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone. Bydd y Serendome yn cael ei thrawsnewid yn Glow Dome gyda charnifal dan do’n llawn o olau a lliw.

Dyddiadau: 4 Ionawr tan 18 Mawrth
Lleoliad: Arberth, Sir Benfro
Gorsaf agosaf: Arberth

Glow yng Nghastell Caeriw

Llwybr golau llai adnabyddus sy’n gweld Castell Caeriw’n cael ei drawsnewid yn wlad hudol aeafol gyda sioe olau anhygoel a digonedd o weithgareddau i’r plant hefyd.

Dyddiadau: 28 Tachwedd tan 14 Rhagfyr
Lleoliad: Doc Penfro, Sir Benfro
Gorsaf agosaf: Doc Penfro

Gŵyl Aeaf ym Mharc Fferm Manorafon

Dewch i fwynhau llwybr golau hud y Nadolig gyda gosodiadau rhyngweithiol, perfformiadau syrcas a llawer mwy. A beth am alw heibio i weld Siôn Corn hefyd, neu ddysgu sut i hedfan car llusg!

Dyddiadau: 5 Rhagfyr tan 23 Rhagfyr
Lleoliad: Abergele, Conwy
Gorsaf agosaf: Abergele

 

Gall teithio ar y trên adeg y Nadolig dynnu’r straen allan o deithio. Prynwch docynnau trên yn uniongyrchol am y prisiau gorau.

Cofiwch: Dylech archebu a gwneud ymholiadau’n uniongyrchol drwy’r lle. Gall argaeledd a dyddiadau newid.