Trydaneiddio llinell Treherbert
Bydd y llinellau pŵer uwchben sy’n cludo 25,000 folt yn ‘fyw’, ac y mae yn dra pheryglus i neb ddyfod yn agos at y gwifrau uwchben neu unrhyw ran gysylltiol ohoni. Mae hyn yn cynnwys y mastiau sy'n cynnal y gwifrau, y switshis sy'n cysylltu'r ffrydiau trydan uwchben a'r ceblau. Mae’r llinellau pŵer uwchben wastad yn fyw, ac nid oes angen i chi gyffwrdd â nhw i gael eich niweidio na’ch lladd gan y gall y trydan neidio dros 3 metr.
Er nad oes perygl i bobl sy’n defnyddio’r rheilffordd yn gywir, mae unrhyw un nad yw’n parchu ffin y rheilffordd, y llinell ffens sy’n diogelu pobl a’r rheilffordd weithredol rhag tresmasu damweiniol neu fwriadol, yn peryglu eu hunain.
Gallwch chi ddarllen rhagor am offer llinellau uwchben yma.
Mae rhagor o wybodaeth am ein hymgyrch diogelwch Dim Ail Gyfle ar gael yma.
Gorsaf Ynyswen
Dros y gaeaf, rydym wedi gohirio’r gwaith dros dro dros, gan ganiatáu i’n timau gynllunio’r cam nesaf a’r cam olaf o’r gwaith. Ar ôl dychwelyd i’r safle ym mis Ebrill 2025, byddant yn cwblhau pont droed yr orsaf, yn rhoi arwyneb newydd ar platfformau’r orsaf ac yn gosod dodrefn gorsaf newydd yn barod ar gyfer ei hagor yn hydref 2025.
Rydym yn cynghori cwsmeriaid i ddefnyddio gorsaf Treherbert neu Dreorci hyd nes y gallwn ailagor yr orsaf i deithwyr, a byddwn yn rhedeg bws gwennol tua'r Gogledd i Dreherbert ac i'r De i Dreorci a fydd yn integreiddio ag amserlen y trên.
Gwybodaeth am fysiau yn lle trenau
Wrth i ni gyflwyno'r Metro, efallai y bydd cyfnodau pan fydd angen i ni gau lein Treherbert. Yn ystod cyfnodau lle mae'r rheilffordd ar gau, byddwn yn rhedeg gwasanaethau bws yn lle trên.
Caiff ein teclyn cynllunydd teithiau ei ddiweddaru gyda gwybodaeth ynglŷn â phryd y bydd y rheilffyrdd ar gau a gwybodaeth am wasanaethau bws yn lle trên.
- Safle bws yn lle trên
- Mapiau bysiau yn lle trenau
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?
Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro, sef Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Oeddech chi’n gwybod?
Oeddech chi’n gwybod bod rheilffordd Treherbert yn cael ei gweithredu gan System Signalau Cyfnewid Tocynnau ar hyn o bryd?
Gwrthrych ffisegol y mae’n rhaid i yrwyr trenau ei gael neu ei weld ar reilffordd yw tocyn cyfnewid, gan ei roi i mewn i’r uned tocynnau cyn teithio ar ran benodol o drac sengl. Mae’r tocyn yn cael ei ardystio gydag enwau’r adran y mae’n perthyn iddi, hynny yw, Treherbert, Tonypandy.
Dyma'r peiriant sy'n gweithredu llinell Treherbert: