Gall yrru i’r ysbyty a chanfod lle i barcio fod yn lletchwith gan fod y meysydd parcio’n gallu bod yn brysur iawn. Pam ddim osgoi’r drafferth a theithio ar drafnidiaeth gyhoeddus? Mae’r bws neu’r trên yn ffordd gyfleus, cost-effeithlon o deithio, p’un a ydych yn mynd i apwyntiad neu’n ymweld â ffrindiau neu deulu. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth isod a chynlluniwch eich taith heddiw.
Yr hyn sydd angen ichi ei wybod cyn teithio i’r ysbyty
Beth bynnag sy’n fwy cyfleus ichi, gallwch deithio gyda ni ar drên neu ar fws i’r ysbyty. Mae’n berffaith ar gyfer osgoi’r straen o chwilio am le i barcio neu os nad oes gennych fynediad at gerbyd eich hun.
Mynd ar y bws? Cynlluniwch eich taith ar fws, bwriwch olwg ar ein hamserlenni neu defnyddiwch ein map bysiau i ddod o hyd i’r llwybrau gorau i’r ysbyty. Mynd ar y trên? Cynlluniwch eich taith trên a phrynwch eich tocyn cyn teithio.
Mae bysiau a threnau fel arfer yn hygyrch os ydych yn defnyddio cadair olwyn, â rhwystrau o ran symudedd neu os oes anabledd arnoch. Ceir rhagor o wybodaeth yma teithio hygyrch.
Os oes gennych apwyntiad cynnar neu hwyr, sicrhewch eich bod yn cynllunio’ch taith i’r ysbyty ac yn ôl gan baratoi hefyd am unrhyw oedi posib.
Cyrraedd yr ysbyty ar y bws
Gall deithio ar y bws fod yn un o’r ffyrdd gorau o deithio i’r ysbyty. Mae gwasanaethau rheolaidd fel arfer yn dechrau’n gynnar ac yn rhedeg tan hwyr. Mae safleoedd bws fel arfer yn union y tu-allan i’r ysbyty.
Mae tocynnau bws yn fforddiadwy, gyda chonsesiynau i fyfyrwyr, pensiynwyr a mwy.
Mae rhai gwasanaethau bws yn eich galluogi chi i dalu am docyn drwy wneud tap ymlaen ac i ffwrdd, prynu ar-lein neu dalu’r gyrrwr. Sicrhewch eich bod chi’n dod o hyd i’r llwybr gorau ac yn gwirio’r amserlen cyn teithio. Os ydych chi’n mynd i’r ysbyty i ymweld â ffrindiau neu deulu, gwiriwch yr oriau ymweld cyn teithio hefyd.
Cyrraedd yr ysbyty ar y trên
Os ydych chi’n teithio ymhellach ar gyfer apwyntiad ysbyty, neu os oes ysbyty’n agos at yr orsaf, gall y trên fod yn ffordd gyfleus o deithio.
Os ydych chi’n teithio ar fws neu ar drên, rhowch gynnig ar ein tocynnau PlusBus ar gyfer y tocynnau rhataf. Gallwch hefyd arbed arian ar eich tocynnau gyda cherdyn Rheilffordd, drwy brynu hyd at 12 wythnos ymlaen llaw a theithio yn ystod cyfnodau tawelach pan fo’n bosib.
Mae ein trenau a’n gorsafoedd yn hygyrch. Os oes angen help wrth deithio arnoch, gallwch archebu cymorth a byddwn yn hapus i’ch helpu. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 03330 050 501.
Sicrhewch eich bod yn gwirio amserau’ch apwyntiad neu gyfnodau ymweld wrth brynu’ch tocynnau I’r ysbyty ac yn ol a chynlluniwch am unrhyw oedi.
Os ydych yn gweithio mewn ysbyty, mae’r trên yn ffordd wych o gymudo. Mae rhai o’n gwasanaethau’n rhedeg i Loegr os ydych yn teithio ar draws y gororau am apwyntiad, ymweliad neu’r gwaith.
Cerdded ac olwyno
I’r rheini sy’n gallu, mae cerdded, olwyno a beicio yn ffyrdd iach a rhad ac am ddim o fynd i’r ysbyty ac yn ôl. Cyn gadael, cynlluniwch eich llwybr i sicrhau eich bod yn gwybod ymhle yr ydych yn mynd. Defnyddio ffôn clyfar? Lawrlwythwch y map i osgoi problemau o ran colli signal.
Mae gan y rhan fwyaf o ysbytai a gorsafoedd yng Nghymru fannau i storio beiciau. Sicrhewch eich bod yn mynd â chlo cadarn gyda chi. Fel arfer, clo ‘D-lock’ neu ‘U lock’ o safon sydd orau. Gwiriwch yr opsiynau storio cyn ichi fynd i sicrhau bod yna fannau i storio’ch beic.
Mae yna lefydd ar gyfer beiciau ar ein trenau, ond mae yna nifer gyfyngedig o’r rhain yn unig. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Prif ysbytai yng Nghymru a sut i’w cyrraedd
Dyma’r prif ysbytai yng Nghymru yn ogystal â’r gorsafoedd a safleoedd bws agosaf atyn nhw.
| Ysbyty | Gorsaf drenau agosaf | Safle(oedd) bws agosaf | Llwybrau bws allweddol |
| Ysbyty Gwynedd, Bangor | Bangor (tua 1.5 milltir) | Ysbyty Gwynedd | 5, 5C, 42, X5 |
| Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan | Rhyl (tua 5 milltir) | Ysbyty Glan Clwyd | T51, 51, 51B |
| Ysbyty Maelor Wrecsam, Wrecsam | Wrecsam Cyffredinol (tua 0.5 milltir) | Ysbyty Maelor Wrecsam | 1, 12, 21, 27 |
| Bronglais Cyffredinol, Aberystwyth | Aberystwyth (tua 0.5 milltir) | Ysbyty Bronglais (Ffordd Caradog) | T1, T2, X28, 512 |
| Withybush Cyffredinol, Hwlffordd | Hwlffordd (tua 1.5 milltir) | Ysbyty Withybush | 302, 313, T11 |
| Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW), Caerdydd | Lefel Uchaf Y Mynydd Bychan / Lefel Isaf Y Mynydd Bychan (tua 1 filltir) | Prif Fynedfa Ysbyty Athrofaol Cymru / Ysbyty Plant | 8, 9, 51, 53, H59 (Parcio a Theithio) |
| Ysbyty Treforys, Abertawe | Abertawe (tua 5 milltir) | Prif Fynedfa Ysbyty Treforys | 4, 4A, 24, 46, X6 |
| Ysbyty Athrofaol Y Faenor, Cwmbrân | Cwmbrân (tua 2.5 milltir) | Ysbyty Athrofaol Y Faenor | 29, 29A |
| Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd | Casnewydd (De Cymru) (tua 1 filltir) | Ysbyty Brenhinol Gwent (Heol Caerdydd) | 30, 151, R1, X15 |
| Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr Tudful | Merthyr Tudful (tua 2 filltir) | Ysbyty Tywysog Siarl / Siopau Gurnos | 27, 35, 78 |
| Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr | Pen-y-bont ar Ogwr (tua 1 filltir) | Ysbyty Tywysoges Cymru | 404, 63, 172 |
| Ysbyty Singleton, Abertawe | Abertawe (tua 3 milltir) | Ysbyty Singleton (Prif Fynedfa) | 2A, 3A, 4, 4A, 8 |
Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys
Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys i gleifion ledled Cymru sydd, am resymau meddygol, methu teithio i apwyntiadau ysbyty ac yn ôl ar eu pen eu hun.
Mae’r gwasanaeth hwn yn hanfodol i bobl sydd ei angen ac sy’n dibynnu arno a ni ddylid ei ddefnyddio os oes gan y cleifion ffyrdd eraill o deithio rhwng apwyntiadau.
Noder nad yw’r ffaith bod angen triniaeth ar glaf yn meddwl bod mynediad awtomatig at y gwasanaeth hwn. Rhaid i’r holl gleifion fynd drwy broses gymhwystra i wirio a all y gwasanaeth gael ei gynnig iddynt.
I gleifion nad ydynt yn gymwys, gall ein Tîm Trafnidiaeth Arall drafod opsiynau trafnidiaeth yn eich ardal a allai fod o fydd.